Toglo gwelededd dewislen symudol

Taliad uniongyrchol

Trefnu eich cefnogaeth eich hun gyda thaliad uniongyrchol.

Os ydych chi yn gymwys am gymorth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, efallai bydd yn well gennych chi drefnu eich cefnogaeth eich hun, yn hytrach na derbyn y gwasanaethau a ddarperir neu a drefnwyd gennym ni er mwyn cael mwy o hyblygrwydd, dewis neu reolaeth. Mae'n bosib y gallwn ni wneud taliad i chi a fydd yn eich galluogi i wneud hyn. Gelwir hyn yn daliad uniongyrchol.

Cyn y gallwch dderbyn Taliad Uniongyrchol fe fydd yn rhaid i chi gael eich hasesu gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a bod yn gymwys i dderbyn y gwasanaethau.

Mae Taliad Uniongyrchol yn cynyddu eich annibyniaeth a'ch dewis trwy roi reolaeth i chi brynu a rheoli eich cefnogaeth eich hun er mwyn cwrdd â'r anghenion a nodwyd yn eich asesiad. Er enghraifft, efallai y byddwch chi'n:

Mae'n bosib darparu rhai o'ch anghenion gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a trefnu eraill eich hun gan ddefnyddio taliad uniongyrchol. 

Pwy sy'n gallu cael Taliad Uniongyrchol?

Gellir cynnig Taliadau Uniongyrchol i bawb bron sy'n gymwys i dderbyn Gwasanaethau Gofal Cymdeithasol. Mewn rhai achosion prin, gall Gorchmynion Llys sy'n ymwneud â dibyniaeth ar gyffuriau/alcohol olygu nad yw Taliad Uniongyrchol yn bosib.

Fel arfer gallwch gael Taliad Uniongyrchol o 16 oed. Nid oes terfyn oedran hynaf. Gall rhiant sy'n ofalwr dderbyn Taliad Uniongyrchol i ddarparu cefnogaeth i blentyn dan 18 oed.

Sut rydw i'n cael Taliad Uniongyrchol?

Er mwyn i chi dderbyn Taliad Uniongyrchol, yn gyntaf mae'n rhaid asesu eich anghenion gofal neu gefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.

Os ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaethau ac rydych yn dewis cael Taliad Uniongyrchol, bydd eich Gweithiwr Cymdeithasol neu eich Rheolwr Gofal yn trafod y canlyniadau personol yr ydych yn gobeithio eu cyflawni â chi, a hefyd yn cytuno ar swm yr arian y byddwch yn ei dderbyn fel Taliad Uniongyrchol. Gallwch wedyn gynllunio sut bydd eich anghenion gofal neu gefnogaeth yn cael eu cyflawni. Cynllun Cefnogi yw'r enw am hwn. Chi sy'n penderfynu ar beth i'w gynnwys yn eich cynllun cefnogi, ond, os dymunwch, gallwch gael cymorth gan eich Gweithiwr Cymdeithasol neu'ch Rheolwr Gofal, gan y Tîm Byw'n Annibynnol neu gan aelodau'r teulu a ffrindiau. Ar yr amod y cyflawnir yr amcanion hyn, gallwch fod mor greadigol ag y mynnwch wrth lunio'r trefniadau cefnogi.

Yna, bydd y Gwasanaethau Cymdeithasol yn talu arian i gyfrif banc ar wahân y bydd angen i chi ei sefydlu. Rydych wedyn yn defnyddio hwn i dalu am eich trefniadau cefnogaeth.

Os ydych eisoes wedi cael asesiad ac eisoes yn derbyn gwasanaethau, gallwch newid i Daliadau Uniongyrchol. Siaradwch â'ch Gweithiwr Cymdeithasol neu Reolwr Gofal.

Os ydych wedi cael eich hysbysu nad ydych yn gymwys i dderbyn gwasanaeth, ni fyddwn yn gallu rhoi Taliad Uniongyrchol i chi.

Wneud cais am asesiad o eich angen gofal neu chefnogaeth Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion

Rheoli taliadau uniongyrchol

Ynghyd â'r dewis a'r hyblygrwydd y mae Taliadau Uniongyrchol yn eu cynnig, ceir cyfrifoldebau hefyd.

Enghreifftiau o daliadau uniongyrchol

Gallech ddefnyddio taliadau uniongyrchol mewnffyrdd gwahanol.

Cyflogi rhywun fel cynorthwy-ydd personol gofal cymdeithasol

Gwybodaeth ac adnoddau i'r rhai sy'n cyflogi cynorthwywyr personol gofal cymdeithasol.

Defnyddio taliadau uniongyrchol i dalu am ofal cartref

Mae'r dudalen hon i bobl sy'n defnyddio, neu'n ystyried defnyddio, taliad uniongyrchol i dalu am wasanaethau gofal.

Cwestiynau cyffrredin am daliadau uniongyrchol

Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml pan fo pobl yn ystyried taliad uniongyrchol yn lle gwasanaethau.

Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC)

Yn Abertawe, rydym yn ceisio darparu cefnogaeth briodol ac amserol i oedolion a'u gofalwyr gan y person cywir.

Tîm Taliadau Uniongyrchol

Mae Taliad Uniongyrchol yn cynyddu eich annibyniaeth a'ch dewis trwy roi reolaeth i chi brynu a rheoli eich cefnogaeth eich hun er mwyn cwrdd â'r anghenion a nodwyd yn eich asesiad.

Eiriolaeth

Cefnogaeth annibynnol a phroffesiynol i'ch helpu i ddeall eich hawliau, gwneud penderfyniadau gwybodus am eich bywyd, a'ch cefnogi i leisio barn am yr hyn sy'n bwysig i chi

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Gorffenaf 2024