Cwestiynau cyffrredin am daliadau uniongyrchol
Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml pan fo pobl yn ystyried taliad uniongyrchol yn lle gwasanaethau.
Pam fod taliadau uniongyrchol yn bodoli?
Beth yw ystyr gwasanaethau gofal a chefnogaeth?
Pam y byddwn am gael taliad uniongyrchol?
A all unrhyw un gael taliad uniongyrchol?
Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio taliad uniongyrchol?
A oes unrhyw beth na allaf ddefnyddio taliad uniongyrchol ar ei gyfer?
Ydy taliad uniongyrchol yn fy ngwneud i'n gyflogwr?
Oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy y gallaf ei gyflogi?
A allaf dderbyn cymorth gyda'r gwaith papur?
Ym mha ffordd y mae taliad uniongyrchol yn fwy hyblyg na gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Faint o arian fyddaf yn ei gael?
A fydd rhaid i mi dalu unrhyw beth fy hun tuag at fy nghofal?
A fydd taliad uniongyrchol yn effeithio ar y budd-daliadau y byddaf yn eu derbyn?
Rwy'n gofalu am oedolyn, a allaf gael taliad uniongyrchol er mwyn fy helpu yn fy rôl gofalu?
Rwy'n rhiant ofalwr, a allaf dderbyn taliad uniongyrchol ar ran fy mhlentyn anabl?
Faint o amser fydd hi'n cymryd i drefnu taliad uniongyrchol?
Beth os nad yw taliadau uniongyrchol yn addas i mi?
Beth yw taliad uniongyrchol?
Swm o arian a roddir i chi gennym ni i dalu am eich gwasanaethau gofal neu gefnogaeth ydyw, yn hytrach na bod y Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu'r gwasanaethau.
Pam fod taliadau uniongyrchol yn bodoli?
Daeth taliadau uniongyrchol i fodolaeth o ganlyniad i bwysau gan bobl anabl a oedd am gael mwy o ddewis a rheolaeth dros sut roeddent yn derbyn eu gwasanaethau. Dros y blynyddoedd, mae pobl eraill sy'n defnyddio'r gwasanaethau gofal cymdeithasol hefyd wedi manteisio ar ddefnyddio taliadau uniongyrchol er mwyn teimlo'n fwy annibynnol.
Beth yw ystyr gwasanaethau gofal a chefnogaeth?
Dyma'r gwasanaethau a ddarperir yn draddodiadol gan y Gwasanaethau Cymdeithasol i bobl ag anabledd neu salwch tymor hir neu oedolion hŷn gwan sy'n dilyn asesiad o'u hanghenion gofal, megis gofal gartref, gwasanaethau dydd a gofal seibiant. Gallwch ofyn am Daliad Uniongyrchol os ydych yn gymwys am ofal neu gefnogaeth gan yr Gwasanaethau Cymdeithasol yn unig.
Pam y byddwn am gael taliad uniongyrchol?
Mae trefnu eich gofal a'ch cefnogaeth eich hun yn rhoi mwy o ddewis a rheolaeth i chi, a gall eich helpu i deimlo'n fwy annibynnol. Er enghraifft, efallai eich bod eisoes yn adnabod rhywun a all ddarparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch, am ddefnyddio asiantaeth gofal cartref penodol, neu am wneud trefniadau unigol ar gyfer seibiant. Mae'n bosib na all gwasanaethau'r awdurdod lleol gael eu darparu ar adegau neu mewn lleoedd sy'n addas i chi neu gynnig y gweithgareddau yr hoffech eu gwneud neu eich caniatáu i'w gwneud gyda'r bobl rydych yn eu dewis. Gall Taliadau Uniongyrchol roi mwy o hyblygrwydd i chi.
A all unrhyw un gael taliad uniongyrchol?
Byddai bron pawb sy'n gymwys am gefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol yn gallu cael taliad uniongyrchol. Gall y bobl na fyddai'n gallu rheoli ymarferoldeb taliad uniongyrchol gael y taliad wedi'i wneud i rywun arall a fydd yn ei reoli ar eu rhan. TMae mwy o fanylion am yr opsiynau amrywiol yn ein tudalen: Rheoli taliadau uniongyrchol.
Ar gyfer beth y gallaf ddefnyddio taliad uniongyrchol?
Gallwch ddefnyddio'ch taliad uniongyrchol i dalu am wasanaethau neu offer a fydd yn bodloni'r nodau yn ein cynllun cefnogi. Er enghraifft, gallwch gyflogi rhywun (cynorthwy-ydd personol) er mwyn darparu'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i fyw yn annibynnol, neu gallwch brynu gwasanaeth gofal gan asiantaeth. Mae rhai pobl yn defnyddio taliad uniongyrchol ar gyfer taliad unigol, megis darn o offer neu seibiant. Dim ond i'r amcanion a nodwyd gael eu bodloni, gallech fod mor greadigol ag y mynnwch wrth lunio'r trefniadau cefnogi.
A oes unrhyw beth na allaf ddefnyddio taliad uniongyrchol ar ei gyfer?
Dylech ddefnyddio eich Taliad Uniongyrchol i fodloni amcanion eich cynllun cefnogi, felly ni allwch ei ddefnyddio, er enghraifft, er mwyn talu biliau'r tŷ. Ni allwch ychwaith ddefnyddio unrhyw un o'ch Taliadau Uniongyrchol i dalu am gostau os ydych wedi cael gwybod, yn dilyn asesiad ariannol, fod disgwyl i chi dalu amdanynt gyda'ch adnoddau eich hun.
A all dau berson neu fwy uno'u taliadau uniongyrchol i brynu gwasanaeth y byddant yn ei ddefnyddio gyda'i gilydd?
Gallant, yr enw am hyn yw cydrannu. Mae'n bosib cydrannu eich taliad uniongyrchol cyfan neu ran ohono gyda thaliad rhywun arall i gyflogi cynorthwy-ydd personol neu brynu gwasanaeth neu eitem a rennir i ddiwallu anghenion, dyheadau a chanlyniadau cyffredinol yn fwy effeithiol ac effeithlon. Rhaid i'r trefniant cydrannu fodloni nodau cynlluniau cefnogi'r holl bobl sy'n ymwneud ag ef. Gall arian cydrannu eich galluogi i fod yn fwy creadigol yn ogystal â gwneud i'ch arian i fynd yn bellach. Fel arfer, bydd yn rhaid i chi sefydlu trefniadau ffurfiol megis cyfrif banc a rennir a chytundeb sy'n nodi faint y bydd pob person yn ei gyfrannu a sut caiff yr arian ei wario. Efallai y bydd angen i chi gael adolygiad o'ch anghenion cefnogi'n gyntaf - siaradwch â'ch rheolwr gofal.
Ydy taliad uniongyrchol yn fy ngwneud i'n gyflogwr?
Os ydych chi'n dewis cael Cynorthwy-ydd Personol, chi fydd cyflogwr y person hwnnw, ond mae digon o gefnogaeth ar gael i'ch helpu chi. Mae ffyrdd eraill o ddefnyddio Taliad Uniongyrchol lle nad oes angen i chi gyflogi rhywun.
Sut ydw i'n cyflogi rhywun?
Byddwch yn derbyn arweiniad a chefnogaeth ar gyflogi'r person sy'n addas i chi. Gallwch gyflogi rhywun sydd eisoes yn hysbys i chi neu gallwch hysbysebu am rywun. Gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol yn helpu. Ceir hefyd ragor o wybodaeth am gyflogi rhywun fel cynorthwyydd gofal cymdeithasol personol.
Oes unrhyw gyfyngiadau ar bwy y gallaf ei gyflogi?
Ni allwch gyflogi rhywun sy'n byw yn yr un tŷ â chi (ar wahân i mewn amgylchiadau eithriadol). Ar wahân i hynny, gallwch gyflogi pwy bynnag yr ydych yn ei ddewis. Bydd angen i'r person yr ydych yn ei gyflogi gael gwiriad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG) (Yn agor ffenestr newydd).
Oes llawer o waith papur?
Os byddwch yn cyflogi cynorthwy-ydd personol, bydd angen gwneud ychydig o waith papur er mwyn bodloni gofynion archwiliad yr awdurdod lleol ac at ddibenion cyflogres. Er hynny, bydd cyn lleied o waith papur â phosib, ac mewn rhai achosion gall ein Tîm Taliadau Uniongyrchol neu ein darparwr cymorth cyflogres a gontractiwyd Compass Independent Living wneud y gwaith papur ar eich rhan.
A allaf dderbyn cymorth gyda'r gwaith papur?
Gallwch, byddwch yn derbyn arweiniad a chefnogaeth barhaus gydag unrhyw waith papur sydd ei angen. Cysylltwch â'n Tîm Taliadau Uniongyrchol.
Ym mha ffordd y mae taliad uniongyrchol yn fwy hyblyg na gofal y Gwasanaethau Cymdeithasol?
Gall taliadau uniongyrchol wneud gwahaniaethau syml sy'n gallu cael effaith fawr ar sut rydych chi'n byw eich bywyd. Er enghraifft, gallwch benderfynu dros eich hunain pryd i godi yn y bore a faint o'r gloch y byddwch yn mynd i'r gwely yn y nos; rhywbeth a fydd yn cael ei reoli ar eich rhan pan fyddwch yn derbyn gwasanaethau'r awdurdod lleol. Efallai fod gennych rai diwrnodau neu wythnosau da pan fydd angen llai o ofal arnoch, ac eraill pan fydd angen mwy o gefnogaeth arnoch er mwyn ymdopi. Mae taliadau uniongyrchol yn ddigon hyblyg er mwyn ymdopi â hyn, a gallwch arbed 'oriau gofal' i'w defnyddio pan fydd eu hangen arnoch fwyaf.
Faint o arian fyddaf yn ei gael?
Mae'r swm y byddwch yn ei dderbyn yn gysylltiedig â'r gost o ddarparu gwasanaeth awdurdod lleol. Mae cyfraddau penodol sy'n dibynnu ar gyfer beth y mae'r arian, a bydd y rhain yn cael eu hesbonio i chi cyn i chi ddechrau derbyn eich taliad uniongyrchol.
A fydd rhaid i mi dalu unrhyw beth fy hun tuag at fy ngofal?
Mae hyn yn dibynnu ar gyfer beth y mae'r taliad uniongyrchol ac ar eich amgylchiadau ariannol unigol. Yn y rhan fwyaf o achosion bydd angen i chi gwblhau ffurflen asesiad ariannol a fydd yn caniatáu i ni edrych ar eich incwm a'ch cynilion a chyfrifo faint, os unrhyw beth, y bydd angen i chi ei dalu. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am sut rydych yn debygol o dalu ar ein tudalen ffioedd ar gyfer gofal cartref.
Mae rhai pobl yn dewis ychwanegu at eu taliad uniongyrchol er mwyn talu am gefnogaeth ychwanegol gan eu cynorthwy-ydd personol neu asiantaeth gofal na fyddai'n cael ei hariannu gan yr awdurdod lleol, megis gwaith tŷ.
A fydd taliad uniongyrchol yn effeithio ar y budd-daliadau y byddaf yn eu derbyn?
Na. Nid ystyrir taliad uniongyrchol fel incwm ac nid y bwriad yw disodli budd-daliadau megis PIP. Felly ni fydd yn effeithio ar eich budd-daliadau presennol.
A allaf gael Taliad Uniongyrchol ar gyfer rhai o'm hanghenion gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol ar gyfer rhai eraill?
Mae'n bosib darparu rhai o'ch anghenion gofal gan y Gwasanaethau Cymdeithasol a threfnu eraill eich hun gan ddefnyddio taliad uniongyrchol.
Rwy'n gofalu am oedolyn, a allaf gael taliad uniongyrchol er mwyn fy helpu yn fy rôl gofalu?
Dim ond os ydych wedi derbyn cynnig o wasanaeth er mwyn diwallu eich anghenion eich hun o ganlyniad i asesiad gofalwr. odd bynnag, mae'n bosib gwneud trefniadau ffurfiol er mwyn i chi allu cefnogi'r person rydych yn gofalu amdano er mwyn rheoli ei daliad uniongyrchol os na all wneud hynny ei hunan.
Mae nifer o bobl sy'n gymwys ar gyfer seibiant yn dewis taliad uniongyrchol gan y gallant brynu gofal sy'n eu galluogi i gael seibiant sydd wedi'i deilwra ar gyfer eu hanghenion unigol.
Rwy'n rhiant ofalwr, a allaf dderbyn taliad uniongyrchol ar ran fy mhlentyn anabl?
Gall rhiant ofalwr dderbyn Taliad Uniongyrchol i ddarparu cefnogaeth i blentyn dan 18 oed. Mae rhai rhieni yn derbyn Taliad Uniongyrchol yn ôl yr hyn a gyfeirir ati fel 'Deddfwriaeth Plentyn mewn Angen'. Unwaith y bydd eich plentyn yn oedolyn, bydd unrhyw Daliad Uniongyrchol yn cael ei dalu iddo, ond byddwch yn gallu ei helpu i'w reoli.
Faint o amser fydd hi'n cymryd i drefnu taliad uniongyrchol?
Mae hyn yn dibynnu p'un ai oes gennych rywun yn barod i ddechrau gweithio drosoch chi neu a ydych wedi dewis asiantaeth gofal cartref, neu a oes angen i chi wneud eich trefniadau o hyd. Unwaith y bydd yr asesiad yn cael ei gymeradwyo, eich trefniadau yn eu lle a'r ffurflenni wedi'u cwblhau gan eich gweithiwr cymdeithasol, bydd yn cymryd oddeutu pythefnos i'r taliad cyntaf gael ei dalu i'ch cyfrif.
Beth os nad yw taliadau uniongyrchol yn addas i mi?
Ni fyddai hynny'n broblem. Os ydych yn teimlo nad yw taliadau uniongyrchol yn iawn i chi wedi'r cwbl, gallwch newid i dderbyn gwasanaethau gan y Gwasanaethau Cymdeithasol.