Toglo gwelededd dewislen symudol

Teledu cylch cyfyng

Mae Cyngor Abertawe'n gweithredu camerâu teledu cylch cyfyng (CCTV) mewnol ac allanol ar draws nifer o leoliadau yn y ddinas.

Ar hyn o bryd rydym yn y broses o uwchraddio'n systemau teledu cylch cyfyng o amgylch Abertawe. Bydd y tudalennau hyn yn cael eu diweddaru gyda'r wybodaeth newydd pan fydd y gwaith uwchraddio wedi'i gwblhau. 

Mae rhai o'r systemau CCTV ar eiddo'r cyngor neu o'u hamgylch, megis y tu mewn i adeiladau dinesig, swyddfeydd, gweithdai a depos a'r tu allan iddynt ac ar stadau tai'r cyngor.

Drwy weithio fel rhan o Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, mae'r cyngor hefyd yn gweithredu camerâu sy'n gweithredu yng nghanol y ddinas a mannau cyhoeddus eraill sy'n cael eu monitro 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am y system hon ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am CCTV.

Diben ein systemau CCTV yw helpu i ddarparu amgylchedd mwy diogel i bawb drwy ddiogelu pobl ac eiddo, atal troseddu a helpu i'w ddatrys pan fydd yn digwydd.

Gweithredir ein holl systemau CCTV yn unol â pholisi CCTV y cyngor, sy'n seiliedig ar godau ymarfer a gyhoeddir gan lywodraeth y DU. Nid yw Cyngor Abertawe'n defnyddio technoleg adnabyddiaeth wyneb ar ei system gamerâu, ac nid oes ganddo gynlluniau i wneud hynny chwaith.

Gwneud cwyn am ddefnydd y cyngor o CCTV

Os hoffech chi wneud cwyn am ddefnydd y cyngor o gamerâu CCTV, defnyddiwch y ffurflen arlein yma.

Byddwch mor fanwl â phosib yn eich cwyn, er enghraifft, disgrifwch leoliad y camera neu'r camerâu yr hoffech chi gwyno amdanynt fel ein bod ni'n gallu ganfod pa adran sy'n gyfrifol amdanynt.

Ymdrinnir â'ch cwyn o fewn 20 niwrnod gwaith gan swyddog sy'n gyfrifol am y system CCTV dan sylw. Os nad ydych yn fodlon ar yr ymateb, gallwch barhau â'ch cwyn drwy broses gwynion corfforaethol y cyngor.

Sylwer nad yw'r cyngor yn gyfrifol am y systemau CCTV y mae trydydd partïon yn berchen arnynt ac yn e rheoli, megis ceidwaid siop a pherchnogion tir preifat. Gellir dod o hyd i grynodeb ar leoliadau camerâu'r cyngor ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin am CCTV.

Hawliau mynediad at ddarnau o ffilm CCTV ar gyfer unigolion

Mae gennych yr hawl i wneud cais i weld darnau o ffilm CCTV o'ch hun o dan y ddeddfwriaeth diogelu data ond nid ydych yn gallu cael gweld darnau o ffilm sy'n cynnwys unrhyw drydydd partïon.

Os nad oes modd cydysnio â'ch cais heb ddatgelu hunaniaeth unigolyn neu unigolion eraill, ac os nad oes gennych eu caniatâd, bydd angen ystyried eich cais o fewn cyd-destun y radd o breifatrwydd y gallent ei ragweld yn rhesymol o fod yn y lleoliad hwnnw ar yr adeg honno, yn unol â'r ddeddfwriaeth. Bydd eich cais hefyd yn cael ei wrthod os ydych chi wedi dioddef trosedd a gall ein penderfyniad i ddarparu darn o ffilm i chi niweidio gwaith yr Heddlu o ran dal ac erlyn y troseddwyr.

Bydd unrhyw ddarn o ffilm yn cael ei golygu'n unol â'r egwyddor hon cyn i chi gael ei gweld, neu gwrthodir i chi ei gweld os ystyrir y bydd hynny'n peryglu unigolion eraill yn ormodol.

Oherwydd yr amser a'r adnoddau y mae eu hangen er mwyn gwylio a dod o hyd i'r wybodaeth, ni ellir prosesu ceisiadau dyfaliadol am ddarnau o ffilm CCTV nad ydynt yn nodi union fanylion lleoliad, amser a dyddiad y digwyddiad.

Ein ffordd arferol o ddangos y ffilm i chi yw drwy drefnu apwyntiad sy'n gyfleus i bawb yn y swyddfeydd dinesig er mwyn i chi ei gweld. Mae gennych yr hawl i wneud cais am gopi personol o'r ffilm, fodd bynnag, codir tâlam unrhyw ddeunyddiau, tâl post a phacio sy'n ofynnol er mwyn cyflawni'ch cais.

Os ydych chi am weld darnau o ffilm CCTV o'ch hunan yr ydych chi'n credu eich bod chi wedi'ch cynnwys arnynt, cwblhewch y ffurflen Cais am ffilm CCTV a darparwch dystiolaeth ffotograffig i brofi'ch hunaniaeth fel sy'n ofynnol yn y ffurflen - Cais am fynediad at ddarnau o ffilm CCTV

Sylwer, cedwir ffilmiau CCTV y cyngor am uchafswm o 31 o ddiwrnodau yn unig o ddyddiad y recordio (ar gyfer rhai systemau, fe'i cedwir am hyd at 21 o ddiwrnodau), felly mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch cais yn syth ar ôl unrhyw ddigwyddiad.

Os yw'ch cais yn ymwneud â difrod i'ch cerbyd modur pan oedd wedi'i barcio a heb oruchwyliaeth, gallwch ofyn i'ch cwmni yswiriant wneud cais am wybodaeth ar eich rhan, fel yr amlinellir isod, ond nid ydych yn gallu gwneud cais testun am wybodaeth sy'n ymwneud â darnau o ffilm CCTV o'ch hunan yn unig.

Adrodd am drosedd a all fod wedi'i ffilmio ar ein CCTV

Os ydych chi'n gweld unrhyw beth amheus rydych yn amau ei fod yn weithgarwch troseddol, neu os ydych chi wedi dioddef trosedd, rhowch wybod i'r heddlu. Os nad yw eich galwad yn un brys, adroddwch am y mater wrth yr Heddlu gan ffonio 101, neu ffoniwch 999 os yw'n argyfwng. Os ydych chi'n sylweddoli, neu eisoes wedi sylweddoli, fod camera CCTV ger lleoliad y digwyddiad, rhowch wybod am hyn i'r Heddlu pan fyddwch yn adrodd am y digwyddiad ac, os gallwch, rhowch union leoliad y camera iddynt.

Os ydych chi wedi dioddef trosedd ac rydych yn adrodd amdani i'r Heddlu, mae gan yr Heddlu'r hawl i wneud cais am gyfres lawn o ddarnau o ffilm CCTV o bob camera sy'n gweithredu yn yr ardal a byddwn yn gallu eu rhoi iddynt er mwyn eu helpu i ddal ac erlyn yr unigolion sy'n gyfrifol. Bydd angen i'r Heddlu ddadansoddi'r holl ddarnau o ffilm CCTV perthnasol felly bydd darparu cymaint o wybodaeth â phosib ynghylch lleoliad, dyddiad ac amser y trosedd yn gwneud y dasg yn haws i'r Heddlu.

Hawliau mynediad at ddarnau o ffilm CCTV o wrthdrawiadau traffig ffyrdd ar gyfer cwmnïau yswiriant

Os ydych chi wedi bod yn rhan o wrthdrawiad traffig ffordd neu ddigwyddiad tebyg rydych chi'n tybio ei fod wedi'i recordio ar un o gamerâu'r cyngor, gall eich cwmni yswiriant wneud cais am ddarnau o ffilm o dan Atodlen 2 Rhan 1(5) o Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd y darnau o ffilm berthnasol, os ydynt yn bodoli, yn cael eu hanfon ato'n uniogyrchol.

Mae'n rhaid i'ch cwmni yswiriant gwblhau'r ffurflen Cais am ddarnau o ffilm CCTV ar gyfer cwmniau yswiriant a darparu llythyr gennych chi i ni er mwyn datgan eich caniatâd iddyn nhw weithredu ar eich rhan, yn ogystal â chopi o'ch tystysgrif rhif cofrestru cerbyd V5C. Er mwyn arbed amser wrth brosesu'r cais rhowch wybod i'ch cwmni yswiriant am y ffurflen gais ar-lein hon wrth i chi ddarparu copïau o'r tystysgrif V5C angenrheidiol a'ch llythyr caniatâd - Cais i weld darn o ffilm CCTV ar gyfer yswiriant a chyfreithwyr

Ar gyfer y broses hon, rhaid talu ffi o £100 + TAW, nad yw'n ad-daladwy. Gofynnwch i'ch cwmni yswiriant e-bostio community.safety@abertawe.gov.uk neu ffonio Gareth Pritchard ar 07917 200079 cyn llenwi'r ffurflen a thalu er mwyn gwirio bod y ffilm berthnasol wedi'i recordio ar adeg y digwyddiad ac nad yw wedi'i dinistrio eto, yn unol â'r rheolau cadw safonol.

Cwestiynau cyffredin am CCTV

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am CCTV.

Cais i weld darn o ffilm CCTV (ffurflen ar-lein)

Os ydych chi am wneud cwyn am ddefnydd y cyngor o'i gamerâu CCTV, defnyddiwch y ffurflen ar-lein hon.

Cais am fynediad at ddarnau o ffilm CCTV

Sylwer: gallwch gyflwyno cais testun am wybodaeth lle rydych chi'n ymddangos yn bersonol yn ein darnau o ffilm CCTV yn unig.

Cais i weld darn o ffilm CCTV ar gyfer yswiriant a chyfreithwyr

Sylwer bod y ffurflen hon at ddefnydd cwmniau yswiriant a chyfreithwyr yn unig.

Cais gan wrthrych y data

O dan hawliau gwrthrych y data a roddir gan y GDPR, mae hawl gennych i ganfod pa wybodaeth sydd gan y cyngor amdanoch.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 10 Mehefin 2024