Toglo gwelededd dewislen symudol

Triniaeth arbennig

Os ydych yn gweithio mewn busnes, sy'n tyllu croen, mae'n rhaid bod trwydded gennych.

Mae'r gyfraith yn newid. O 29 Tachwedd 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw weithdrefn arbennig ar rywun arall yng Nghymru fod yn drwyddedig a bydd angen i mangreoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo.

Trwyddedau ar gyfer tatwyddion, trydylliadau, electrolysis ac aciwbigiadau

Mae'r drwydded yn cynnwys aciwbigo, tyllu'r corff, electrolysis a thatŵio.

Mae'n rhaid bod gan bob ymarferydd ei drwydded triniaeth arbennig ei hun a fydd yn cadarnhau'r driniaeth/triniaethau y mae ganddo drwydded bersonol i'w rhoi.

Mae'n rhaid bod gan bob mangre neu gerbyd busnes triniaethau arbennig ei thystysgrif/ei dystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd ei hun.

Bydd rhaid i'r holl ymarferwyr sy'n gyfrifol am eu cerbyd/mangre eu hunain gael trwydded triniaethau arbennig (ar gyfer eu hunain) a thystysgrif cymeradwyo mangre/cerbyd (ar gyfer y fangre/cerbyd).

In partnership with EUGO logo
Sut mae gwneud cais

Cais am drwydded triniaeth arbennig (Mangreoedd a Cherbydau) Cais am drwydded triniaeth arbennig (Mangreoedd a Cherbydau)

Cais am drwydded triniaeth arbennig (Person) Cais am drwydded triniaeth arbennig (Person)

Mae'n rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r cais.  Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen. 

Ffïoedd

Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais. 

Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' ac anfon y tâl gyda'ch ffurflen wedi'i chwblhau.

Ffïoedd ar gyfer triniaethau arbennig Ffïoedd ar gyfer triniaethau arbennig

Caniatâd dealledig

Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Bwyd a Diogelwch.

 

Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.

Trwyddedau ar gyfer tatwyddion, trydylliadau, electrolysis ac aciwbigiadau

Mae'r gyfraith yn newid. O 29 Tachwedd 2024 ymlaen, bydd yn ofynnol yn gyfreithiol i ymarferwyr sy'n cyflawni unrhyw weithdrefn arbennig ar rywun arall yng Nghymru fod yn drwyddedig a bydd angen i mangreoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 11 Rhagfyr 2024