Twyll tenantiaeth tai'r cyngor
Rydym yn ystyried bod twyll tenantiaeth yn fater difrifol iawn ac mae gennym nifer o wiriadau mewnol ar waith i atal a datgelu twyll o'r fath.
Drwy ymladd yn erbyn twyll tenantiaeth, gallwn sicrhau bod y rhai y mae gwir angen arnynt yn cael cartrefi, gan leihau cost darparu llety dros dro i'r digartref ar yr un pryd.
Mae rhywun yn cyflawni twyll tenantiaeth os yw'n:
- rhoi gwybodaeth anwir amdano'i hun neu'n defnyddio dogfennau ffug wrth gyflwyno cais am dai
- cyflwyno cais i etifeddu tŷ rhywun sydd wedi marw pan nad yw'n gymwys drwy roi gwybodaeth anwir
- byw yn rhywle arall er fod ganddo denantiaeth tai cymdeithasol
- is-osod ei dŷ cyfan, neu ran o'i dŷ, i rywun arall heb ganiatâd ei landlord, y cyngor
Beth allwch chi ei wneud i helpu
Rydym yn gweithio'n galed i ddod o hyd i dwyllwyr tai a sicrhau bod cartrefi yn cael eu rhoi i'r rheini sydd nesaf ar y rhestr. Mae eich help wrth adrodd am dwyll tai yn bwysig oherwydd gallwch weld beth sy'n digwydd yn eich cymdogaeth. Efallai y byddwch yn gallu helpu gyda'r canlynol:
- rydych yn gwybod bod gan rywun gartref nad yw'r landlord yn gwybod amdano neu mae wedi rhoi gwybodaeth ffug yn ei gais am dai
- rydych yn amau rhywun o dwyll tai ar ôl ei weld yn casglu rhent gan eich cymdogion
- rydych yn amheus am fod tenantiaid eiddo'n newid yn rheolaidd
Os ydych yn amau bod rhywun yn dwyllwr tai, rhowch wybod i ni. Gallai wneud gwahaniaeth mawr.
Adrodd am dwyll Adrodd am dwyll
Gallwch hefyd roi gwybod am dwyll drwy:
- ffôn 01792 635359
- e-bost fraud@swansea.gov.uk
- ysgrifennu at y Tîm Twyll Corfforaethol, Is-adran Archwilio, Canolfan Ddinesig, Abertawe SA1 3SN.
Caiff pob adroddiad ei drin yn gwbl gyfrinachol, a gallwch ei gyflwyno'n ddienw.