Rydym yn defnyddio cwcis ar y wefan hon i wella'r profiad i ddefnyddwyr. Gallwch ddilyn y ddolen a ddarperir yma i deilwra'ch profiad, neu dderbyn pob un a pharhau ar y dudalen hon.
Mae'n rhaid i chi gwblhau pob rhan o'r cais. Bydd angen i chi dalu ffi'r cais pan gyflwynwch eich ffurflen.
Ffïoedd
Mae'n rhaid i chi gyflwyno'ch ffi gyda'r cais.
Os gwnewch gais trwy'r post, dylech wneud sieciau'n daladwy i 'Dinas a Sir Abertawe' ac anfon y tâl gyda'ch ffurflen wedi'i chwblhau.
Ffïoedd ar gyfer trwyddedau tyllu croen
Math o drwydded
Cost
Safleoedd
£111.00
Person
£61.00
Caniatâd dealledig
Er budd y cyhoedd mae'n rhaid i'r awdurdod brosesu eich cais cyn iddo gael ei ganiatáu. Os nad ydych wedi clywed gennym o fewn cyfnod rhesymol, cysylltwch â'r tîm Bwyd a Diogelwch.
Os oes gennych unrhyw broblem gyda'ch cais, neu os hoffech fwy o wybodaeth, ffoniwch ni ar 01792 635600 neu e-bostiwch bwydadiogelwch@abertawe.gov.uk.
Os yw busnes yn ymwneud â nodwyddo neu datŵio, lliwio'r croen rhannol-barhaol (meicrobigmentiaid), tyllu'r corff neu glustiau neu electrolysis, mae rhaid iddo gael trwydded.