Sioe Awyr Cymru 2023
1 - 2 Gorffennaf 2023


Nid yw'r holl gyffro'n digwydd yn yr awyr yn unig - bydd Prom Abertawe'n llawn arddangosiadau ar y ddaear, tryciau bwyd a diod blasus, profiadau rhithwirionedd, cerddorion a bandiau'n chwarae cerddoriaeth fyw, arddangosiadau, gweithgareddau i deuluoedd, reidiau a mwy! Does dim syndod bod dros 200,000 o bobl yn dod i'r digwyddiad bob blwyddyn.
Oes gennych ddiddordeb mewn noddi'r digwyddiad hwn?
Mae cyfleoedd nawdd ar gael ar gyfer y digwyddiad hwn. Mae pecynnau ar gael sy'n addas i bob cyllideb y gellir eu teilwra i ddiwallu'ch anghenion a'ch amcanion. I gael rhagor o wybodaeth am weithio gyda ni, e-bostiwch Commercial@swansea.gov.uk
Noddwyr a phartneriaid Sioe Awyr Cymru 2023
John Pye Auctions - cefnogwr Sioe Awyr Cymru 2023

Great Western Railway - partner teithio Sioe Awyr Cymru 2023

Dawsons Estate Agents - noddwyr bandiau arddwrn ar gyfer plant sydd ar goll

Gower College Swansea - noddwr y Bwrdd Hedfan a'r Babell VIP
