Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Opsiynau ar gyfer ymdrin â'ch dyledion

Os oes gennych ddyled ac rydych yn ansicr ynghylch yr hyn y gallwch ei wneud i helpu i'w thalu, yna bydd y camau hyn yn eich helpu p'un a yw'ch dyled yn fach neu'n fawr.

Enillwch yr holl incwm sydd ar gael i chi

Os oes gennych swydd, gwiriwch eich slip tâl

Ydych chi'n derbyn y swm cywir ar gyfer yr oriau cywir? A yw'ch côd treth (Yn agor ffenestr newydd) yn gywir? (Os nad yw'n gywir, gallwch fod yn colli allan bob diwrnod cyflog.) Os ydych yn gweithio trwy asiantaeth, cymerwch ofal: mae camgymeriadau o ran codau treth yn gyffredin.

Hawliwch yr holl fudd-daliadau a chredydau treth y gallwch eu hawlio

Ni fydd unrhyw un yn rhoi gwybod i chi os oes gennych hawl i rywbeth; bydd angen i chi ddarganfod hynny. Nid yw llawer o bobl (yn enwedig y rheini â swydd) yn hawlio popeth y mae ganddynt hawl iddo. Mae biliynau o bunnoedd heb eu hawlio bob blwyddyn.

Gwiriwch pa fudd-daliadau y gallwch eu hawlio o bosib trwy ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau Cyfrifianellau budd-daliadau

Dod o hyd i gyngor a chymorth ar fudd-daliadau Dod o hyd i gyngor a chymorth ar fudd-daliadau

Gall hawlio budd-daliadau a datrys problemau treth gymryd amser. Daliwch ati.

Gwariwch lai ar eich dyledion

Y ffordd orau o gael gwared ar eich dyledion yw:

  • llunio trefnwr cyllideb
  • gwario llai i gynilo mwy o arian i ad-dalu'r dyledion
  • bod yn drefnus o ran ad-daliadau

Defnyddio credyd rhatach

Mae unrhyw fath o gredyd, boed yn fenthyciad, yn orddrafft, yn gerdyn siop neu'n eitem a brynwyd ar sail "prynu nawr, talu'n hwyrach", yn costio arian. Ystyriwch gredyd fel ffordd o brynu arian a chwiliwch am y fargen orau.

Os bydd angen i chi gael credyd, ceisiwch gyngor gan sefydliad cymorth dyled am ddim cyn gwneud hynny. 

Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled

Gall fod yn rhatach cael benthyciad undeb credyd yn hytrach na chael credyd oddi wrth siop. Os cawsoch gredyd heb chwilio am opsiynau rhatach, gofynnwch am gyngor i weld a oes ffordd o leihau'r gost neu dalu'r benthyciad yn gynt.

Gwariwch lai ar fywyd pob dydd

Mae'r rhyngrwyd yn llawn awgrymiadau ar gyfer arbed arian. Neilltuwch beth amser a gwnewch beth ymchwil i weld beth sy'n rhatach. Os ydych yn chwilio am ffyrdd o leihau biliau eich cartref, arbed arian ar gludiant neu ddod o hyd i gynigion ar bethau y mae angen i chi eu prynu, mae nifer o wefannau ar gael i'ch helpu.

Os ydych yn siopa ar y stryd fawr, ceisiwch osgoi siopau sy'n cynnig credyd. Mae gan Abertawe rai siopau ail law da sy'n helpu'r amgylchedd trwy gadw pethau da allan o domenni sbwriel a chefnogi elusennau, yn ogystal â gwerthu pethau'n rhad. 

Os ydych yn gobeithio lleihau faint rydych chi'n ei wario ond nid ydych yn siŵr ble i ddechrau cymerwch gip ar yr awgrymiadau (Yn agor ffenestr newydd) ar wefan Money Saving Expert. Cymerwch amser i eistedd i lawr a chwblhau pob cam i weld beth allwch chi ei arbed. Os ydych am leihau faint o arian rydych yn ei wario o hyd, mae awgrymiadau ar gael i newid eich gwariant sy'n cynnwys lleihau neu newid elfennau o'ch ffordd o fyw.

Gosod cyllideb sy'n lleihau dyledion

Mae ad-dalu dyledion yn golygu bod gennych lai o arian i'w wario, felly rydych mewn perygl o fod mewn mwy o ddyled. Mae cyllideb lleihau dyledion yn dangos faint o ddyled y gallwch chi ei had-dalu gan sicrhau bod gennych ddigon o arian dros ben.

Rydym yn argymell tri offeryn gwych i'ch helpu i bennu cyllideb:

Pan fyddwch yn pennu'ch cyllideb, byddwch yn onest am yr hyn rydych chi'n ei wario mewn gwirionedd. Yn ddelfrydol, dylech edrych dros y flwyddyn ddiwethaf a chynnwys arian a wariwyd ar wyliau, y Nadolig a phen-blwyddi. Sicrhewch eich bod yn cynnwys popeth rydych wedi gwario arian arno.

Pan fyddwch wedi pennu'ch cyllideb, gwiriwch a allwch chi fforddio cynyddu symiau eich ad-daliadau ar gyfer cardiau a benthyciadau. Dylech o leiaf sicrhau eich bod yn talu mwy na'r lleiafswm bob mis. Mae hyn yn golygu y byddwch yn ad-dalu mwy o'ch dyled yn gynt, sy'n allweddol ar gyfer lleihau dyledion. Os na allwch dalu pob cost, peidiwch â chynhyrfu. Gofynnwch am gyngor am ddim gan sefydliad arbenigol. Mae llawer o sefydliadau ac elusennau ar gael a all eich helpu am ddim. Peidiwch â thalu am gyngor i leihau eich dyled gan y bydd hyn yn gwaethygu'r ddyled.

Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled

Rheolwch y sefyllfa: Cewch help am ddim

Cofiwch: peidiwch â thalu am gymorth dyled. Pan fyddwch yn derbyn cyngor rheoli dyled am ddim, bydd yr holl arian yn cael ei ddefnyddio i dalu'ch dyledion. O ganlyniad, byddwch yn cael gwared ar eich dyled yn gynt.

Mae'r sefydliadau isod yn rhoi cymorth dyled cyfrinachol, am ddim. 

Cysylltwch ag un ohonynt heddiw, yn enwedig os na allwch dalu lleiafswm eich ad-daliadau. Gallant eich helpu i gytuno ar ad-daliadau llai gyda'ch credydwyr (y bobl y mae arnoch arian iddynt), ac atal eich llog neu ffïoedd rhag cynyddu.

Os ydych yn bryderus a dan straen, byddant yn deall hynny. Po gynted y byddwch yn cymryd rheolaeth, y cyflymaf y byddwch yn teimlo'n well. Byddant yn gwrando ar eich sefyllfa ac yn esbonio beth allai weithio i chi ac yn helpu i ymdrin â'ch problemau dyled. Does gennych ddim i'w golli!  

Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled Dod o hyd i gyngor a chefnogaeth ar gyfer dyled