Etholiad Cyffredinol Seneddol y Deyrnas Unedig 2024
Bydd Etholiad Cyffredinol Llywodraeth y DU yn cael ei gynnal ar Ddydd Iau 4 Gorffennaf, 2024.
Don't forget that you will need to show photo id when voting in this election. Find out more: Photo ID needed for voting
Dyddiadau allweddol i'ch dyddiadur:
- Dydd Mawrth 18 Mehefin, 11.59pm - Dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio
- Dydd Mercher 19 Mehefin, 5pm - Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais bost
- Dydd Mercher 26 Mehefin, 5pm - Dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ac am wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr am ddim
- Dydd Iau 4 Gorffennaf, 7am - 10pm - Diwrnod pleidleisio
Newid Ffiniau - Neath ac Abertawe (Y Comisiwn Ffiniau i Gymru)
Fel rhan o'i argymhellion terfynol mae'r Comisiwn wedi cynnig 3 etholaeth yn ardal Castell-nedd ac Abertawe, sef Gower, Swansea West, a Neath and Swansea East.
Mae angen ID ffotograffig er mwyn pleidleisio
Bydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio ar gyfer rhai etholiadau.
Newidiadau i bleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy
Byddwch yn ymwybodol o newidiadau sydd bellach ar waith os ydych yn ystyried gwneud cais i bleidleisio drwy'r post neu os ydych yn ystyried penodi rhywun i bleidleisio ar eich rhan (a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy).
Ble mae fy ngorsaf bleidleisio?
Bydd yr orsaf bleidleisio ddynodedig yn cael ei nodi ar eich cerdyn pleidleisio neu fel arall gallwch ddefnyddio ein chwiliad côd post.
Sut ydw i'n pleidleisio?
Yn y DU, gallwch fwrw pleidlais mewn tair ffordd wahanol.