Toglo gwelededd dewislen symudol

Fferm Gymunedol Abertawe

Fferm Gymunedol Abertawe yw'r unig fferm ddinesig yng Nghymru, a chaiff ei chynnal gan y gymuned, i'r gymuned. Mae pantri cymunedol bach hefyd ar gael i'r rheini mewn angen.

Bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn: 10.00am - 4.00pm

Banciau bwyd a chymorth bwyd arall

Mae pantri cymunedol bach ar gael i'r rheini mewn angen. Croesewir rhoddion hefyd.

  • Dydd Mawrth, 10.00am - 4.00pm
  • Dydd Iau, 10.00am - 4.00pm
  • Dydd Sadwrn, 10.00am - 4.00pm

Lle Llesol Abertawe

Ydych chi'n chwilio am le cysurus a chroesawgar i ymlacio y gaeaf hwn? Mae Fferm Gymunedol Abertawe'n agor ei chaffi bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn i ddarparu lle cynnes a chyfforddus i deuluoedd ac unigolion.

Mae lle yn eu hardal dan do sydd wedi'i gwresogi i hyd at 40 o bobl ac mae'n fan perffaith i ymlacio ar ôl bod am dro o gwmpas y fferm. Gall ymwelwyr fwynhau gweithgareddau lliwio a gemau ac mae'r pantri cymunedol ar gael iddynt hefyd.

Mae ardal y caffi ar agor o 10.00am i 4.00pm, a bydd pryd poeth, byrbrydau a diodydd ar gael i'w prynu (ac eithrio dydd Mawrth pan fydd y gegin ar gau). Mae'n gyfle gwych i gysylltu ag eraill, mwynhau natur a manteisio ar yr adnodd am ddim hwn sy'n addas i'r teulu.

  • Teganau i blant / ardal chwarae i blant
  • Gemau / gemau bwrdd
  • Dŵr yfed ar gael
  • Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain

Cynhyrchion mislif am ddim

Mae cynnyrch mislif ecogyfeillgar am ddim ar gael yn yr ystafell ymolchi ar y safle yn ogystal ag yn y pantri cymunedol (nes bod yr holl stoc wedi mynd).

Mae eitemau ar gael bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn yn ystod oriau agor y fferm, sef 10.00am i 4.00pm.

Cyfleusterau'r lleoliad

  • WiFi am ddim
  • Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
  • Mynedfa / lleoliad hygyrch
  • Toiledau / toiledau hygyrch  cyfleusterau newid cewynnau
  • Mannau parcio ceir / parcio i'r anabl - sylwer nad oes llawer o le i barcio ar y safle

Cyfeiriad

2 Pontarddulais Road

Cadle

Abertawe

SA5 4BA

Cael cyfeiriadau Gweld ar Google Maps

Rhif ffôn

01792 578384
Dim rhagor ar gael
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu