Fferm Gymunedol Abertawe
Bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn: 10.00am - 4.00pm
Banciau bwyd a chymorth bwyd arall
Mae pantri cymunedol bach ar gael i'r rheini mewn angen. Croesewir rhoddion hefyd.
- Dydd Mawrth, 10.00am - 4.00pm
- Dydd Iau, 10.00am - 4.00pm
- Dydd Sadwrn, 10.00am - 4.00pm
Lle Llesol Abertawe
Ydych chi'n chwilio am le cysurus a chroesawgar i ymlacio y gaeaf hwn? Mae Fferm Gymunedol Abertawe'n agor ei chaffi bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn i ddarparu lle cynnes a chyfforddus i deuluoedd ac unigolion.
Mae lle yn eu hardal dan do sydd wedi'i gwresogi i hyd at 40 o bobl ac mae'n fan perffaith i ymlacio ar ôl bod am dro o gwmpas y fferm. Gall ymwelwyr fwynhau gweithgareddau lliwio a gemau ac mae'r pantri cymunedol ar gael iddynt hefyd.
Mae ardal y caffi ar agor o 10.00am i 4.00pm, a bydd pryd poeth, byrbrydau a diodydd ar gael i'w prynu (ac eithrio dydd Mawrth pan fydd y gegin ar gau). Mae'n gyfle gwych i gysylltu ag eraill, mwynhau natur a manteisio ar yr adnodd am ddim hwn sy'n addas i'r teulu.
- Teganau i blant / ardal chwarae i blant
- Gemau / gemau bwrdd
- Dŵr yfed ar gael
- Mae croeso i ymwelwyr ddod â'u bwyd / diodydd eu hunain
Cynhyrchion mislif am ddim
Mae cynnyrch mislif ecogyfeillgar am ddim ar gael yn yr ystafell ymolchi ar y safle yn ogystal ag yn y pantri cymunedol (nes bod yr holl stoc wedi mynd).
Mae eitemau ar gael bob dydd Mawrth, dydd Iau a dydd Sadwrn yn ystod oriau agor y fferm, sef 10.00am i 4.00pm.
Cyfleusterau'r lleoliad
- WiFi am ddim
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch cyfleusterau newid cewynnau
- Mannau parcio ceir / parcio i'r anabl - sylwer nad oes llawer o le i barcio ar y safle