Datganiadau i'r wasg Hydref 2022
Gyda'i gilydd! Cerfluniau'r ddinas gyda'i gilydd fel atyniad celf am ddim
Mae 10 glôb Abertawe o'i llwybr celf cyhoeddus yng nghanol y ddinas yn cael eu harddangos mewn un lle am y tro cyntaf i greu profiad addysgol, unigryw.
His Dark Materials: Creu Bydoedd yng Nghymru
Mae Oriel Gelf Glynn Vivian yn Abertawe yn falch o gyhoeddi golwg y tu ôl i'r llenni o'r cyfresi arobryn His Dark Materials gan y BBC a HBO ar y cyd â Bad Wolf. Bydd y gyfres, sydd wedi'i seilio ar drioleg o nofelau clodwiw Philip Pullman, yn dod i ben ar ôl ei drydydd tymor, sef yr un olaf, yn hwyrach eleni.
Cyllid am ddim ac awgrymiadau arbed ynni ymysg y gefnogaeth sydd ar gael mewn digwyddiad busnes dan arweiniad arbenigwyr
Mae awgrymiadau ar arbed ynni, cael gafael ar gyllid a sut i wneud yn fawr o gyfryngau cymdeithasol ymysg y rheini sydd ar gael i fusnesau Abertawe mewn digwyddiad am ddim fis nesaf.
Digwyddiad treftadaeth Nadoligaidd i hybu busnesau yn Nhreforys
Bydd preswylwyr a busnesau Treforys yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn digwyddiad Nadolig ar thema Oes Fictoria.
Digwyddiadau arswydus yn profi pa mor ddewr yw ymwelwyr â'r castell
Gwahoddir teuluoedd sy'n dwlu ar bob peth hunllefus i ymweld â Chastell Ystumllwynarth y Calan Gaeaf hwn.
Busnesau'r ddinas i ennill sgiliau newydd fel rhan o ymgais i ddod yn sero net
Bydd gweithluoedd ar draws Abertawe yn ennill sgiliau newydd i helpu i dorri allyriadau carbon.
Arddangosfa'n dathlu bywyd ffermio yn Abertawe
Mae "Straeon a Thirwedd Newidiol, Safbwynt Ffermwr" yn brosiect sy'n dogfennu ac y dathlu treftadaeth ffermio leol.
Myfyrwyr Abertawe yn cymryd rhan mewn ymdrech ailgylchu'r ddinas
'Sortwch e' ac ailgylchwch eich gwastraff cartref yw'r cyngor i fyfyrwyr newydd a'r rhai sy'n dychwelyd i Abertawe.
Mae arddangosfa tân gwyllt fwyaf Abertawe'n dychwelyd yn ei holl ogoniant!
Bydd Cyngor Abertawe'n croesawu ei arddangosfa tân gwyllt flynyddol yn ôl y mis nesaf - a gellir mynd iddi am ddim.
Bydd gwasanaeth newydd yng nghanol y ddinas yn helpu pobl drwy'r argyfwng costau byw
Mae gwasanaeth poblogaidd wedi dychwelyd i ganol dinas Abertawe i helpu aelwydydd lleol drwy'r argyfwng costau byw.
Digwyddiadau am ddim dros yr wythnosau nesaf er mwyn helpu teuluoedd i arbed arian
Mae digwyddiadau am ddim i ddathlu Calan Gaeaf a noson tân gwyllt ymysg y rheini sydd ar y gweill er mwyn helpu miloedd o deuluoedd yn Abertawe i arbed arian dros yr wythnosau nesaf.
Disgwylir i breswylwyr y ddinas dalu teyrnged i'r rheini yn y lluoedd arfog sydd wedi gwasanaethu eu gwlad yn Apêl Pabïau eleni.
Bydd hon yn cael ei lansio ym Marchnad Abertawe fore dydd Gwener am 11.45am lle bydd teyrngedau'n cael eu gosod wrth y plac coffa ger y prif fynedfa.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 24 Chwefror 2023