Toglo gwelededd dewislen symudol

Llwybrau Bae Abertawe

Mae ein llwybrau cerdded, beicio a theithio llesol yn ei gwneud hi'n haws i deithio o amgylch Abertawe drwy gerdded neu feicio.

Swansea Bayways logo (menu image size) WEL.

Teithio llesol

Term ar gyfer gwneud taith mewn ffordd gorfforol, fel beicio neu gerdded yw teithio llesol. Rydym am wella a hyrwyddo teithio llesol er lles pawb.

Beicio

Ewch ar eich beic gyda llwybrau beicio gwych yn Abertawe ar gyfer teithio a hamdden, rhan o'r Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol (llwybrau 4 a 43) a Lôn Geltaidd y Gorllewin.

Cerdded

Mae digon o ddewis i gerddwyr yn Abertawe a phenrhyn Gŵyr. Mae popeth ar gael yno, o bromenadau gwastad a pharcdir ar gyfer tro hamddenol i deithiau cerdded mwy heriol dros draethau, gweundir a thrwy goedwigoedd hynafol.

Rhannwch gyda gofal

Byddwch yn ystyriol o eraill sy'n defnyddio'r llwybrau defnydd a rennir fel y gall pawb eu mwynhau'n ddiogel.

Gwybodaeth am deithio llesol i gyflogwyr

Gall hyrwyddo teithio llesol helpu'ch sefydliad i gyrraedd targedau cynaliadwyedd a bydd yn gwella lles eich gweithwyr.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 12 Mai 2023