Ailgylchu Nadolig
Sut i ailgylchu eich gwastraff Nadolig.
Papur lapio
- Os gwelwch yn dda: Os yw'n rhwygo'n hawdd ac yn aros mewn siâp pêl ar ôl i chi ei grychu, gallwch ei ailgylchu yn eich sach werdd gyda phapur a cherdyn. Cyn ei ailgylchu, tynnwch unrhyw dâp glynu ac addurniadau fel rhubanau a chlymau.
- Dim diolch: Os yw'n anodd ei rwygo ac mae'n agor eto ar ôl i chi ei gywasgu neu'n cynnwys llawer o befr a ffoil, ni ellir ei ailgylchu. Rhowch y math hwn o bapur yn eich sachau du yn unig.
Cardiau Nadolig
Gallwch ailgylchu cardiau Nadolig plaen yn ein sachau gwyrdd gyda phapur a cherdyn ar yr amod nad ydynt yn cynnwys unrhyw rannau nad ydynt yn bapur. Ni allwn ailgylchu unrhyw gardiau â phefr neu addurniadau nad ydynt yn bapur felly rhowch y rhain yn eich sachau du yn unig.
Gwastraff bwyd
Gallwch ailgylchu gwastraff bwyd, gan gynnwys carcasau twrci, gwastraff oddi ar y plât, plicion llysiau a mwy, yn y bin gwastraff bwyd.
Sachau du
Mae'r terfyn 3 bag du yn parhau dros gyfnod y Nadolig. Gallwch gael gwared ar sachau du gormodol yng Nghanolfannau Ailgylchu Llansamlet a Chlun ar yr amod nad oes unrhyw wastraff ailgylchu ynddynt. Cofiwch archebu ymlaen llaw cyn ymweld â Llansamlet.
Coed Nadolig go iawn
Cofiwch na wneir unrhyw gasgliadau gwastraff gardd ar hyn o bryd.
I ailgylchu eich coeden Nadolig go iawn, gallwch wneud y canlynol:
- mynd â hi i unrhyw un o'n canolfannau ailgylchu
- gofyn am gasgliad gwastraff swmpus (dewiswch y categori amrywiol)
Newidiadau i Gasgliadau Dydd Nadolig
Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y gwyliau Casgliadau ailgylchu a sbwriel dros y gwyliau
Calendr ailgylchu 2025
Paratowch am y Flwyddyn Newydd drwy lawrlwytho calendr ailgylchu ar gyfer eich cyfeiriad fel y gallwch gadw cofnod o'r wythnosau casglu yn 2025.
Canolfannau ailgylchu
Bydd canolfannau ailgylchu ar gau o 1.00pm Noswyl Nadolig a thrwy'r dydd Ddydd Nadolig, Dydd Gŵyl San Steffan a Dydd Calan. Cofiwch archebu ymlaen llaw cyn ymweld â Llansamlet.