Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwasanaethau preswyl i oedolion gydag anabledd dysgu

Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn darparu amrywiaeth o wasanaethau preswyl i oedolion ag anableddau dysgu.

Mae'n holl wasanaethau preswyl wedi'u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) (Yn agor ffenestr newydd) (CIW).

Sut gallaf gael mynediad i'r gwasanaethau hyn?

I gael mynediad at y gwasanaethau preswyl, yn gyntaf bydd rhaid i chi wneud cais am asesiad. Os oes gennych reolwr gofal eisoes, cysylltwch ag ef yn uniongyrcho.

Os nad oes gennych unrhyw gysylltiad â Gwasanaethau Cymdeithasol ar hyn o bryd, dylech gysylltu â'r Pwynt Mynediad Cyffredin ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol (PMC). Byddant yn cynnig cyngor a gwybodaeth ac, os oes angen, yn trosglwyddo'ch manylion i'r Tîm Anableddau Dysgu Cymunedol. Bydd rheolwr gofal o'r Tîm Cefnogi Cymunedol yn dod i siarad â chi a'ch gofalwr neu eiriolwr. Bydd rheolwr gofal o'r Tîm Cefnogi Cymunedol neu Hwb Integredig yn dod i siarad â chi a'ch gofalwr neu eiriolwr.

Cytunir ar eich anghenion a'r ffordd orau i'ch cefnogi gyda chi a'ch gofalwr neu eiriolwr. Ysgrifennir hyn fel cynllun gofal. Byddwch chi a'ch gofalwr yn derbyn copi o'r cynllun gofal i'w gadw. Bydd y cynllun gofal yn cynnwys y gefnogaeth y cytunwyd arni.

Cynhelir adolygiad blynyddol o'ch anghenion a sut y bwriedir eu diwallu.

Mae'r ethos sy'n sail i'r gwasanaeth hwn yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014, cynnydd a chydgynhyrchiad. Mae'r ymagwedd hon yn dechrau gyda'r unigolyn, nid y gwasanaeth, a dylai ystyried eich amgylchiadau, canlyniadau, cryfderau a galluoedd, rhwystrau a risgiau personol.

Gwasanaethau seibiant

Rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau seibiant sy'n hyblyg ac yn ymatebol. Rydym yn cynnig seibiannau byr i unigolion sy'n rhoi profiadau ystyrlon a chefnogol. Mae hyn hefyd yn cefnogi gofalwyr i barhau â'u rôl ofalu a chefnogi'r rheiny maent yn gofalu amdanynt gartref.

Mae dau wasanaeth seibiant preswyl ar hyn o bryd:

Gwasanaeth Seibiant Heol Alexandra, 70-72, Heol Alexandra, Gorseinon, Abertawe SA4 4NU.

Mae Heol Alexandra yn cynnwys dau dŷ pâr yng Ngorseinon sydd wedi cael eu hadnewyddu yn un adeilad.

Rydym yn cynnig seibiannau byr cynlluniedig i oedolion dros 18 oed ag anabledd dysgu y mae'n bosib bod ganddynt broblemau ymddygiad cymhleth ac mae angen gwasanaeth seibiant preswyl arnynt.

Mae gan y gwasanaeth dîm ymroddedig o staff sydd wedi derbyn amrywiaeth eang o hyfforddiant ac sydd â phrofiad o ofalu am unigolion ag anghenion cefnogaeth uwch a phroblemau ymddygiad cymhleth.

Mae Heol Alexandra yn cynnig amrywiaeth o weithgreddau mewnol gan gynnwys sesiynau harddwch, celf a chrefft, gemau bwrdd a sesiynau coginio, garddio, gwylio adar ac ymlacio yn ogystal â'r defnydd o gyfarpar a thechnoleg synhwyraidd.

Lle bo'n bosib, mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi'r rheiny sy'n aros gyda ni i gymryd rhan mewn cyfleoedd cymdeithasol drwy ymweld â lleoedd yn y gymuned, megis caffis neu'r parc. Fodd bynnag, mae'n bosib y bydd hyn yn gyfyngedig oherwydd cymhlethdodau'r unigolion sy'n defnyddio'r gwasanaeth

Gwasanaeth Seibiant Tŷ Cila Respite, Rhodfa Wimmerfield, Cilâ, Abertawe SA2 7DA.

Adeilad unllawr yng Nghilâ yw Tŷ Cilâ sy'n darparu seibiannau cynlluniedig i oedolion iau, 18-64 oed, sydd ag anabledd corfforol neu anabledd dysgu gydag anghenion iechyd cymhleth. Mae Tŷ Cilâ hefyd yn darparu seibiannau mewn argyfyngau brys ar yr amod bod yr unigolyn yn bodloni'r meini prawf a bod y gwasanaeth yn gallu cefnogi ei anghenion.

Mae gan y gwasanaeth dîm mawr o staff sydd â'r profiad, yr hyfforddiant, y sgiliau a'r wybodaeth i ofalu am unigolion ag amrywiaeth o anghenion cymhleth neu anabledd corfforol neu ddysgu.

Cefnogir unigolion i ddefnyddio'r gymuned ar gyfer teithiau siopa, coffi a phryd o fwyd allan o dro i dro. Mae gennym gludiant ar gael ar gyfer cyfnodau byr o ddeuddydd yr wythnos ac, yn ddibynnol ar adnoddau staff, byddwn yn ymweld â'r traeth, y dafarn, siopau etc.

Mae gweithgareddau mewnol sydd ar gael yn cynnwys sesiynau ymlacio yn ein hystafell synhwyraidd, sesiynau harddwch, celf a chrefft, sesiynau cerdd a mynediad i WiFi.

Llety brys a thros dro

Uned Cymorth Cymunedol Maesglas, Tŷ Maesglas, Heol Maesglas, Gendros, Abertawe SA5 8BH.

Mae UCC Maesglas yn darparu llety preswyl dros dro i hyd at 10 unigolyn ar unrhyw adeg. Mae'r gwasanaeth ar gyfer oedolion 18 oed ac yn hŷn ag anabledd dysgu, ond gallwn hefyd gefnogi oedolion ag anghenion ychwanegol megis dementia, epilepsi neu anabledd corfforol.

Mae'n bosib y bydd amrywiaeth o resymau pam na all rhywun aros yn eu llety presennol, felly gall UCC Maesglas gynnig lleoliadau cynlluniedig a rhai brys. Mae'r gwasanaeth ar agor 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos.

Yn ogystal â darparu llety dros dro, bydd y staff sefydlog, hyfforddedig ym Maesglas yn gweithio gyda'r Tîm Cefnogi Cymunedol amlddisgyblaeth i gynorthwyo a chefnogi unigolion i symud ymlaen i lety parhaol sy'n briodol i anghenion y person hwnnw.