Toglo gwelededd dewislen symudol

Arweiniad rhiant i addysg ddewisol yn y cartref yn Abertawe

Nod Cyngor Abertawe yw darparu arweiniad ar gyfer rhieni sy'n ystyried neu wedi dewis rhoi Addysg Ddewisol yn y cartref (ADdC) i'w plentyn. Mae Cyngor Abertawe yn parchu ac yn derbyn hawl rhieni i addysgu eu plentyn gartref.

Mae'r diffiniad o riant neu ofalwr at ddibenion y ddogfen hon yn cynnwys unrhyw berson sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn a pherson sy'n gofalu am blentyn.

Addysg ddewisol yn y cartref yw pan fydd rhieni'n penderfynu darparu addysg yn y cartref i'w plentyn yn hytrach na'i anfon i'r ysgol. Felly, nid yw plant sy'n derbyn addysg ddewisol yn y cartref wedi'u cofrestru mewn ysgolion prif ffrwd nac ysgolion arbennig.

Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i blentyn dderbyn addysg o ddechrau'r tymor sy'n dilyn ei ben-blwydd yn bump oed tan ddydd Gwener olaf mis Mehefin y flwyddyn academaidd pan fydd yn 16 oed.

Ni ddylid byth gwneud y penderfyniad i addysgu yn y cartref ar chwarae bach. Cyn i rieni benderfynu gwneud ymrwymiad o'r fath, mae angen iddynt siarad a gwrando ar eu plentyn a hefyd ystyried yr amser a'r egni y bydd angen iddynt eu buddsoddi. Dylai rhieni fod yn ymwybodol, os ydynt yn dewis addysgu yn y cartref, eu bod yn cymryd cyfrifoldeb ariannol am addysg eu plentyn, gan gynnwys costau cyfarpar, ymweliadau, llyfrau a thiwtoriaid, yn ogystal â chost unrhyw arholiadau cyhoeddus.

Bydd yr Ymgynghorydd Addysg Ddewisol yn y Cartref yn ceisio datblygu perthynas waith gadarnhaol gyda rhwydweithiau addysg yn y cartref a bydd yn cydweithio â rhieni ADdC i alluogi plant i gael y dewisiadau bywyd gorau sydd ar gael iddynt, a bydd yn ymdrechu i gefnogi plant a theuluoedd drwy sicrhau bod plant yn cael mynediad at eu hawl i addysg. 

Nod yr wybodaeth yn y ddogfen hon yw nodi sefyllfa gyfreithiol rhieni sy'n ymgymryd â chyfrifoldeb addysg plentyn, yn ogystal â dyletswyddau'r Awdurdod Lleol (ALl).

 

 

Hawliau a chyfrifoldebau rhieni

Mae'r gyfraith yn datgan bod dyletswydd ar bob rhiant i sicrhau bod ei blentyn yn cael addysg effeithlon, amser llawn sy'n addas i'w oedran, ei allu a'i ddawn, ac unrhyw anghenion dysgu ychwanegol sydd ganddo naill ai drwy fynychu'r ysgol yn rheolaidd neu fel arall.

Hawliau a chyfrifoldebau'r awdurdod lleol (ALL)

Mae gan yr ALI rwymedigaeth statudol i sicrhau bod pob plentyn o oedran ysgol yn yr ALI yn derbyn addysg addas yn yr ysgol neu fel arall ac nad yw'n blentyn sy'n colli addysg (CME).

Beth os oes gan fy mhlentyn anghenion dysgu ychwanegol?

Mae'r un weithdrefn yn berthnasol os oes gan eich plentyn ddatganiad o AAA ac mae'n mynychu ysgol brif ffrwd.

Gwasanaethau sydd ar gael i blant a theuluoedd

Gall plentyn ADdC gael mynediad i wasanaethau cyffredinol megis Gyrfa Cymru, gwasanaethau Ieuenctid, Info-Nation, Gwasanaeth Cwnsela Exchange a gwasanaethau iechyd, sgrinio ac imiwneiddio o hyd.
Close Dewis iaith