Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - y Pasg

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr : Athor

(dyddiad cau: 02/05/25)(12hanner dydd) Swydd ATHRO / AWES - Llawn amser - Parhaol - I ddechrau 01.09.25 Manylion am gyflog: Prif Raddfa (M2 - UPS3)

Ysgol Gynradd Gymraeg Bryn y Môr
Brynmill 
Abertawe
SA2 0BP
Ffon: 01792 466354 
E-bost/E-Mail: ygg.brynymor@swansea-edunet.gov.uk                                                                                    
Gwefan / Website: www.yggbrynymor.co.uk
Pennaeth/Head Teacher: Mrs Elin Wakeham

O ganlyniad i dwf yn niferoedd disgyblion yr ysgol, dymuna'r corff llywodraethol benodi person ymroddgar, hyblyg a brwdfrydig i ymuno â theulu Bryn y Môr.   Dylai'r ymgeisydd fod yn ymrwymedig i ddarparu addysg o'r radd flaenaf er lles ein disgyblion.
 
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:

  • fod yn frwd dros addysg Gymraeg.
  • fod yn athro/athrawes â phersonoliaeth bositif , sy'n mwynhau gweithio gyda phlant ac yn ymarferydd â safonau uchel.
  • weithio fel rhan o dîm ymroddgar.
  • feddu ar wybodaeth gynhwysfawr am addysgeg a chyda sgiliau addysgu o safon uchel a fydd yn herio ac yn ysgogi disgyblion.
  • ddatblygu amgylchedd ddysgu symbylol a chyffrous i ddatblygu sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau disgyblion yn unol â Chwricwlwm i Gymru.
  • ymrwymo i ddatblygiad proffesiynol parhaus.
  • gyfrannu at fywyd allgyrsiol yr Ysgol.
  • i arwain elfen o drefniadau dyluniad cwricwlwm yr ysgol (yn ddibynnol ar brofiad ac i'w benderfynu yn dilyn penodiad)

Gallwn gynnig i chi:

  • ysgol hapus a chroesawgar.
  • tîm o staff blaengar ac arloesol.
  • disgyblion gweithgar a chwrtais, sydd wedi eu disgrifio fel 'rhagorol' yn ein adroddiad ESTYN mwyaf diweddar.
  • ysgol sydd â gwerthoedd cadarnhaol sydd wrth wraidd popeth.
  • datblygiad proffesiynol heb ei hail.

Dychwelwch eich ffurflen gais drwy e bost yr ysgol neu trwy ei yrru at sylw'r Pennaeth i gyfeiriad yr ysgol.  Bydd noson agored i ymgeiswyr ar 08.04.25 am 4pm pe dymunwch ymweld â'r ysgol o flaen llaw.
Dyddiad Cau: 02.05.2025 - 12pm
Bydd arsylwadau gwersi yn ystod yr wythnos yn dechrau 05.05.2025 a chyfweliadau yn ystod wythnos yn dechrau 12.05.25.

Ffurflen gais - athrawon cynradd, uwchradd, arbennig (Word doc, 120 KB)

Swydd ddisgrifiad athrawes- Athro YGBYM (PDF, 89 KB)

Yng Nghyngor Abertawe yr egwyddor yw "Busnes Pawb yw Diogelu", ac mae hyn yn berthnasol i holl weithwyr Cyngor Abertawe, aelodau etholedig, gwirfoddolwyr a chontractwyr. I gael rhagor o fanylion ewch i https://www.abertawe.gov.uk/diogelucorfforaethol

Diogelu: Mae'r Awdurdod yn unol â'r Polisi Diogelu Corfforaethol wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion ac yn disgwyl i'r holl staff a gwirfoddolwyr rannu'r ymrwymiad hwn.  Mae'r Awdurdod yn disgwyl i'r holl staff ymgymryd ag hyfforddiant diogelu gorfodol a bod yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am warchod plant ac oedolion.

Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (GDG): Mae'r swydd hon yn ei gwneud yn ofynnol i ddeiliad y swydd gael y lefel datgelu GDG fel y nodir isod: Cais am Ddatgeliad GDG Manwl

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 08 Ebrill 2025