Casglu sachau du
Mae sachau du ar gyfer gwastraff cartref na ellir ei ailgylchu yn unig.
O fis Rhagfyr rydym yn newid yr wythnosau rydym yn casglu sachau du ac ailgylchu gwastraff gardd: Newidiadau i gasgliadau ailgylchu
Mae'n ofyniad cyfreithiol i aelwydydd yn Abertawe ailgylchu. Gall methu ag ailgylchu arwain at Hysbysiad o Gosb Benodol.
I sicrhau y cesglir eich sachau:
- caniateir i bob cartref roi hyd at 3 sach ddu allan bob pythefnos
- rhowch eich sachau allan i'w casglu rhwng 7.00pm y noson cyn eich diwrnod casglu a 6.00am ar fore'ch diwrnod casglu
- defnyddiwch ein teclyn chwilio am gasgliadau ailgylchu a sbwriel i gael gwybod ar ba ddiwrnod rydym yn casglu'ch sachau
- lapiwch wrthrychau miniog, e.e. gwydr sydd wedi torri
- sicrhewch nad yw'ch sach sbwriel yn rhy drwm (dan 15kg)
- defnyddiwch sachau du nad ydynt yn fwy na 80 litr
Dim ailgylchu fan hyn
Dylid ailgylchu'r eitemau canlynol ac NI ddylid eu rhoi yn eich sach ddu.
• papur a cherdyn; cardbord; caniau a thuniau; poteli a jariau gwydr
• gwastraff bwyd
• poteli a chloriau plastig; potiau, tybiau a hambyrddau plastig
• gwastraff gardd
Gwybodaeth am ailgylchu:
• beth gellir ei ailgylchu a pha fagiau/sachau y mae angen i chi eu defnyddio
• diwrnodau casglu ailgylchu
• ble gallwch gael bagiau/sachau a chyfarpar ailgylchu
• beth gellir ei ailgylchu mewn canolfannau ailgylchu
• lleoliadau ailgylchu eraill
Eithriadau
Gellir ailgylchu'r rhan fwyaf o wastraff cartref. Trwy ddefnyddio'n gwasanaethau ailgylchu ymyl y palmant, ni fydd gennych lawer o wastraff sachau du. Ni ellir ailgylchu'ch holl wastraff cartref, a dyma pam y caiff cartrefi penodol sy'n cynhyrchu symiau mawr wneud cais am eithriad i'r cyfyngiad.
Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du Gwneud cais am eithriad i'r terfyn sachau du