Casglu sbwriel yn wirfoddol
Os hoffech chi gasglu sbwriel yn eich ardal leol, dyma sut y gallwch wneud hynny.
Mae casglu sbwriel yn ffordd wych o ddod â chymuned at ei gilydd. Mae hefyd yn gallu gwneud gwahaniaeth enfawr i'r amgylchedd lleol, gan ganiatáu i natur ffynnu a chreu lleoedd gwell i bawb.
Gwnewch eich rhan
- Defnyddiwch un o'r hybiau codi sbwriel a restrir isod
- Gall unigolion a theuluoedd ddod yn Hyrwyddwyr Sbwriel ar wefan Caru Cymru
- I ymuno â grŵp casglu sbwriel sydd eisoes yn bodoli yn eich ardal neu i helpu i sefydlu un, dilynwch y ddolen hon i dudalennau grŵp cymunedol Caru Cymru
- Gall busnesau ac ysgolion gofrestru fel Parthau Di-sbwriel er mwyn glanhau eu heiddo yn rheolaidd ac ymrwymo i gasglu sbwriel yn rheolaidd mewn man agored cyhoeddus.
Canolfannau casglu sbwriel
Mae'r hybiau'n darparu'r cit, yr arweiniad diogelwch a'r yswiriant i chi gasglu sbwriel yn ddiogel a gallwch ddod o hyd iddynt yn:
- Canolfan galw heibio Blaen-y-maes
- Llyfergell Brynhyfryd
- Llyfergell Ganolog
- Llyfergell Clydach
- Canolfan yr Amgylchedd
- Llyfrgell Gorseinon
- Llyfrgell Cilâ
- Llyfrgell Llansamlet
- Llyfrgell Treforys
- Cyngor Cymuned y Mwmbwls
- Llyfrgell Pen-lan
- Llyfrgell Pontarddulais
- Llyfrgell Sgeti
- Llyfrgell St Thomas*
- Llyfrgell Townhill
Mae gan bob hwb tua 10 i 30 teclyn codi sbwriel ar gael i'w benthyca. Gall grwpiau wneud cais i fenthyca o sawl safle os oes angen. *5 teclyn codi sbwriel ar gael i'w benthyca yn St Thomas.
Pwy all gymryd rhan
Gweler isod am y cyfyngiadau presennol ar grwpiau mawr yn casglu sbwriel oherwydd COVID.
- Unigolion
- Teuluoedd
- Grwpiau wedi'u trefnu
- Busnesau
- Ysgolion
Beth i'w wneud â'r sbwriel a gesglir?
Glanhau'r arfordir a'r traeth
Caiff sbwriel ei gasglu o draethau a reolir gan y cyngor (Bae Abertawe/Bracelet/Langland/Caswell/Porth Einon) - ar gyfer traethau eraill bydd angen i chi gysylltu â'r perchnogion i ofyn am ganiatâd ac i drefnu casgliad ar gyfer y sbwriel.
Unigolion, teuluoedd a grwpiau bach
Gadewch eich sachau a gasglwyd (sachau coch Cadwch Gymru'n Daclus a sachau gwastraff gwyrdd ar gyfer gwastraff i'w ailgylchu) yn ddiogel ac yn daclus wrth ymyl unrhyw un o'r biniau sbwriel neu gŵn yn y lleoliadau traeth a restrir uchod fel y gallwn gael mynediad hawdd atynt.
Grwpiau mwy (5 o bobl neu fwy)
Bydd angen i ddigwyddiadau grwpiau mwy wneud cais am gasglu sbwriel, rhowch o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Pob sesiwn casglu sbwriel arall
Unigolion, teuluoedd a grwpiau bach
Gadewch eich sachau a gasglwyd (sachau coch Cadwch Gymru'n Daclus a sachau gwastraff gwyrdd ar gyfer gwastraff i'w ailgylchu) yn ddiogel ac yn daclus wrth ymyl unrhyw un o'r biniau sbwriel neu gŵn yn y lleoliadau traeth a restrir uchod fel y gallwn gael mynediad hawdd atynt.
Grwpiau mwy (5 o bobl neu fwy)
Bydd angen i ddigwyddiadau grwpiau mwy wneud cais am gasglu sbwriel, rhowch o leiaf 5 niwrnod gwaith o rybudd gan ddefnyddio'r ddolen isod.
Mae'r mentrau casglu sbwriel gwirfoddol hyn wrth wraidd Caru Cymru, cydweithrediad rhwng Cadwch Gymru'n Daclus a chynghorau ar draws Cymru er mwyn cael gwared ar sbwriel a gwastraff.