Toglo gwelededd dewislen symudol

Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA)

Mae'r cyngor yn llunio Canllawiau Atodol (CCA) ar amrywiaeth eang o faterion datblygu. Mae'r rhain yn darparu rhagor o wybodaeth i ymgeiswyr a phenderfynwyr am sut y caiff polisïau Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl) eu defnyddio. Dylid darllen a deall dogfennau CDLl er mwyn sicrhau bod cynigion datblygu'n cydymffurfio â fframwaith polisi cynllunio'r cyngor

Canllawiau Cynllunio Atodol a Fabwysiadwyd:  

Ers mabwysiadu'r CDLl ym mis Chwefror 2019 mae'r cyngor wedi mabwysiadu'r CCA canlynol: 

Mabwysiadwyd y CCA canlynol gan y cyngor cyn mabwysiadu CDLl Abertawe yn ffurfiol, fodd bynnag maent yn parhau i fod yn ganllawiau dilys a phwysig i lywio penderfyniadau cynllunio o ystyried: 

Tai Amlfeddiannaeth (HMO) a Llety Pwrpasol i Fyfyrwyr

Mae'r ddogfen hon yn darparu arweiniad ynghylch cryfhau Polisïau H9 ac H11 o'r CDLl, ac yn darparu eglurder ar y dehongliad o'r polisïau hynny er mwyn llywio'r broses benderfynu ar HMOs a PBSA

Bioamrywiaeth a Datblygiad

Mae'r ddogfen hon yn darparu arweiniad ynghylch cryfhau polisïau ER6, ER8 ac ER9 y CDLl, ac yn darparu eglurder ar y dehongliad o'r polisïau hynny er mwyn sicrhau bod datblygiadau yn Abertawe'n cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth y sir ac yn darparu ecosystemau cadarn tymor hir. Mae hyn yn cyd-fynd â dyletswyddau'r cyngor o dan A6 o Ddeddf Amgylchedd (Cymru) 2016 a nod Cymru Gydnerth Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol 2015, ac mae'n gyson â Pholisi'r Cynllun Datblygu Cenedlaethol (Cymru'r Dyfodol).

Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer AoHNE Gŵyr

Mae'r CCA hyn yn darparu canllawiau ar sut y dylid cymhwyso'r polisïau perthnasol y CDLl i geisiadau cynllunio i helpu i benderfynu ar geisiadau cynllunio o fewn ac yn agos at yr AoHNE.

CCA Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd

Mae'r CCA hyn yn darparu arweiniad ar sut y dylid rhoi polisïau perthnasol y CDLl ar waith ar gyfer ceisiadau cynllunio mewn perthynas â'r holl goed, gwrychoedd a choetiroedd sydd eisoes yn bodoli, rhai cadwedig neu sydd newydd eu plannu ar safleoedd datblygu.

Ganllawiau Cynllunio Atodol y Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl diwygiedig

Dylid defnyddio'r tair dogfen sy'n darparu canllawiau ar sut y dylid cymhwyso polisïau perthnasol y CDLl i ddatblygiadau preswyl er mwyn sicrhau y caiff lleoedd da i fyw eu creu.

Ymgynghoriad ar y Canllawiau Cynllunio Atodol Drafft

Ymgynghoriad ar ddogfennau Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) Drafft Abertawe.

Addasu Adeiladau Gwledig Traddodiadol

Mae'r ddogfen hon yn darparu arweiniad i gefnogi polisïau CV 2 a CV 4 y CDLl a sut y dylid cymhwyso polisïau perthnasol y CDLl er mwyn cynorthwyo wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio sy'n ceisio addasu adeiladau gwledig traddodiadol. Mae hefyd yn darparu gwybodaeth ac arweiniad pwysig i helaethu polisïau TR5 a HC2 y CDLl.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 26 Ebrill 2024