Cymorth dementia gan y gwasanaethau cymdeithasol
Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn gweithio mewn partneriaeth â'r gwasanaeth iechyd a'r sector gwirfoddol i ddarparu gwybodaeth, gwasanaethau a chefnogaeth i bobl â dementia a'u gofalwyr.
Cyn y gall rhywun gael cefnogaeth gan y Gwasanaethau Cymdeithasol, bydd yn rhaid i ni gynnal asesiad o'u hanghenion.
Y broses asesu
Gall asesiad yn ein helpu i weld a oes gan berson anghenion gofal a chefnogaeth, a ganfod a yw'n gymwys am help gan y Gwasanaethau Cymdeithasol. Yn aml, bydd gweithwyr cymdeithasol a staff y gwasanaeth iechyd yn rhan o'r broses asesu, gan ddibynnu ar y math o anawsterau y mae rhywun yn eu cael. Y ffordd y gallwn gefnogi pobl â dementia'n fwyaf effeithiol yw drwy ystyried holl agweddau'r person a'r teulu neu ofalwyr eraill sy'n eu cefnogi fel un cyfan.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr asesiad ar y dudalen ganlynol: Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion.
Ein nod yw darparu cefnogaeth sy'n galluogi pobl â dementia i barhau i fyw eu bywydau yn eu cartrefi eu hunain, lle y bo'n addas, neu mewn cartref gofal. Drwy adeiladu ar gryfderau, hanes bywyd a galluoedd presennol person, a thrwy ganolbwyntio ar berthnasoedd, teimladau a gweithgareddau sy'n golygu rhywbeth i'r unigolyn, ein nod yw datblygu a chynyddu ei annibynniaeth a'i les. Bydd y gefnogaeth y mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn ei darparu'n amrywio yn ôl anghenion y person a asesir.
Gall cefnogaeth y Gwasanaethau Cymdeithasol gynnwys:
- Gofal a chefnogaeth gartref - rhywun i helpu gyda thasgau bob dydd megis golchi, gwisgo a chogino prydau y gall rhywun â dementia ei chael hi'n anodd eu gwneud. Mae ein tudalen Gofal cartref yn esbonio mwy am hyn.
- Technoleg gynorthwyol - ssynwyryddion, larymau a theclynnau sy'n helpu i gadw pobl â dementia'n ddiogel gartref a'u galluogi i wneud pethau na fyddant yn gallu eu gwneud fel arall.
- Seibiant o gartref - gall Canolfannau Dydd a Grwpiau Cymdeithasol roi cyfle i bobl â dementia gael cyswllt ac ysgogiad cymdeithasol. Mae grwpiau'n bodoli i bobl ar gyfnodau gwahanol o'u dementia.
- Seibiant i'r gofalwr - mae'n bwysig bod gofalwyr yn edrych ar ôl eu hiechyd a'u lles eu hunain. Weithiau bydd angen i ofalwr gael seibiant o'i gyfrifoldebau gofalu. Gallai hyn fod am ychydig oriau neu am ychydig wythnosau.
- Gwasanaeth asesu preswyl - cymorth arbenigol i helpu pobl â dementia adennill y sgiliau a'r hyder i ddychwelyd i fyw gartref ar ôl cyfnod o salwch. Mae ein tudalen ailalluogi preswyl yn esbonio mwy am hyn.
- Gofal preswyl tymor hir - weithiau nid yw'n bosib gofalu am rywun â dementia gartref yn ddiogel. Gall hyn fod oherwydd y ffordd y mae ei gyflwr yn effeithio arno, neu efallai oherwydd bod amgylchiadau'r gofalwr yn ei wneud yn anodd. Gallai ein tudalen Gofal preswyl a nyrsio eich helpu gyda rhai o'r penderfyniadau y gallai fod angen i chi eu gwneud.
Gwneud cais am asesiad o'ch anghenion gofal neu gefnogaeth Asesiadau gofal a chefnogaeth i oedolion