Arweiniad i gofrestrau etholiadol a chyfeiriaduron masnach yn Llyfrgell Ganolog
Gwybodaeth am ddyddiadau, ardaloedd ac enwau cyhoeddiadau cofrestrau etholiadol a chyfeiriaduron masnach a gedwir yn y Llyfrgell Ganolog.
Rhestrau Bwrdeisiaid a Chofrestrau Etholiadol
Mae ein cofrestrau'n cwmpasu ardaloedd Gorllewin Abertawe, Dwyrain Abertawe, Dyffryn Lliw (o 1991 ymlaen) ac ardaloedd Gŵyr. Mae'r gofrestr gynharaf yn y Llyfrgell Astudiaethau Lleol yn dyddio o 1836. Mae'r gyfres o gofrestrau'n anghyflawn tan 1939 ac yn fwy cyflawn ar ôl yr Ail Ryfel Byd, hyd at 2002. Mae'r rhan fwyaf o'n cofrestrau ar gael i bobl eu pori ar y silffoedd agored yn yr ardal astudiaethau lleol.
Rhai nodiadau ar ddefnyddio'r cofrestrau
Roedd cael eich cynnwys mewn Cofrestrau Etholiadol neu Restrau Bwrdeisiaid cynnar yn dibynnu ar berchnogaeth eiddo ac roedd menywod wedi'u heithrio'n llwyr tan 1918 (hyd yn oed wedyn roedd yn rhaid iddynt fod dros 30 oed). Yn ffodus, roedd Cofrestrau Etholiadol diweddarach yn llai cyfyngedig. Rhestrodd cofrestrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg bleidleiswyr yn ôl cyfenwau yn y wardiau, ond newidiodd cofrestrau o'r oes Edwardaidd i restru pobl yn ôl cyfeiriad yn eu wardiau lleol. Felly, i ddefnyddio'r cofrestrau i ddod o hyd i bobl yn yr ugeinfed ganrif bydd angen cyfeiriad arnoch neu syniad o'r ward neu'r ardal yr oeddent yn byw ynddi o leiaf. Mae cyfrolau diweddarach hefyd yn cynnwys mynegeion stryd. Cofiwch hefyd fod ffiniau bwrdeistrefi wedi newid dros y blynyddoedd.
Roedd Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2002 yn golygu na allai'r cofrestrau etholiadol llawn gael eu cadw gan y Llyfrgell Ganolog mwyach. Mae'r cofrestrau cyfredol a diweddar i'w gweld yn Archifau Gorllewin Morgannwg, sydd hefyd yng Nghanolfan Ddinesig Abertawe. Mae ganddynt hefyd gyfres lawnach o gofrestrau etholiadol hanesyddol ar gyfer holl sir Gorllewin Morgannwg gynt. Mae'r cofrestrau hanesyddol yn yr archifau ar fynediad caeëdig felly bydd angen i chi ofyn i staff am fynediad: Ymweld ag Archifau Gorllewin Morgannwg
Mae cofrestrau ardal Abertawe rhwng 1839 a 1966 yn Archifau Gorllewin Morgannwg wedi'u digideiddio a gellir eu chwilio yn ôl enw a lleoliad yn Ancestry.com. Mae gan Findmypast.com gronfa ddata chwiliadwy o gofrestrau etholiadol Cymru a Lloegr 1832-1932 a ddarperir gan y Llyfrgell Brydeinig. Gall aelodau Llyfrgell Abertawe chwilio Ancestry a Findmypast am ddim drwy ein tanysgrifiadau. Ewch i'n Hadnoddau Ar-lein ar ein gwefan am fanylion: Adnoddau llyfrgell ar-lein
Mae ystyr y codau a ddefnyddir yn y cofrestrau fel a ganlyn:
- R = Cymhwyster preswylio
- BP = Cymhwyster mangreoedd busnes
- O = Cymhwyster meddiannaeth
- HO = Cymhwyster trwy swydd y gŵr
- NM = Pleidleisiwr yn y llynges neu'r fyddin
- J = Cymwys i wasanaethu fel rheithiwr
- SJ = Cymwys i wasanaethu fel rheithiwr arbennig
- a = Pleidleisiwr absennol
- BP = Cofrestr mangreoedd busnes
- CI = Cofrestr preswylwyr sifil
- SE = Cofrestr Gwasanaeth
- RR = Cofrestr Trethdalwyr
O 1928, gellir dod o hyd i'r codau canlynol:
- R = Cymhwyster preswylwyr (dyn)
- Rw = Cymhwyster preswylwyr (menyw)
- B = Cymhwyster mangreoedd busnes (dyn)
- Bw = Cymhwyster mangreoedd busnes (menyw)
- O = Cymhwyster meddiannaeth (dyn)
- Ow = Cymhwyster meddiannaeth (menyw)
- D = Cymhwyster trwy swydd y wraig
- Dw = Cymhwyster trwy swydd y gŵr
- NM = Pleidleisiwr yn y llynges neu'r fyddin
1836 | Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1845 - 1846 | Morgannwg [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1869 - 1871 | Morgannwg [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1874 | Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1875 | Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1878 | Cofrestr bwrdeisiaid abertawe - rhestr o bleidleiswyr seneddol, Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1879 | Cofrestr bwrdeisiaid abertawe - rhestr o bleidleiswyr seneddol, Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1880 | Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1882 | Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1884 | Abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1888 - 1889 | Wardiau tref abertawe a gogledd a dwyrain abertawe [rhestru yn nhrefn yr wyddor yn ôl ward] |
1907 - 1908 | Abertawe [rhestru yn ôl cyfeiriad yn y wardiau] |
1908 - 1909 | Abertawe |
1909 - 1910 | Abertawe |
1910 - 1911 | Abertawe |
1911 - 1912 | Abertawe |
1912 - 1913 | Abertawe |
1913 - 1914 | Abertawe |
1914 - 1915 | Abertawe |
1919 | Abertawe [cyfrol wedi'i difrodi a'i storio yn y llawr isaf. Gofynnwch i staff os oes angen mynediad arnoch] |
1921 | Anghyflawn - gorllewin Abertawe yn bennaf |
1925 | Gŵyr yn unig |
1926 | Dwyrain a gorllewin Abertawe |
1936 | Dwyrain a gorllewin Abertawe (dim ward Ffynone) [mae gan rai wardiau restr mynegai strydoedd ar y diwedd] |
1938 | Dwyrain a gorllewin Abertawe [mae gan wardiau restr mynegai strydoedd ar ddiwedd yr adran] |
1939 | Dwyrain a gorllewin Abertawe a gŵyr [mae gan wardiau restr mynegai strydoedd ar ddiwedd yr adran] |
1945 | Cofrestr preswylwyr sifil (Abertawe) [mynegai strydoedd cyfunol] Cofrestr gwasanaeth (Abertawe) |
1946 | Cofrestr preswylwyr sifil (Gŵyr) Cofrestr gwasanaeth (Gŵyr) |
1946 | Cofrestr etholiadol dwyrain a gorllewin Abertawe a Gŵyr [mynegai strydoedd cyfunol] |
1948 - 2002 | Cofrestr etholiadol dwyrain a gorllewin Abertawe a Gŵyr (gorllewin Abertawe 1955 a Gŵyr 1975 ar goll) [mae mynegai strydoedd cyfunol ar gael ar gyfer y rhan fwyaf o gyfrolau] |
1991 - 1993 | Dyffryn Lliw (rhan) [cyfrolau rhannol sy'n cwmpasu ardaloedd fel Pontarddulais, Gorseinon, Casllwchwr, Tre-gŵyr] |
1994 - 1996 | Dyffryn lliw (yn gyflawn) [ar ôl 1997 mae ardaloedd yn nyffryn lliw wedi'u cynnwys yng nghyfrolau gŵyr] |
Cyfeiriaduron masnach Cymru ac Abertawe
Cyhoeddwyd cyfeiriaduron masnach lleol a masnachol o ddiwedd y 18fed ganrif. Mae'r cynharaf a ddelir yn y Llyfrgell Astudiaethau Lleol yn dyddio o 1816. Maent yn amrywio o ran cynnwys - mae rhai rhestrau'n cynnwys pobl broffesiynol a masnachwyr yn unig, mae eraill yn cynnwys preswylwyr preifat ac mae rhai'n cynnwys mynegai strydoedd. Gellir dod o hyd i ragor o fanylion cyhoeddi am deitlau unigol yn y rhestr hon drwy fynd i'n catalog ar-lein. Mae'r rhan fwyaf o'r eitemau hyn ar gael ar y silffoedd agored i'w pori yn y Llyfrgell Astudiaethau Lleol er bod rhai cyfeiriaduron diweddarach Kelly ar gyfer de Cymru yn cael eu storio yn ein cypyrddau gwydr. Gofynnwch i staff am fynediad.
Benthycwyd llawer o gyfeiriaduron masnach y llyfrgell er mwyn eu digideiddio fel rhan o fenter gydweithredol i brosiect a ariannwyd gan y loteri, Historical Directories of England & Wales, a drefnwyd gan Brifysgol Caerlŷr. Gellir chwilio am y rhain yn hawdd ar-lein yn: Historical directories of England and Wales (University of Leicester) (Yn agor ffenestr newydd)
Gellir eu chwilio hefyd yng nghasgliad Ancestry.com - UK, City and County Directories, 1766 - 1946. Gall aelodau Llyfrgell Abertawe chwilio Ancestry am ddim drwy ein tanysgrifiad: Adnoddau llyfrgell ar-lein
Mae gennym hefyd gasgliad o gyfeiriaduron masnach a cyfeiriaduron ffôn ar gyfer ardal Abertawe am y cyfnod ar ôl 1970. Ewch i gatalog y llyfrgell ar-lein neu gofynnwch i staff am ragor o fanylion.
Allwedd - Ychwanegol: E = Yn cynnwys Mynegai Enwau, S = Yn cynnwys Mynegai Strydoedd
Dyddiad | Cyhoeddwr | Yr ardal a gwmpesir | Yn ychwanegol |
---|---|---|---|
1816 | Matthews | Abertawe | E |
1830 | Matthews | Abertawe | |
1840 | Robson | Llundain, siroedd y gorllewin, de Cymru | |
1844 | Pigot's | Cymru a Lloegr | |
1848 | Hunt | Bryste, Casnewydd, trefi Cymru | |
1849 | Hunt | Caerloyw, Bryste, trefi Cymru | |
1850 | Hunt | Bryste a threfi Cymru | |
1850 | White's | Dyfnaint | E |
1852 | Scammell's | Bryste a de Cymru | E |
1854 | Pearse | Abertawe | E |
1856 | Pearse | Abertawe | E |
1858 - 59 | Slater's | Swydd Gaerloyw, Sir Fynwy, gogledd a de Cymru | |
1863 | Wakeford | Caerdydd, Llandaf, Treganna, Trelái, Maindy, Penarth, Y Rhath | |
1866 | Swyddfa'r Post | Sir Forgannwg | E |
c.1867 | Slater's | De Cymru | |
1869 | Pearse and Brown | Abertawe | E |
1871 | Kelly / Swyddfa'r Post | Sir Fynwy | |
1873 - 74 | Butcher | Abertawe | E |
1875 | Worrall | De Cymru | |
1875 - 76 | Butcher | Abertawe a Chastell-Nedd | |
1875 - 76 | Butcher | Caerdydd, Casnewydd, Pontypridd | S |
1881 - 82 | Butcher | Abertawe | S |
1883 | William and Wright | Abertawe | S |
1884 | Kelly's | De Cymru | S |
1884 | Wilson | Cymru | |
1885 | Wilson | Cymru | |
1887 | Cambria Daily Leader | Abertawe | S |
1889 - 90 | Wright | Abertawe a Llanelli | S |
1891 | Kelly's | Sir Fynwy a de Cymru | S |
1895 | Kelly's | De Cymru | S |
1895 | Slater's | Canolbarth a gogledd Cymru | E |
1895 - 6 | Telegraph | Sir Benfro | |
1899 | Wright | Abertawe | S |
1899 | Town & Country | Caerdydd a'r rhanbarth | |
1899 | Bennett | De Cymru | |
1900 | South Wales Daily Post | Abertawe | S |
1900 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1900 | Bennett | De Cymru | |
1901 | Bennett | Siroedd y gorllewin a Chymru | |
1901 | Kelly's | Sir Fynwy a de Cymru | E |
1903 | Trades directories | Cymru | |
1904 - 05 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1904 - 05 | Wright | Abertawe | S |
1905 - 06 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1906 | Kelly's | Sir Fynwy a de Cymru | E |
1906 | Trades directories | Cymru | |
1906 - 07 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1907 - 08 | Purrier's | Abertawe | S |
1908 - 09 | Purrier's | Abertawe | S |
1909 | Trades directories | Cymru | |
1910 - 11 | Purrier's | Abertawe | S |
1911 - 12 | Purrier's | Abertawe | |
1914 | Trades directories | Cymru | |
1914 | Kelly's | Sir Fynwy a de Cymru | E |
1915 | Bennett | Cymru | |
1918 | Trades directories | Cymru | |
1919 - 20 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1920 | Kelly's | Sir Fynwy a de Cymru | E |
1922 | Trades directories | Cymru | |
1922 - 23 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1923 | Kelly's | Sir Fynwy a de Cymru | E |
1923 | Cope | Sir Fynwy a de Cymru | |
1923 - 24 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1924 - 25 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1926 | Kelly's | De Cymru | E |
1926 - 27 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1927 | Trades directories | Cymru | |
1927 - 28 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1928 | Trades directories | Cymru | |
1928 - 29 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1929 | Chamber of trade | Abertawe | S |
1929 | Trades directories | Cymru | |
1929 - 30 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1930 - 31 | Chamber of trade | Abertawe | S |
1930 - 31 | Town & Country | Abertawe a'r rhanbarth | |
1931 | Trades directories | Cymru | |
1932 | Trades directories | Cymru | |
1937 | Kelly's | Swydd Henffordd A Swydd Amwythig | E |
1937 | Kelly's | Sir Fynwy | E |
1937 | Western Mail | Caerdydd | S |
1937 | John's | Casnewydd | S |
1938 | Chamber of Trade | Abertawe | S |
1939 | Kelly's | Bae Colwyn | S |
1939 | Kelly's | Llandudno A Cholwyn | S |
1948 | Industrial Association | Cymru A Sir Fynwy | |
1949 | Kelly's | Caerdydd | S |
1950 | Thomas and Pryer | Abertawe | S |
1950 | Kelly's | Casnewydd | S |
1952 | Kelly's | Caerdydd | S |
1952 | Pryer | De a gorllewin Cymru | |
1952 | Industrial Association | Cymru A Sir Fynwy | |
1953 | Kelly's | Casnewydd | S |
1953 - 54 | Town & Country | Abertawe, Caerdydd, Casnewydd | |
1953 - 54 | Trades directories | Gogledd a de Cymru | |
1953 - 54 | Pryer | Canolbarth Lloegr, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Efrog, de-orllewin a de Cymru | |
1954 - 55 | Counties Publishing | De Cymru | |
1955 | Kelly's | Caerdydd | S |
1955 | Kelly's | Casnewydd | S |
1955 | Pryer | Canolbarth Lloegr, Swydd Gaerhirfryn, Swydd Efrog, de-orllewin a de Cymru | |
1955 - 56 | Town & Country | Abertawe, Caerdydd, Casnewydd | |
1955 - 56 | Trades directories | Gogledd a de Cymru | |
1956 | Industrial Association | Cymru a Sir Fynwy | |
1956 - 57 | Counties Publishing | De Cymru | |
1957 - 58 | Counties Publishing | De Cymru | |
1958 | Kelly's | Caerdydd | S |
1960 | Kelly's | Casnewydd | S |
1960 | Industrial association | Cymru a Sir Fynwy | |
1961 | Kelly's | Caerdydd | S |
1961 | Chambers | De Cymru, Sir Fynwy a Bryste | |
1961 - 62 | Counties Publishing | De Cymru a Chanolbarth Lloegr | |
1961 - 62 | Trades directories | Gogledd a de Cymru | |
1962 | Chambers | De Cymru, Sir Fynwy a Bryste | |
1963 - 64 | Counties Publishing | De Cymru a Chanolbarth Lloegr | |
1963 - 64 | Town & Country | Abertawe, Caerdydd, Casnewydd | |
1964 | Kelly's | Caerdydd | S |
1964 | Chambers | De Cymru a de orllewin Lloegr | |
1965 | Chambers | De Cymru a de orllewin Lloegr | |
1966 | Kelly's | Casnewydd | S |
1966 | Chambers | De Cymru a de orllewin Lloegr | |
1967 | Kelly's | Casnewydd | S |
1967 | Chambers | De Cymru a de orllewin Lloegr | |
1967 | Trades directories | Gogledd a de Cymru | |
1968 | Chambers | De Cymru a de orllewin Lloegr | |
1968 | Development Corporation for Wales | Cymru | |
1969 - 70 | Town & Country | Abertawe, Caerdydd, Casnewydd | |
1970 | Kelly's | Caerdydd | S |
1970 | Kelly's | Casnewydd | S |
1970 | Chambers | De Cymru a de orllewin Lloegr | |
1970 - 71 | Trades directories | Cymru |
Os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni Llinell Lyfrau.