Toglo gwelededd dewislen symudol

Cwestiynau cyffredin am barcio

Dewch o hyd i atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin rydym yn eu derbyn am barcio.

Tocynnau parcio

 2022/232021/22*2020/21*2019/20*2018/19
Nifer y tocynnau parcio a dderbyniwyd57,12449,49725,90855,36057,286
Nifer y tocynnau yr apeliwyd yn eu herbyn12,12911,2917,34917,42515,497
Nifer yr apeliadau a dderbyniwyd4,9743,7172,6813,8886,706

* Nodyn ychwanegol parthed ffigurau 2019/20, 20/21 a 21/22: mae'n bosib bod y pandemig Coronafeirws a'r cyfyngiadau symud wedi effeithio ar y ffigurau (cyfyngiadau symud swyddogol cyntaf 23 Mawrth 2020).

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am incwm a gwariant meysydd parcio yn adroddiadau blynyddol y gwasanaethau parcio.

Beth sy'n digwydd i unrhyw incwm a godir drwy orfodi?

Gellir defnyddio unrhyw arian a godir drwy orfodi at ddibenion gwella priffyrdd a ffyrdd, gwelliannau amgylcheddol neu er mwyn gwella gwasanaethau cludiant cyhoeddus yn unig.

Hawlen barcio i breswylwyr

Pa awdurdod sydd gan y cyngor i wneud y newidiadau hyn i'r cynllun parcio i breswylwyr?

O dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004, mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i reoli'r rhwydwaith priffyrdd mewn ffordd fel y gellir lleihau tagfeydd a llygredd aer. Golyga hyn bolisi i gefnogi dichonoldeb economaidd o ran trosiant ac argaeledd mannau parcio, diogelwch wrth annog pobl i beidio â stopio/parcio mewn lleoliadau sy'n achosi perygl i ddefnyddwyr eraill y ffordd, a thagfeydd drwy leihau rhwystrau i lif a symudiad y traffig. 

Y cabinet - Dydd Iau 18 Gorffennaf 2019

I ba leoliadau y mae'r cynllun parcio i breswylwyr hwn yn berthnasol?

Mae 428 o leoliadau parcio i breswylwyr yn unig yn Abertawe, yn bennaf mewn ymateb i geisiadau gan breswylwyr.

Faint o hawlenni sydd wedi'u cyflwyno ar hyn o bryd?

Mae tua 11,816 (Mai 2023).

Sut caiff y cynllun ei orfodi?

Mae gan Swyddogion Gorfodi Sifil amser gwirioneddol i gael mynediad at y gronfa ddata hawlenni i weld a oes gan gerbyd ganiatâd dilys ar gyfer y lleoliad lle mae wedi parcio. Byddai'r broses orfodi'n dilyn gweithdrefnau gorfodi sifil yn yr un ffordd ag unrhyw dramgwyddau parcio eraill.

Ffïoedd parcio

Beth yw'r ffordd rataf o barcio mewn maes parcio a weithredir gan y cyngor?

Defnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio yw'r ffordd rataf, a gallwch barcio yno am ddim ond £1 y dydd, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn: Parcio a theithio

Os na allaf ddefnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio, beth yw fy opsiynau?

Mae parcio ym maes parcio Dewi Sant, MPAL y Stryd Fawr neu mewn maes parcio talu ac arddangos yn rhatach na pharcio ym maes parcio'r Cwadrant. Mae arosiadau hirach o hyd at 12 awr yn rhatach os ydych yn parcio yn rhywle heblaw'r Cwadrant a maes parcio De Bae Copr.

Beth yw'r tocyn tymor rhataf sydd ar gael yng nghanol y ddinas?

Os yw'r cwmni rydych chi'n gweithio iddo yn aelod o BID, gall eich cwmni wneud cais am docyn tymor ar eich rhan am bris cyfartalog o £1.37 y dydd. Mae angen i chi siarad â'ch cyflogwr i gael y cynnig hwn.

Os nad yw fy nghwmni yn rhan o BID, ydw i'n gallu gwneud cais am docyn tymor ar gyfer canol y ddinas?

Ydych. Mae'r prisiau'n dechrau o gyn lleied â £2.27 y dydd. Gallwch chi wneud hynny yma: Tocyn tymor meysydd parcio

Gallwch dalu am docyn tymor yn fisol.

Pam mae'n ddrutach i barcio ym maes parcio'r arena (De Bae Copr)?

Maes parcio premiwm yw Maes Parcio De Bae Copr gyda mynediad uniongyrchol i Arena Abertawe. Mae'n faes parcio yng nghanol y ddinas ac mae'r pris am y 3 awr gyntaf yn debyg i brisiau'r Cwadrant. Ar gyfer arosiadau sy'n hirach na 3 awr mae'r pris yn cynyddu i lefelau tebyg i'r rheini mewn cyrchfannau poblogaidd allweddol yng nghanol dinasoedd eraill.

Dwi'n defnyddio MiPermit. Sut gallaf sicrhau fy mod yn cael y gostyngiad i breswylwyr?

Bydd angen i chi gofrestru gyda MiPermit i wneud cais am hawlen pris arbennig ar gyfer preswylydd. Ar hyn o bryd rydym yn bwriadu symleiddio'r broses gofrestru drwy'r ap i'w gwneud yn haws i chi gael mynediad at y gostyngiad.

I gofrestru ar gyfer eich hawlen pris arbennig i breswylydd ddigidol bydd angen i chi ddarparu eich côd post a rhif eich tŷ er mwyn gallu dewis eich eiddo o'r chwiliad a pharhau â'ch cofrestriad.

Bydd y broses gofrestru yn gofyn am eich manylion i sefydlu'ch cyfrif, a bydd rhif PIN yn cael ei anfon atoch drwy e-bost/neges destun er mwyn i chi allu mewngofnodi i'ch cyfrif sydd newydd ei greu. Os ydych chi'n cael anawsterau wrth gofrestru, ffoniwch MiPermit ar 0345 520 7007.

Adnewyddu neu wneud cais am eich hawlen barcio i breswylydd: Hawlen Pris Arbennig ar gyfer Preswylwyr

Pan fyddwch wedi mewngofnodi i'r porth MiPermit, dewiswch 'Trwyddedau digidol' o'r ddewislen, a dewiswch 'Adnewyddu / gwneud cais am hawlenni'. Yna gallwch ddewis y math o drwydded sydd ei hangen arnoch. Bydd pob maes yn cael ei ragboblogi gyda'ch manylion. Lanlwythwch un o'r dogfennau gofynnol a phwyswch 'Gorffen'.

Ydw i'n gallu defnyddio MiPermit i estyn fy arhosiad mewn meysydd parcio, gan gynnwys Y Strand?

Ydych. Un o fanteision MiPermit yw, os ydych chi'n gwybod eich bod chi'n mynd i gymryd mwy o amser nag a gynlluniwyd, gallwch fynd yn ôl ar yr ap a thalu am arhosiad hirach. Does dim rhaid i chi fynd yn ôl i'r car a phrynu tocyn newydd.

Faint mae'n costio i barcio yng nghanol y ddinas ar ddydd Sul? A yw'n berthnasol i bob maes parcio, gan gynnwys maes parcio'r arena?

Y gost yw £2 drwy'r dydd yng nghanol y ddinas. Mae ffïoedd maes parcio'r arena (De Bae Copr) ar  ddydd Sul yr un fath ag y maent o ddydd Llun i ddydd Sadwrn.

Faint mae'n ei gostio i barcio mewn meysydd parcio y tu allan i ganol y ddinas?

Gallwch ddod o hyd i'n holl feysydd parcio a'n ffïoedd yma: Meysydd parcio

Cofiwch gall yr app MiPermit helpu hefyd.

Beth yw'r trefniadau ar gyfer parcio i'r anabl yng nghanol y ddinas?

Mae llawer o leoedd i bobl anabl barcio yng nghanol y ddinas: Gwybodaeth am barcio i bobl anabl

Mae deiliaid Bathodynnau Glas yn talu cyfraddau is mewn llawer o feysydd parcio'r cyngor. Mae'r ffïoedd newydd yn y tabl isod.

Bathodynnau Glas - ffïoedd newydd
 Cyn COVIDTâl cyfredol
Hyd at 2 awr70c£1.50
2-4 awr£1.20£3
4-6 awr£2.40£4

A fydd y ffïoedd parcio ym meysydd parcio'r blaendraeth a'r traeth yn gostwng yn nhymor y gaeaf?

Mae costau gaeaf is yn berthnasol rhwng 1 Tachwedd a 28/29 Chwefror yn y meysydd parcio canlynol:

A yw'r ffïoedd parcio newydd yn Abertawe yn debyg i ganol dinasoedd eraill fel Caerdydd, Casnewydd a Bryste?

Mae'r ffïoedd parcio newydd yn Abertawe yn gystadleuol iawn o'u cymharu â dinasoedd tebyg fel Caerdydd a Chasnewydd.