Nodyn Cyfarwyddyd: Deddfwriaeth a Pholisi Amgylchedd Naturiol
Mae'r Nodyn Cyfarwyddyd hwn yn darparu'r tablau canlynol sy'n dangos y berthynas rhwng yr amgylchedd naturiol yn Abertawe a'r gyfraith a pholisi amgylcheddol perthnasol, gan gynnwys y rhai yn y Cynllun Datblygu Lleol (Polisi).
Tabl 1 | Deddfwriaeth a Pholisi Allweddol sy'n Ymwneud â'r Amgylchedd Naturiol | Yn dangos y berthynas rhwng deddfwriaeth amgylcheddol a pholisi amgylcheddol ar y raddfa Ryngwladol, Cenedlaethol y DU a Chenedlaethol Cymru. |
Tabl 2 | Safleoedd a Warchodir yn Abertawe - Fframwaith Deddfwriaeth a Pholisi | Yn dangos y goblygiadau ar gyfer datblygu'r fframwaith cyfreithiol a pholisi ar safleoedd a warchodir yn Abertawe. |
Tabl 3 | Cynefinoedd a Warchodir yn Abertawe - Fframwaith Deddfwriaeth a Pholisi | Yn dangos y ddeddfwriaeth a'r polisi sy'n berthnasol i fathau penodol o gynefinoedd. |
Tabl 4 | Gwarchod Rhywogaethau yn Abertawe - Fframwaith Deddfwriaeth a Pholisi | Yn rhoi syniad o'r mathau o rywogaethau a warchodir a geir yn gyffredin yn y sir a'r amddiffyniad perthnasol a ddarperir gan gyfraith a pholisi amgylcheddol. |
Esbonnir y ddeddfwriaeth a'r polisi yn fanylach yn y tablau yn ddiweddarach yn y Nodyn Cyfarwyddyd.
Sylwch fod y wybodaeth yn gywir ar adeg ei chyhoeddi. Mae deddfwriaeth a pholisi pellach yn debygol o gael eu cynhyrchu mewn ymateb i ddealltwriaeth gynyddol o'r amgylchedd naturiol ac amgylchiadau newidiol, gan gynnwys ymadawiad Prydain Fawr â'r Undeb Ewropeaidd. Cyfrifoldeb y datblygwr yw sicrhau bod ei gynigion yn bodloni gofynion deddfwriaethol a pholisi cyfredol.
| Deddfwriaeth | Polisi/Strategaeth/Cyfarwyddyd |
---|---|---|
Rhyngwladol |
|
|
|
| |
|
| |
DU |
Atodlen 1 - Adar sy'n Bridio Atodlen 5 - Anifeiliaid a Warchodir ac eithrio adar Atodlen 8 - Planhigion a Warchodir Atodlen 9 - Rhywogaethau anfrodorol ymledol
|
|
| (Gweler Polisi Cymru isod) | |
| (Gweler Polisi Cymru isod) | |
| (Gweler Polisi Cymru isod) | |
Cymru |
|
|
|
| |
|
| |
|
| |
|
| |
|
| |
Rhanbarthol |
|
|
| ||
Abertawe |
|
|
| ||
| ||
| ||
|
| Pwysigrwydd a Pholisi CDLl | Nodwedd | Deddfwriaeth a Pholisi | Safleoedd yn Abertawe | Goblygiadau Datblygu Gofynion Cyfreithiol/Polisi | |
---|---|---|---|---|---|---|
Safleoedd | Pwysigrwydd Rhyngwladol Polisi:
| Categori V Tirwedd Warchodedig IUCN | Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 |
| Rhaid i ddatblygiad ystyried pwrpas y dynodiad i warchod a gwella harddwch naturiol yr ardal. | |
Gwlyptir o 'Bwysigrwydd Rhyngwladol' Ramsar | Confensiwn Ramsar y Cenhedloedd Unedig (1971) Y Rheoliadau Cynefinoedd
|
| Gwarchodir safleoedd rhag gweithrediadau a allai fod yn niweidiol. Rhagdybiaeth gref yn erbyn datblygiad niweidiol. AEA: Efallai y bydd angen Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol ar ddatblygiad ARhC: Efallai y bydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer datblygiad | |||
Ardal Gwarchodaeth Arbennig (AGA) |
| |||||
Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) |
| |||||
Pwysigrwydd Cenedlaethol Polisi:
| Safle o Bwysigrwydd Gwyddonol Arbennig (SSSI) | Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) (fel y'i diwygiwyd) gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (2000) |
| Gwarchodir safleoedd rhag gweithrediadau a allai fod yn niweidiol. Rhagdybiaeth gref yn erbyn datblygiad niweidiol. Efallai y bydd angen caniatâd Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ar gyfer gwaith.
| ||
|
| Gwarchodfa Natur Genedlaethol (GNG)
(Noder. - Mae pob GNG hefyd yn SoDdGA) | Mae GNG yn cael eu datgan gan CNC o dan Ddeddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad (1949) neu Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) |
| Mae GNG yn ystyriaeth gynllunio berthnasol a dylid ei diogelu a'i gwella. Mae gan bob gwarchodfa raglen waith i reoli nodweddion arbennig y safle. Mae rhai gwarchodfeydd angen hawlenni i gael mynediad iddynt. | |
| Pwysigrwydd Lleol Polisi:
| Gwarchodfa Natur Leol (GNL) | Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad(1949) neu Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) |
| Rhoi ystyriaeth i gyfraniad at gysylltedd ecolegol a gwytnwch ecosystemau. Gwirio presenoldeb cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth i gael eu diogelu'n briodol yn unol ag Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. | |
Safle o Bwys ar gyfer Cadwraeth Natur (SBCN) | Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11) Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 | Mewn nifer o leoliadau - Gweler Map Cyfyngiadau a Materion Polisi: https://www.abertawe.gov.uk/cdll | ||||
| Safleoedd eraill o bwysigrwydd lleol (e.e. Coetiroedd Hynafol, Gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt, gwarchodfa RSPB). | Polisi Cynllunio Cymru (Argraffiad 11) Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016
| Mewn nifer o leoliadau Coetiroedd Hynafol - Gweler Map Cyfyngiadau a Materion Polisi. Gwarchodfa RSPB - Cwm Clydach https://www.rspb.org.uk/reserves-and-events/reserves-a-z/cwm-clydach/ Gwarchodfeydd Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt - https://www.welshwildlife.org/nature-reserves Parciau Abertawe - https://www.swansea.gov.uk/parksatoz |
|
| Pwysigrwydd a Pholisi CDLl | Nodwedd | Deddfwriaeth a Pholisi | Goblygiadau Datblygu Gofynion Cyfreithiol/Polisi |
---|---|---|---|---|
Cynefinoedd | Pwysigrwydd Cenedlaethol -Deddfwriaeth Genedlaethol Polisi:
| Cynefinoedd o Bwysigrwydd Ewropeaidd - 'Atodiad I Cynefinoedd â Blaenoriaeth' | Y Rheoliadau Cynefinoedd | Gall cynefin fod yn nodwedd gymhwyso ACA. ARhC: Efallai y bydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer datblygiad. |
Pwysigrwydd Cenedlaethol -Deddfwriaeth Genedlaethol Polisi:
Map Cyfyngiadau a Materion (ar gyfer Coetiroedd Hynafol) CCA Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd ar Safleoedd Datblygu | Coed a Choetiroedd | Gorchmynion Cadw Coed (Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990) Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999 | UO dan ddarpariaethau'r Ddeddf, mae nifer o Orchmynion Cadw Coed wedi'u gwneud i ddiogelu coed penodol, grwpiau o goed a choetiroedd ar draws y Sir. Mae manylion cyswllt Swyddog Coed y Cyngor ar gael yn https://swansea.gov.uk/treepreservationorders https://swansea.gov.uk/treesondevelopmentsites Pwrpas Gorchymyn Cadw Coed yw gwarchod coed sy'n cael effaith sylweddol ar eu hamgylchedd lleol. Mae darpariaethau arbennig hefyd yn berthnasol i goed o fewn Ardaloedd Cadwraeth. Yn ogystal â'u gwerth amwynderol, mae coed yn ased naturiol pwysig ac yn chwarae rhan hanfodol wrth ddarparu ystod eang o wasanaethau ecosystem (draenio, dal a storio carbon, ansawdd aer, darpariaeth bwyd ac ati.) | |
Gwrychoedd | Rheoliadau Gwrychoedd (1997) | Mae rhai gwrychoedd yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu symud. Bydd canlyniad Sgrinio Rheoliadau Gwrychoedd yn cynghori ar warchod, cynnal a chadw a gwella gwrychoedd angenrheidiol. Gall gwrychoedd hefyd gynnwys rhywogaethau a nodwyd i'w gwarchod, cyfrannu at fioamrywiaeth a chysylltedd a gallant fod yn rhan o seilwaith gwyrdd a rhwydweithiau ecolegol pwysig. | ||
Safleoedd Coetiroedd Hynafol
| Polisi Cynllunio Cymru
| Ni chaniateir datblygu ar y safleoedd hyn fel arfer. Mae'n debygol y bydd angen ardal glustogi ar ddatblygiadau os ydynt yn agos at y safleoedd hyn. | ||
Cynefinoedd | Pwysigrwydd Cenedlaethol/Lleol Polisi:
| Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UKBAP) Cynefin â Blaenoriaeth Adran 7: Cynefinoedd o'r pwys mwyaf | Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Adran 7): https://www.biodiversitywales.org.uk/Section-7 | Cynefinoedd y mae'n rhaid eu cynnal a'u gwella. Efallai y bydd angen mesurau lliniaru/iawndal. |
Cynefinoedd Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) / Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) | CGBLl/ CGAN Abertawe: https://www.swansea.gov.uk/localbiodiversityactionplan | Cynefinoedd o bwysigrwydd ac arwyddocâd lleol y mae'n rhaid eu cynnal a'u gwella. | ||
Pwysigrwydd Cenedlaethol/Lleol Polisi:
| Rhwydweithiau a Choridorau Ecolegol | Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Adran 6) Polisi Cynllunio Cymru (Pennod 6) CGAN Cymru
| Cynnal a gwella rhwydweithiau ecolegol o fewn a thu allan i'r safle. |
Rhywogaethau | Pwysigrwydd a Pholisi CDLl | Nodwedd | Deddfwriaeth a Pholisi | Examples in Swansea | Goblygiadau Datblygu Gofynion Cyfreithiol/Polisi |
---|---|---|---|---|---|
Pwysigrwydd Rhyngwladol Polisi:
| Rhywogaethau a Warchodir gan Ewrop
| Rhestr rhywogaethau ar Atodlen 2 (ffawna) ac Atodlen 4 (fflora) o'r Rheoliadau Cynefinoedd | Ystlumod (pob rhywogaeth), Pathew Y dyfrgi Ewropeaidd Madfall ddŵr gribog Madfall y tywod Llamhidydd yr harbwr Tafolen y traeth Tegeirian y fign | Gwarchodir rhywogaethau rhag cael eu lladd, eu hanafu, eu haflonyddu neu eu dal yn fwriadol neu'n ddi-hid, yn ogystal â'u mannau magu a gorffwys. Mae gan y Cyngor fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol ddyletswydd i roi sylw i Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac Adar Gwyllt y GE fel rhan o'r broses gynllunio. ARhC: Efallai y bydd angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ar gyfer datblygiad | |
Y Gyfarwyddeb Cynefinoedd Atodiad 2 rhywogaethau Y Gyfarwyddeb Adar Atodiad 1 - Rhywogaethau | Y Rheoliadau Cynefinoedd | Britheg y gors Ystlumod pedol Lampreiod Gwangod Brain coesgoch Barcud coch Myrddin Glas y Dorlan | Wedi'i warchod trwy ddynodiad ACA/AGA (gweler uchod); NEU safle o amrywiaeth ddigonol ac ardal o gynefin ar gyfer adar gwyllt. Fel awdurdod cymwys, mae gan yr ACLl ddyletswydd i gynnal ARhC. | ||
Pwysigrwydd Cenedlaethol Neu Leol Polisi:
| Moch Daear | Deddf Gwarchod Moch Daear (1992) | Moch Daear | Mae Moch Daear a'u setiau yn cael eu hamddiffyn rhag ymyrraeth fwriadol neu fyrbwyll Efallai y bydd angen trwydded gan CNC i gau neu ymyrryd â brochfa, neu i achosi aflonyddwch. Mae'r ddeddfwriaeth lles anifeiliaid hon yn diogelu moch daear a'u brochfeydd, ac yn ei gwneud yn anghyfreithlon i:
| |
Mamaliaid Gwyllt | Deddf Gwarchod Mamaliaid Gwyllt 1996 | Ceirw Moch Daear Llwynog Draenog Ystlumod Gwadden/twrch daear Llygoden y gwair Llygod Chwistlen | Yn ei gwneud yn drosedd i achosi dioddefaint diangen i famaliaid gwyllt. Mae'r Ddeddf hon yn cynnig math o amddiffyniad i bob rhywogaeth wyllt o famaliaid ac mae'n fwy o Ddeddf lles anifeiliaid na chadwraeth. | ||
Rhywogaethau (parhad) |
| Atodlen 5 Anifeiliaid a Warchodir (heb gynnwys Adar) | Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) (fel y'i diwygiwyd) Atodlen 5 | Llygoden y dŵr Britheg y gors Glöyn byw bach glas Pryf copyn rafft ffen Neidr ddefaid Neidr y gwair Gwiber Llyffant Madfall ddŵr lyfn Gwangod a herlod | Mae gan rywogaethau wahanol lefelau o amddiffyniad, gan gynnwys amddiffyniad rhag lladd bwriadol, anafu neu gymryd, dadwreiddio neu ddinistrio; eu hamddiffyn rhag niwed bob amser; neu wrth nythu. Dylid gwarchod a gwella'r rhywogaethau hyn. |
| Atodlen 8: Planhigion a Warchodir | Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) (fel y'i diwygiwyd) Atodlen 8 | Murwyll tewbannog Gludlys Clychau'r gog brodorol Penigan y porfeydd Llysiau'r gwaed Crwynllys y twyni | Mae Atodlen 8 yn rhestru rhywogaethau o blanhigion a warchodir o dan Adran 13. Mae adran 13 yn diogelu planhigion rhag cael eu pigo a gwerthu planhigion neu rannau o blanhigion. | |
| Bob aderyn gwyllt | Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad (1981) (fel y'i diwygiwyd) Atodlen 1 | Bob aderyn gwyllt | Mae pob aderyn gwyllt, eu nythod a'u hwyau wedi'u diogelu dan y Ddeddf. Mae'n drosedd yn fwriadol i:
| |
| Atodlen 1: Adar |
| Tylluan Wen Hebog Tramor Barcud Coch Brain coesgoch Glas y Dorlan Aderyn y Bwn Môr-hwyaid duon | Mae llawer o adar prin wedi'u rhestru ar Atodlen 1, sy'n ei gwneud yn drosedd yn fwriadol neu'n fyrbwyll i:
| |
Rhywogaethau (parhad) |
| Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth DU (UKBAP) Rhywogaethau â Blaenoriaeth Adran 7: Rhywogaethau o'r pwys mwyaf | Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (Adran 7) | Gweler rhestr Adran 7: https://www.biodiversitywales.org.uk/Section-7 | Rhywogaethau y mae'n rhaid eu cynnal a'u gwella. Efallai y bydd angen mesurau lliniaru/iawndal. |
| Rhywogaethau Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Lleol (CGBLl) / Cynllun Gweithredu Adfer Natur (CGAN) | CGBLl/ CGAN Abertawe | Gweler CGBLl: https://www.swansea.gov.uk/localbiodiversityactionplan | Rhywogaethau o bwysigrwydd ac arwyddocâd lleol y mae'n rhaid eu cynnal a'u gwella. | |
| Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol (INNS) | Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd) Atodlen 9 Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Chaniatáu). 2019 | Jac y neidiwr Clymog Japan Montbretia rhododendron melyn Gwinwydden Virginia (ffug) Gwlithlys porffor Rhododendron ponticum Cennin tair-congl Garlleg blodau-prin Rhosyn Japaneaidd Creigafal Riwbob enfawr Efwr enfawr Gwiwer lwyd Minc Americanaidd | Ystyriaeth cynllunio berthnasol. Mae'n anghyfreithlon lledaenu rhywogaethau o'r fath ac felly efallai y bydd angen cynlluniau rheoli INNS. Ni ddylid cynnwys rhywogaethau Atodlen 9 mewn unrhyw gynlluniau tirweddu (daearol neu ddyfrol/ymylol). |
Crynodebau o Brif Ddeddfwriaeth a Pholisi
Deddfwriaeth
Ewropeaidd a'r DU
Mae'r Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2017 ('Y Rheoliadau Cynefinoedd'): Yn cydgrynhoi Rheoliadau Cadwraeth Cynefinoedd a Rhywogaethau 2010 gyda diwygiadau dilynol. Mae'r Rheoliadau'n trosi Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC, ar Warchod Cynefinoedd Naturiol a Ffawna a Fflora Gwyllt, yn gyfraith genedlaethol y DU. Maent hefyd yn trosi elfennau o Gyfarwyddeb Adar Gwyllt yr UE yng Nghymru a Lloegr.
Ers i Brydain Fawr adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'r Rheoliadau Gwarchod Cynefinoedd a Rhywogaethau (Diwygio) (Ymadael â'r UE) 2019 wedi dod yn offeryn statudol y DU. Mae'r rhain yn diwygio Rheoliadau 2017 fel eu bod yn gweithredu'n effeithiol, gyda'r rhan fwyaf o'r newidiadau yn cyfeirio at drosglwyddo swyddogaethau o'r Comisiwn Ewropeaidd i'r awdurdodau priodol yng Nghymru a Lloegr. Mae'r holl brosesau neu delerau eraill yn Rheoliadau 2017 yn parhau heb eu newid ac mae'r canllawiau presennol yn dal yn berthnasol. Nid yw rhwymedigaethau awdurdod cymwys ar gyfer gwarchod safleoedd neu rywogaethau yn newid.
Mae'r Rheoliadau Cynefinoedd yn darparu ar gyfer dynodi a gwarchod 'safleoedd Ewropeaidd', gwarchod 'rhywogaethau a warchodir gan Ewrop', ac addasu rheolaethau cynllunio a rheolaethau eraill ar gyfer gwarchod Safleoedd Ewropeaidd. Gallai nifer o safleoedd Ewropeaidd yn y Sir a thu hwnt gael eu heffeithio gan ddatblygiadau.
Nid yw ACA ac AGA yn y DU bellach yn rhan o rwydwaith ecolegol Natura 2000 yr UE. Mae Rheoliadau 2019 wedi creu rhwydwaith safleoedd cenedlaethol[1] ar y tir ac ar y môr, gan gynnwys ardaloedd morol y glannau ac alltraeth yn y DU. Mae'r rhwydwaith safleoedd cenedlaethol yn cynnwys:
- ACA ac AGA presennol
- ACA ac AGA newydd a ddynodwyd o dan y Rheoliadau hyn
Mae unrhyw gyfeiriadau at Natura 2000 yn Rheoliadau 2017 ac yn y canllawiau bellach yn cyfeirio at y rhwydwaith safleoedd cenedlaethol newydd.
O dan y Rheoliadau, mae gan Gyngor Abertawe fel awdurdod cymwys ddyletswydd gyffredinol, wrth arfer unrhyw un o'i swyddogaethau, i roi sylw i Gyfarwyddeb Cynefinoedd ac Adar Gwyllt y GE, i'r graddau y gallent gael eu heffeithio gan arfer y swyddogaethau hynny. Mae hyn yn cynnwys cynnal Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) i asesu effeithiau posibl cynlluniau neu brosiectau ar Safleoedd Ewropeaidd.
Gweler Nodiadau Cyfarwyddyd Cyngor Abertawe ar Broses Arolygu ac Asesu Ecolegol a Thrwyddedau Datblygu Rhywogaethau a Warchodir i gael rhagor o fanylion am y gweithdrefnau penodol sy'n ymwneud â'r Rheoliadau Cynefinoedd.
Confensiwn Ramsar 1971: Mae Gwlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol (Safleoedd Ramsar) a ddatganwyd o dan y Confensiwn ar Wlyptiroedd o Bwysigrwydd Rhyngwladol yn enwedig fel Cynefin Adar Dŵr 1971 yn cael eu hystyried yn Safleoedd Ewropeaidd o fewn y DU a Pholisi Llywodraeth Leol.
Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 (fel y'i diwygiwyd gan y Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig 2006): Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad yw'r brif ddeddfwriaeth yn y DU, sy'n gwarchod rhywogaethau arbennig o blanhigion ac anifeiliaid ac yn caniatáu ar gyfer dynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA). Mae hefyd yn ystyried Rhywogaethau Anfrodorol Goresgynnol, a rheolaeth ar hela a maglu anifeiliaid gwyllt.
Gorchymyn Rhywogaethau Estron Goresgynnol (Gorfodi a Chaniatáu) 2019: Mae'r gorchymyn yn caniatáu ar gyfer gorfodi Rheoliad yr UE (Rhif 1143/2014) ar atal a rheoli cyflwyno a lledaenu rhywogaethau goresgynnol estron yng Nghymru a Lloegr, a elwir hefyd yn Reoliadau IAS.
Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (CRoW) (2000): Yn cynyddu'r amddiffyniad ar gyfer SoDdGA ac yn cryfhau deddfwriaeth gorfodi bywyd gwyllt. Mae'r Ddeddf hefyd yn darparu mesurau diogelu, sy'n ystyried anghenion tirfeddianwyr a deiliaid, a buddiannau eraill, gan gynnwys bywyd gwyllt. Mae'r Ddeddf yn gosod dyletswydd ar gyrff cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Abertawe, i hybu cadwraeth a gwelliant SoDdGA, ac yn cynyddu cosbau ar gollfarn o ddifrodi SoDdGA.
Deddf yr Amgylchedd Naturiol a Chymunedau Gwledig (NERC) 2006: Yn gosod dyletswydd statudol ar bob corff cyhoeddus i roi sylw i warchod bioamrywiaeth (gan ymestyn dyletswydd Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy (a'i hymestyn yn ddiweddarach gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru)), ac yn nodi rhywogaethau a chynefinoedd o brif bwysigrwydd ar gyfer cadwraeth natur yng Nghymru Mae rhestr Deddf NERC o rywogaethau a chynefinoedd pwysig yn cael ei disodli gan y rhestr a ddarperir yn Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 (gweler isod).
Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949 (fel y'i diwygiwyd): Mae'r Ddeddf yn caniatáu ar gyfer dynodi Gwarchodfeydd Natur Cenedlaethol (GNG) a Gwarchodfeydd Natur Lleol (GNL) ac yn amddiffyn rhag gweithrediadau niweidiol.
Deddf Cefn Gwlad 1968: Yn diwygio Deddf Parciau Cenedlaethol a Mynediad i Gefn Gwlad 1949, er mwyn rhoi pwerau i awdurdodau lleol a chyrff eraill ar gyfer gwarchod a gwella cefn gwlad.
Cymru
Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Asesu Effaith Amgylcheddol) (Cymru) 2017: Ei gwneud yn ofynnol bod mathau penodol o brosiectau yn destun asesiad o'u heffaith amgylcheddol cyn y gellir pennu caniatâd cynllunio. Mae gweithdrefnau penodol sy'n ymwneud ag asesiadau effaith amgylcheddol wedi'u nodi'n fanylach yn Nodiadau Cyfarwyddyd Cyngor Abertawe ar y Broses Arolygon ac Asesu Ecolegol.
Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016:Mae'n nodi'r gofyniad ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae'n cynnwys Dyletswydd Bioamrywiaeth a Gwydnwch Ecosystemau newydd (Adran 6), sy'n cryfhau dyletswydd Deddf NERC:
Mae'r ddyletswydd yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus, gan gynnwys Cyngor Abertawe fel yr Awdurdod Cynllunio Lleol, geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth cyn belled ag y bo hynny'n gyson ag arfer eu swyddogaethau'n briodol ac wrth wneud hynny, yn hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau.
Wrth arfer y ddyletswydd hon, rhaid i Gyngor Abertawe, fel awdurdod cyhoeddus, ystyried cadernid ecosystemau, yn enwedig yr agweddau canlynol:
a) amrywiaeth rhwng ac o fewn ecosystemau;
b) y cysylltiadau rhwng ac o fewn ecosystemau;
c) maint yr ecosystemau;
d) cyflwr ecosystemau;
e) addasrwydd ecosystemau.
Bwriad y mesurau hyn, ynghyd â'r rhai yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (isod), yw sicrhau bod y Dull Ecosystem, fel y'i hyrwyddir mewn polisi rhyngwladol, yn cael sail statudol yng Nghymru.
Mae'r Ddeddf hefyd angen dull cydgysylltiedig o reoli adnoddau naturiol ar lefel genedlaethol a lleol drwy gynhyrchu polisi penodol gan Lywodraeth Cymru ac adroddiad cenedlaethol a datganiadau lleol gan CNC, fel a ganlyn:
- Adroddiad ar Gyflwr Adnoddau Naturiol (SoNaRR) - Adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n rhoi asesiad o adnoddau naturiol Cymru a pha mor dda y mae'r adnoddau hyn yn cael eu rheoli mewn ffordd gynaliadwy.
- Polisi Adnoddau Naturiol - Polisi Llywodraeth Cymru sy'n nodi'r blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae'r polisi'n ystyried canfyddiadau'r SoNaRR.
- Datganiadau Ardal - datganiad CNC sy'n darparu sylfaen dystiolaeth leol sy'n helpu i weithredu'r blaenoriaethau, risgiau a chyfleoedd a nodir yn y Polisi Cenedlaethol a sut mae CNC yn bwriadu mynd i'r afael â'r rhain.
Mae angen ystyried y wybodaeth helaeth a chydgysylltiedig sy'n ymwneud â rheoli adnoddau naturiol wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio. Caiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo corff cyhoeddus, megis Cyngor Abertawe, i gymryd y camau hynny y mae'n ymddangos iddynt yn rhesymol ymarferol i fynd i'r afael â'r materion a bennir mewn datganiad ardal a ddarperir gan CNC.
Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) Adran 7 yn ei gwneud yn ofynnol i weinidogion Cymru gyhoeddi, adolygu a diwygio rhestrau o organebau byw a mathau o gynefinoedd yng Nghymru, y maent yn eu hystyried yn allweddol bwysig i gynnal a gwella bioamrywiaeth mewn perthynas â Chymru.
Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015:Rhaid i gyrff cyhoeddus fel Cyngor Abertawe osod amcanion sy'n cyfrannu at saith Nod Llesiant Llywodraeth Cymru. Y nod mwyaf perthnasol (y Nod 'Cydnerth') yng nghyd-destun Bioamrywiaeth yw:-
'Cenedl sy'n cynnal ac yn gwella amgylchedd naturiol bioamrywiol gydag ecosystemau iach gweithredol sy'n cynnal cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac ecolegol a'r gallu i addasu i newid (er enghraifft newid yn yr hinsawdd).'
Rhaid i'r system gynllunio yn Abertawe gyfrannu at gyrraedd Nod Cymru Gydnerth.
Deddfwriaeth Seiliedig ar Destunau
Coed a Gwrychoedd
- Gorchmynion Cadw Coed: Mae'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer Gorchmynion Cadw Coed (TPO) wedi'i gynnwys yn y Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, a'r Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Coed) 1999. O dan ddarpariaethau'r Ddeddf, gwnaed nifer o Orchmynion Cadw Coed i ddiogelu coed, grwpiau o goed a choetiroedd penodol ar draws y Sir. Pwrpas Gorchymyn Cadw Coed yw gwarchod coed sy'n cael effaith sylweddol ar eu hamgylchedd lleol. Mae darpariaethau arbennig hefyd yn berthnasol i goed o fewn ardaloedd cadwraeth. Yn ogystal â'u gwerth amwynderol, mae coed yn ased naturiol pwysig ac yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi bioamrywiaeth a systemau ecolegol.
- Coetiroedd Hynafol, gan gynnwys Coetiroedd Hynafol Lled-Naturiol (ASNW), Planhigfa ar Safleoedd Coetiroedd Hynafol (PAWS), Safleoedd Coetiroedd Hynafol wedi'u Hadfer (RAWS) a Choetiroedd Hynafol o Gategori Anhysbys (AWSU): Ddim wedi eu gwarchod gan ddeddfwriaeth benodol; fodd bynnag, mae Polisi Cynllunio Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i warchod coetiroedd hynafol a datblygir hyn ymhellach ym Mholisi CDLl ER 11.
- Rheoliadau Gwrychoedd 1997: Mae'r rheoliadau hyn yn gwarchod gwrychoedd pwysig yng nghefn gwlad, yn enwedig gwrychoedd sy'n fwy nag 20 metr o hyd neu'r rhai sy'n cwrdd â gwrychoedd arall ar y naill ben a'r llall.
Dŵr
Y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr:Troswyd hwn yn gyfraith y DU ym mis Rhagfyr 2003. Mae'n berthnasol i bob corff dŵr croyw arwyneb (gan gynnwys llynnoedd, afonydd a nentydd), dŵr daear ac ecosystemau sy'n dibynnu ar ddŵr daear, aberoedd a dyfroedd arfordirol hyd at filltir oddi wrth ddŵr isel. Nod y Gyfarwyddeb yw gwella iechyd ecolegol dyfroedd mewndirol ac arfordirol ac atal dirywiad pellach. Y nod cyffredinol yw i bob corff dŵr mewndirol ac arfordirol gyrraedd statws ecolegol "da" o leiaf.
Systemau Draenio Cynaliadwy:Atodlen 3 y Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010: Mae hon yn gwneud systemau draenio cynaliadwy (SDCau) yn ofyniad gorfodol ar gyfer pob datblygiad newydd o fwy nag 1 annedd neu lle mae'r ardal adeiladu yn 100m2 neu fwy. Mae gwelliannau i fioamrywiaeth yn rhan allweddol o gyflawni datrysiad draenio cynaliadwy addas (SDCau). Rhaid i SDCau ystyried y cyfleoedd i ddarparu buddion amlswyddogaethol gan gynnwys gwella bioamrywiaeth, ansawdd dŵr a gwarchod a gwella'r amgylchedd.
Rhywogaethau a Warchodir
Moch Daear: Deddf Gwarchod Moch Daear 1992 - yn gwarchod moch daear a'u brochfeydd.
Mamaliaid Gwyllt: Deddf Gwarchod Mamaliaid Gwyllt 1996 - Yn ei gwneud yn drosedd i achosi dioddefaint diangen i famaliaid gwyllt.
Pysgod: Deddf Pysgodfeydd Eogiaid a Dŵr Croyw 1975 (fel y'i diwygiwyd) - yn diogelu pysgod dŵr croyw, yn enwedig eogiaid a brithyllod, gyda phynciau'n cynnwys llygredd dŵr, tarfu ar gynefinoedd a llwybrau mudo pysgod. Mae Rheoliadau Llyswennod (Cymru a Lloegr) 2009 yn sefydlu mesurau ar gyfer adennill y stoc o lysywod Ewropeaidd.
Polisi Amgylcheddol
Rhyngwladol
Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD):Confensiwn ar Amrywiaeth Fiolegol (CBD) y Cenhedloedd Unedig, y mae llywodraeth y DU yn llofnodwr iddo, wedi cynhyrchu Cynllun Strategol ar gyfer 2011-2020. Gweledigaeth y cynllun strategol hwn yw:
"Erbyn 2050, bydd bioamrywiaeth yn cael ei gwerthfawrogi, ei chadw, ei hadfer a'i defnyddio'n ddoeth, gan gynnal gwasanaethau ecosystem, cynnal planed iach a sicrhau buddion sy'n hanfodol i bawb."
Mae'r CBD yn gosod cyfres o Dargedau Bioamrywiaeth, a elwir yn 'Dargedau Aichi'.
Mae'r rhain wedi eu grwpio'n 5 nod strategol, fel a ganlyn:-
Nod Strategol A: Mynd i'r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth drwy brif ffrydio bioamrywiaeth ar draws llywodraeth a chymdeithas
Nod Strategol B: Lleihau'r pwysau uniongyrchol ar fioamrywiaeth a hyrwyddo defnydd cynaliadwy
Nod Strategol C: Gwella statws bioamrywiaeth trwy ddiogelu ecosystemau, rhywogaethau ac amrywiaeth genetig
Nod Strategol D: Gwella'r buddion i bawb o fioamrywiaeth a gwasanaethau ecosystem.
Nod Strategol E: Gwella gweithrediad trwy gynllunio cyfranogol, rheoli gwybodaeth a meithrin capasiti
Yn ogystal, mae'r CBD yn ystyried y dull ecosystem, gan ei ddisgrifio fel 'strategaeth ar gyfer rheolaeth integredig o dir, dŵr ac adnoddau byw sy'n hyrwyddo cadwraeth a defnydd cynaliadwy mewn ffordd deg', a gydnabyddir yn eang fel arfer gorau rhyngwladol ar gyfer mynd i'r afael â'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Drwy'r cysyniad o reolaeth gynaliadwy, mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn rhoi'r dull ecosystem ar sail statudol, gan dynnu ar y 12 egwyddor a sefydlwyd gan y CBD.
Y DU
Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU: Mae Fframwaith Bioamrywiaeth Ôl-2010 y DU, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2012, yn olynu Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth y DU (UKBAP) a'r ddogfen 'Gwarchod Bioamrywiaeth - Dull y DU'. Mae'n ganlyniad i newid mewn meddwl strategol yn dilyn cyhoeddi 'Cynllun Strategol ar gyfer Bioamrywiaeth 2011-2020' y CBD a'i 'Dargedau Bioamrywiaeth Aichi'. Mae'r Fframwaith yn dangos sut mae'r gwaith ym mhedair gwlad y DU yn cyfrannu at gyflawni Targedau Bioamrywiaeth Aichi, ac yn nodi'r gweithgareddau sydd eu hangen i ategu bioamrywiaeth y wlad
Cymru
Dull Rheoli Adnoddau Naturiol: Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn cynnwys defnyddio dull integredig i sicrhau bod adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy.
'Mae adnoddau naturiol yn cwmpasu llawer mwy na'r "amgylchedd". Maent yn cyflenwi popeth o'r aer rydyn ni'n ei anadlu i'r bwyd rydyn ni'n ei fwyta; o'r tir rydyn ni'n ei ddatblygu i'r dŵr rydyn ni'n ei ddefnyddio i oeri ein diwydiant trwm.
Maent yr un mor sylfaenol i lwyddiant ein heconomi a llesiant ein pobl ag y maent i ansawdd yr amgylchedd naturiol. Mae'r galw ar ein hadnoddau naturiol yn cynyddu felly mae angen i ni ddod o hyd i ffordd o gydweithio i feithrin perthnasoedd iachach â'n hamgylchedd. Drwy reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy, gallwn greu swyddi a chefnogi tai a seilwaith cynaliadwy i helpu ein heconomi i ffynnu.
Y nod yw rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy mewn ffordd ac ar gyfradd a all gynnal a gwella gwytnwch ein hecosystemau tra'n diwallu anghenion cenedlaethau'r presennol heb beryglu gallu cenedlaethau'r dyfodol i ddiwallu eu hanghenion. Y nod cyffredinol yw sicrhau bod gan Gymru ecosystemau cynyddol wydn ac amrywiol sy'n sicrhau manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol.'
Polisi Adnoddau Naturiol: Ffocws y Polisi Adnoddau Naturiol yw gwella rheolaeth adnoddau naturiol. Mae'n rhan allweddol o'r fframwaith cyflenwi ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru). Mae hefyd yn allweddol i gyflawni'r Nodau Llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Y blaenoriaethau yw:
- Darparu atebion sy'n seiliedig ar natur;
- Ynni adnewyddadwy;
- Economi gylchol; a
- Cefnogi pobl a lleoedd trwy ddefnyddio dull sy'n seiliedig ar le.
Cynllun Gweithredu i Adfer Natur: Cynhyrchodd Llywodraeth Cymru, gan weithio'n agos â Phartneriaeth Bioamrywiaeth Cymru (PBC) Gynllun Gweithredu i Adfer Natur yn 2015, a oedd â'r nod o fynd i'r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth drwy roi natur wrth galon ei phenderfyniadau, drwy gynyddu cydnerthedd systemau naturiol (ecosystemau) Cymru, a thrwy gymryd camau penodol ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau. Roedd yn nodi sut y bydd Cymru yn cyflenwi ymrwymiadau'r CBD y CU i atal y dirywiad yn ein bioamrywiaeth a gwrthdroi'r dirywiad hwnnw. Adnewyddwyd y cynllun yn 2020 i gynnwys camau trawsnewidiol i ddylanwadu ar ymddygiad a phenderfyniadau buddsoddi i sicrhau ein bod yn cynnal ac yn gwella bioamrywiaeth. Nodwyd pum blaenoriaeth uniongyrchol yn 2020:
- Cysoni'r ymatebion i'r argyfwng hinsawdd gyda'r argyfwng bioamrywiaeth;
- Mynd i'r afael â'r bwlch ariannu ar ôl gadael yr UE ar gyfer mesurau amaeth-amgylcheddol;
- Darparu cyfeiriad gofodol i dargedu gweithredu ar gyfer bioamrywiaeth;
- Gwella cyflwr y Rhwydwaith Safleoedd a Warchodir; ac
- Archwilio mecanweithiau ariannu newydd a chynaliadwy ar gyfer gweithredu bioamrywiaeth.
Bioamrywiaeth a Pholisi Cynllunio
Fframwaith Datblygu Cenedlaethol
Cymru'r Dyfodol: Y Cynllun Cenedlaethol 2040
Polisi 9 - Rhwydweithiau Ecolegol Cadarn a Seilwaith Gwyrdd: Mae Polisi 9 yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Mae'n nodi meysydd ecolegol allweddol, seilwaith gwyrdd a rhwydweithiau ar gyfer diogelu. Mae'r polisi'n hyrwyddo'r defnydd o ddulliau arloesol sy'n seiliedig ar natur i gynllunio safleoedd a dylunio'r amgylchedd adeiledig i gyflawni camau gweithredu cronnol tuag at wella bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau.
Polisi 9
Er mwyn gwella bioamrywiaeth, sicrhau bod ecosystemau yn gadarn a darparu seilwaith gwyrdd, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i wneud y canlynol:
- nodi ardaloedd y dylid eu diogelu a'u creu fel rhwydweithiau ecolegol am eu bod yn bwysig wrth addasu i newid yn yr hinsawdd, diogelu, adfer neu greu cynefinoedd, diogelu rhywogaethau, neu ddarparu gwasanaethau ecosystemau allweddol, er mwyn sicrhau na fydd gwaith datblygu yn y dyfodol yn amharu'n ormodol arnynt
- nodi cyfleoedd lle y gellid manteisio i'r eithaf ar seilwaith gwyrdd presennol a phosibl fel rhan o greu lleoedd, lle mae angen defnyddio atebion yn seiliedig ar natur fel dull allweddol o sicrhau twf cynaliadwy, cysylltedd ecolegol, cydraddoldeb cymdeithasol a llesiant.
Dylai awdurdodau cynllunio gynnwys yr ardaloedd a/neu'r cyfleoedd hyn o fewn strategaethau a pholisïau eu cynlluniau datblygu er mwyn hyrwyddo a diogelu'r swyddogaethau a gyflawnir ganddynt a'r cyfleoedd a gynigir ganddynt. Ym mhob achos, dylai camau gweithredu tuag at gynnal a gwella bioamrywiaeth (er mwyn sicrhau mantais net), gwneud ecosystemau yn gadarn ac asedau seilwaith gwyrdd gael eu dangos fel rhan o gynigion datblygu drwy ddulliau arloesol yn seiliedig ar natur o gynllunio safleoedd a dylunio'r amgylchedd adeiledig.
Polisi Cynllunio Cymru a Nodiadau Cyngor Technegol
Mae nodau ac amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer cadwraeth natur wedi'u nodi ym Mholisi Cynllunio Cymru, rhifyn 11 (PCC) ac fe'u cefnogir gan y cyngor yn Nodyn Cyngor Technegol (TAN) 5: Cadwraeth Natur a Chynllunio. Mae'r ddwy elfen hon yn darparu'r prif ganllawiau cynllunio cenedlaethol ar gyfer bioamrywiaeth.
Mae PCC yn nodi sut y gellir gwireddu 7 nod llesiant a 5 ffordd o weithio Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015wrth gynllunio a rheoli datblygu i greu lleoedd cynaliadwy a llesiant gwell.
Mae PCC yn argymell 'dull creu lleoedd' ar gyfer cynllunio a dylunio datblygiad a gofodau a fydd yn sail i benderfyniadau rheoli datblygu. Rhoddir esboniad ar greu lleoedd (cyfeirir at PCC paragraff 2.9).
Mae creu lleoedd yn ddull cyfannol, sy'n canolbwyntio ar ganlyniadau cadarnhaol, mae'n ystyried:
- gwerthoedd cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol cynigion datblygu;
- potensial ardal i greu datblygiad sy'n hybu ffyniant, iechyd, hapusrwydd a llesiant pobl;
- amgylchoedd ehangach, nid safleoedd unigol yn unig; ac
- integreiddio materion lluosog.
Mae Creu Lleoedd angen:
- meddwl deallus, aml-ddimensiwn ac arloesol;
- ystyriaeth gynnar o'r holl ffactorau;
- safonau uchel o dystiolaeth.
Mae'n amlwg y bydd cynnal a gwella bioamrywiaeth yn arwain at fioamrywiaeth ac ecosystemau gwydn, sy'n ganlyniad cadarnhaol i'r dull creu lleoedd.
Mae PCC yn nodi'r 5 prif egwyddor gynllunio. Mae'r rhain yn darparu gweledigaeth ar gyfer lleoedd sy'n cael eu creu drwy greu lleoedd, a gyda'i gilydd byddant yn y pen draw yn arwain at y datblygiad iawn yn y lle iawn.
Yr egwyddorion cynllunio allweddol yw:
- Tyfu ein heconomi mewn modd cynaliadwy - trwy alluogi datblygiad sy'n cyfrannu at lesiant economaidd hirdymor.
- Gwneud y defnydd gorau o adnoddau - trwy sicrhau bod datblygiad yn y lleoliad mwyaf cynaliadwy, sicrhau defnydd mwy cynaliadwy o adnoddau naturiol a chyfrannu, cyn belled ag y bo modd, at wneud ardaloedd yn wydn i newid hinsawdd, datgarboneiddio cymdeithas a chyflawni economi fwy cylchol
- Hwyluso amgylcheddau hygyrch ac iach - trwy greu lleoedd sy'n hygyrch i bawb a hyrwyddo ffordd iach o fyw
- Creu cymunedau cynaliadwy - trwy greu'r cymysgedd cywir o gartrefi, swyddi, gwasanaethau a chyfleusterau o ansawdd wedi'u dylunio'n dda, mewn ardaloedd trefol a gwledig fel y gall pobl fod yn fodlon yn eu bywydau bob dydd.
- Gwneud y mwyaf o warchodaeth amgylcheddol a chyfyngu ar effeithiau amgylcheddol andwyol - trwy warchod, hyrwyddo, cadw a gwella asedau naturiol, hanesyddol a diwylliannol
Yn seiliedig ar yr egwyddorion cynllunio allweddol (uchod) mae PCC yn nodi canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol (cyfeirier at ffigur 4 PCC). Dyma ganlyniadau cadarnhaol y dull creu lleoedd ac yn y bôn maent yn darparu fframwaith ar gyfer lle cynaliadwy. Mae'r canlyniadau cynaliadwy cenedlaethol yn seiliedig ar yr egwyddorion cynllunio allweddol. Mae'r canlyniadau sy'n ymwneud â bioamrywiaeth yn cynnwys:
Gwneud y Defnydd Gorau o Adnoddau | Gwneud y defnydd gorau o adnoddau naturiol |
---|---|
Mwyhau Diogelu'r Amgylchedd a Chyfyngu ar yr Effaith Amgylcheddol | Bioamrywiaeth ac ecosystemau cydnerth Tirweddau nodedig ac arbennig Seilwaith gwyrdd integredig Rheoli adnoddau dŵr yn naturiol Aer glân Yn gallu gwrthsefyll newid yn yr hinsawdd |
Hwyluso Amgylcheddau Hygyrch ac Iach | Mannau gwyrdd hygyrch ac o ansawdd uchel Yn hybu iechyd a llesiant corfforol a meddyliol |
Rhaid i gynigion datblygu geisio cyflawni datblygiad sy'n mynd i'r afael â'r canlyniadau cynaliadwy cenedlaethol. Er mwyn cyflawni hyn mae PCC angen y canlynol:
- Ystyriaeth o'r holl ffactorau cyn gynted â phosibl
- Gwybodaeth fanwl am le
- Ymgysylltu cymunedol helaeth, y tu hwnt i'r hyn sydd ei angen yn ôl statud
Mae PCC yn nodi 4 thema yn y dull creu lleoedd, ac yn clystyru'r testunau cynllunio tradodiadol o amgylch y themâu hyn i ddarparu canllawiau sy'n seiliedig ar bynciau penodol, fel a ganlyn:
- Dewisiadau Strategol a Gofodol - dylunio da/hyrwyddo lleoedd iachach/yr iaith Gymraeg/rheolaeth gynaliadwy o adnoddau naturiol/cynllunio strategol/creu lleoedd mewn ardaloedd gwledig/rheoli ffurf aneddiadau
- Mannau egnïol a chymdeithasol - canolfannau manwerthu a masnachol trafnidiaeth/tai/cyfleusterau cymunedol/mannau hamdden
- Lleoedd cynhyrchiol a mentrus - datblygiad economaidd/twristiaeth/yr economi wledig/seilwaith trafnidiaeth/telathrebu/ynni/mwynau/gwastraff
- Mannau Nodweddiadol a Naturiol - tirwedd/ardaloedd arfordirol/amgylchedd hanesyddol/seilwaith gwyrdd/bioamrywiaeth/dŵr, aer. Seinwedd a golau/llifogydd/dad-risgio
Er bod pynciau cynllunio'n cael eu grwpio o dan themâu, mae PCC yn pwysleisio bod creu lleoedd yn ddull cyfannol a bod rhaid i bob maes pwnc polisi (ar draws themâu) weithio gyda'i gilydd ac nid ar wahân nac mewn gwrthdrawiad â'i gilydd er mwyn creu lleoedd cynaliadwy gyda llesiant gwell. Mae PCC yn amlinellu proses benodol ar gyfer gweithredu creu lleoedd trwy Bolisi Cynllunio Cymru (gweler ffigwr 6 PCC). Mae hyn yn ei hanfod yn ei gwneud yn ofynnol i gynigion gael eu hasesu yn erbyn y thema dewisiadau strategol a gofodol cyn y themâu eraill.
PCC - Canllawiau Penodol sy'n Gysylltiedig â Bioamrywiaeth: Mae gan fioamrywiaeth i raddau llai neu fwy ddylanwad ar yr holl egwyddorion cynllunio allweddol; dylid mynd i'r afael â chanlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol a themâu creu lleoedd ar y cyd ac o dan ddull creu lleoedd PCC yn y rhan fwyaf o benderfyniadau cynllunio.
Gyda hyn mewn golwg, gellir dod o hyd i'r prif ganllawiau cenedlaethol penodol ar gyfer bioamrywiaeth o dan y thema Lleoedd Nodedig a Naturiol, sy'n ymdrin ag elfennau amgylcheddol a diwylliannol. Rhoddir sylw penodol i Rwydweithiau Bioamrywiaeth ac Ecolegol yn adran 6.4
Wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio mae PCC yn mynnu bod rhaid cymryd pob cam rhesymol i gynnal a gwella bioamrywiaeth a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau. O dan y dull creu lleoedd, mae angen cydbwyso hyn ag anghenion economaidd a chymdeithasol ehangach busnesau a chymunedau lleol a'r ffordd orau o gyflawni hyn yw drwy ystyried bioamrywiaeth ar y cam cynharaf posibl yn y broses o ystyried cynnig datblygu, un o ofynion creu lleoedd.
Lle na ellir osgoi neu liniaru effeithiau andwyol ar yr amgylchedd, bydd angen gwrthod caniatâd cynllunio.
Mae PCC yn glir bod rhaid i awdurdodau cynllunio, o dan Ddyletswydd Adran 6 (Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016) geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth wrth gyflawni eu swyddogaethau. Felly, dim ond datblygiad nad yw'n achosi unrhyw golled sylweddol o gynefinoedd neu boblogaethau o rywogaethau, yn lleol neu'n genedlaethol, y gall ACLlau ei gefnogi, ac un sy'n darparu budd net i fioamrywiaeth. Er mwyn cyflawni hyn yn effeithiol, mae PCC yn nodi bod rhaid i awdurdodau cynllunio ystyried a hyrwyddo cydnerthedd ecosystemau ac yn arbennig ystyried yr agweddau canlynol:
- Amrywiaeth rhwng ac o fewn ecosystemau;
- Cysylltiadau rhwng ac o fewn ecosystemau;
- Graddfa ecosystemau;
- Cyflwr ecosystemau; a
- Gallu ecosystemau i addasu.
Mae'r dull creu lleoedd angen penderfyniadau gwybodus ac mae PCC yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cynllunio roi sylw i:
- rhestr Adran 7 o gynefinoedd a rhywogaethau sydd o'r pwys mwyaf i Gymru (Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016)
- SoNaRR, a gyhoeddir gan CNC; a
- Datganiadau Ardal perthnasol.
Ynghyd â
- gwybodaeth arolwg ecolegol gyfredol (lle bo'n briodol).
Mae PCC yn argymell dull fesul cam tuag at gynnal a gwella bioamrywiaeth a chyflawni ecosystemau cydnerth trwy sicrhau bod unrhyw effeithiau amgylcheddol andwyol yn cael eu hosgoi yn y lle cyntaf, yna'n cael eu lleihau, eu lliniaru ac fel y dewis olaf yn cael eu digolledu; rhaid sicrhau gwelliant lle bynnag y bo modd.
Mae presenoldeb rhywogaethau a warchodir o dan ddeddfwriaeth Ewropeaidd neu'r DU, neu o dan Adran 7 Deddf yr Amgylchedd (Cymru), yn ystyriaeth gynllunio berthnasol. Rhaid i ddatblygiad gydymffurfio ag unrhyw ddarpariaethau gwarchod rhywogaethau statudol sy'n effeithio ar y safle ac o bosibl yr ardal o'i gwmpas.
Mae llawer o'r ardaloedd pwysicaf o werth bioamrywiaeth wedi'u dynodi'n statudol. Rhaid diogelu safleoedd o'r fath rhag difrod a dirywiad, gyda nodweddion pwysig yn cael eu cadw a'u gwella gan reolaeth briodol. Nid yw hyn o reidrwydd yn gwahardd datblygu ond mae'n rhaid i gynigion datblygu sy'n effeithio ar safleoedd dynodedig gael eu hasesu'n ofalus o ran eu heffaith ar ddiddordeb cadwraeth natur y safle dynodedig er mwyn galluogi gwneud penderfyniadau gwybodus a fyddai'n sicrhau budd bioamrywiaeth y safle a warchodir. Rhaid i awdurdodau cynllunio roi sylw i arwyddocâd cymharol dynodiadau rhyngwladol, cenedlaethol a lleol wrth ystyried y pwysau sydd i'w roi ar fioamrywiaeth. Dylid gwrthod datblygiad lle ceir effeithiau andwyol ar y nodweddion y dynodwyd y safle ar eu cyfer. Ceir canllawiau pellach ar safleoedd dynodedig yn TAN 5. Mae PCC hefyd yn mynnu y dylai cyfraniad y safleoedd dynodedig at y rhwydwaith ecolegol ehangach ac ecosystemau cydnerth gael ei ystyried.
Mae PCC hefyd yn cydnabod rôl bwysig dynodiadau anstatudol (Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur (SBCNs), Coetiroedd Hynafol, ac ati) o ran darparu rhwydwaith ecolegol ar gyfer bioamrywiaeth ac ecosystemau cydnerth, ac yn nodi y dylid eu gwarchod yn ddigonol yn y broses gynllunio. Ni ddylai dynodiadau o'r fath atal datblygiadau priodol, lle nad oes unrhyw effeithiau andwyol ar y nodweddion y mae'r safle wedi'i ddynodi ar eu cyfer.
PCC - Seilwaith Gwyrdd
Mae PCC yn cefnogi darparu seilwaith gwyrdd cysylltiedig ac aml-swyddogaeth fel rhan o'r dull creu lleoedd (adran 6.2). Cydnabyddir y cyfraniad sylweddol y mae seilwaith gwyrdd yn ei wneud i gynnal a gwella bioamrywiaeth ac mae datblygu seilwaith gwyrdd yn ffordd bwysig i system gynllunio sicrhau gwelliannau. Dylai'r system gynllunio ddiogelu a gwella asedau a rhwydweithiau seilwaith gwyrdd oherwydd y rolau amlswyddogaethol hyn.
Mae'n amlwg o PCC y dylai cynlluniau datblygu a chynigion datblygu gael eu hasesu yn gyntaf yn erbyn egwyddorion cynllunio allweddol, canlyniadau creu lleoedd cynaliadwy cenedlaethol a'r dewisiadau strategol a gofodol. Nesaf, dylid asesu'r effaith fanwl a'r cyfraniad at leoedd egniol a chymdeithasol, lleoedd cynhyrchiol a mentrus a lleoedd nodedig a naturiol.
Llawlyfr Rheoli Datblygu 2016
Mae'r llawlyfr yn nodi bod presenoldeb rhywogaeth a warchodir yn ystyriaeth berthnasol pan fo ACLl yn ystyried cynnig datblygu a fyddai, o'i gyflawni, yn debygol o achosi aflonyddwch neu niwed i'r rhywogaeth neu ei chynefin. Ychwanega Adran 9.4.14 ei bod yn hanfodol bod presenoldeb neu ddiffyg presenoldeb rhywogaethau a warchodir, ac i ba raddau y gallent gael eu heffeithio gan y datblygiad arfaethedig, yn cael ei sefydlu cyn rhoi caniatâd cynllunio, neu efallai na fydd yr holl ystyriaethau perthnasol wedi cael sylw wrth wneud y penderfyniad.
Strategaeth Seilwaith Gwyrdd Abertawe
Strategaeth a gyhoeddwyd gan Gyngor Abertawe a Chyfoeth Naturiol Cymru gyda gweledigaeth i adfywio ein dinas ar gyfer llesiant a bywyd gwyllt. Y 5 Egwyddor Seilwaith Gwyrdd i'w defnyddio i gyflawni'r weledigaeth hon yw:
- Amlswyddogaethol - gwneud yn siŵr bod yr holl SG yng nghanol y ddinas yn darparu cymaint o fanteision â phosibl. Er enghraifft, gallai leihau llygredd a/neu lifogydd, cynnig lloches a/neu fwyd i anifeiliaid brodorol (adar, pryfed a/neu famaliaid bach), darparu cysgod yn ystod dyddiau poeth yr haf, a chreu mannau dymunol, hyfryd, a/neu ofod tawel i bobl gwrdd, ymlacio a chwarae.
- Wedi'i addasu ar gyfer newid hinsawdd - amsugno dŵr i leihau llifogydd, darparu lle oer yn yr haf a darparu ar gyfer bywyd gwyllt. Mae SG hefyd yn helpu i liniaru newid hinsawdd trwy ddal a chloi carbon.
- Iach - helpu ein hiechyd corfforol a meddyliol trwy amsugno llygredd, darparu aer glân, dŵr glân, bwyd a lle i ymarfer, cymdeithasu a chwarae, a gofod i ddod i gysylltiad â natur.
- Bioamrywiol - cefnogi amrywiaeth eang o rywogaethau brodorol gan ddarparu cysgod a bwyd a chreu coridorau gwyrdd ar draws canol y ddinas gan gysylltu â choridorau bywyd gwyllt strategol presennol.
- Clyfar a Chynaliadwy - darparu atebion, technegau a thechnolegau cynnal a chadw isel, sy'n lleihau llygredd a gwastraff, ac yn gwneud y defnydd gorau o ddeunyddiau wedi'u hailgylchu neu o ffynonellau cynaliadwy.
Bydd llwyddiant yn cael ei fesur trwy nifer o ddangosyddion perfformiad a fydd yn gweithio tuag at dargedau i ddyblu (o 13% i 26%) SG erbyn 2030 a chynyddu gorchudd canopi coed i 20 - 25% erbyn 2044.
Gwefannau defnyddiol
Cyfraith Amgylcheddol Llywodraeth Cymru: https://law.gov.wales/environment
Canllawiau Deddfwriaeth Partneriaeth Bioamrywiaeth Cymru: https://www.biodiversitywales.org.uk/Deddfwriaeth-Guidance
Chwiliad Safleoedd a Warchodir CNC: https://naturalresources.wales/guidance-and-advice/environmental-topics/wildlife-and-biodiversity/protected-areas-of-land-and-seas/find-protected-areas-of-land-and-sea/
Map Hud DEFRA: https://magic.defra.gov.uk/magicmap.aspx
Aderyn - Canolfannau Cofnodion Amgylcheddol Lleol Cymru: https://aderyn.lercwales.org.uk/
[1] Nid yw safleoedd Ramsar yn rhan o'r rhwydwaith safleoedd cenedlaethol ond maent yn dal i gael eu gwarchod yn yr un modd ag ACA ac AGA.