Sut y gall y cyhoedd gymryd rhan mewn gwaith craffu?
Os ydych yn aelod o'r cyhoedd ac yr hoffech gymryd rhan mewn gwaith craffu, mae sawl ffordd y gallwch wneud hyn.
Dod i gyfarfod
Mae holl gyfarfodydd y byrddau craffu'n agored i'r cyhoedd.
Cynhelir Pwyllgor y Rhaglen Graffu bob mis. I weld dyddiadau'r cyfarfod hwn a chyfarfodydd craffu eraill, ewch i galendr cyfarfodydd y cyngor (Yn agor ffenestr newydd).
Mae'r holl wybodaeth am gyfarfodydd craffu, gan gynnwys agendâu, cofnodion a chanlyniadau ar gael Agendâu a Chofnodion (modern.gov) (Yn agor ffenestr newydd). Mae manylion y lleoliad a'r papurau agenda ar gael yn yr wythnos cyn y cyfarfod.
Os hoffech fynd i gyfarfod o'r Panel Craffu, ffoniwch y tîm craffu ar 01792 637732.
Ymgynghoriad
Yn ystod cam casglu tystiolaeth ymchwiliad, ymgynghorir ag amrywiaeth o randdeiliaid er mwyn cael tystiolaeth. Mae manylion ein holl ymgynghoriadau i'w gweld ar y tudalennau Lleisiwch eich barn. Rydym hefyd yn hysbysebu ymgynghoriadau drwy'r Blog Craffu, datganiadau i'r wasg neu yn y papur newydd lleol.
Neu i gael mwy o wybodaeth, cysylltwch â'r tîm craffu.
Gwneud cais am graffu
Gall unrhyw aelod o'r cyhoedd sy'n byw neu'n gweithio yn ninas a sir Abertawe wneud cais am graffu ar faterion sy'n peri pryder.
Awgrymwch bwnc i graffu arno Oes gennych bwnc yr hoffech i ni graffu arno?