Cymorth Costau Byw - bwyd ac eitemau hanfodol
Darganfyddwch ble y gallwch gael mynediad at fwyd am ddim ac eitemau hanfodol eraill fel cynhyrchion mislif.
Prydau am ddim i blant - Mae llawer o archfarchnadoedd a chadwyni bwyta yn cynnig prydau am ddim neu brydau rhatach yn ystod gwyliau'r ysgol.
Cychwyn Iach - os ydych yn fwy na 10 wythnos yn feichiog neu os oes gennych blentyn dan 4 oed, efallai y bydd gennych hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth ar wefan y GIG: Cychwyn Iach - cymorth i brynu bwyd a llaeth (GIG)
Banciau bwyd a chefnogaeth
Lleoliadau, amserau agor a gwybodaeth am sut i gael mynediad at fanciau bwyd yn Abertawe. Mae hefyd wybodaeth i bobl sydd am roi nwyddau i fanc bwyd.
Prydau ysgol am ddim
Os ydych yn hawlio rhai budd-daliadau gallech arbed arian drwy hawlio prydau ysgol am ddim i'ch plentyn.
Clybiau brecwast
Mae gan fwyafrif yr ysgolion cynradd yn Abertawe glybiau brecwast AM DDIM sydd fel arfer yn rhedeg am tua hanner awr cyn dechrau'r diwrnod ysgol.
Cynhyrchion mislif am ddim
Mae cynhyrchion mislif am ddim ar gael mewn nifer o leoliadau o gwmpas Abertawe.
Cewynnau golchadwy
Bydd cewynnau golchadwy yn lleihau nifer y sachau du rydych yn eu defnyddio ac yn arbed arian. A byddwn ni'n rhoi hyd at £100 i chi at gost prynu cewynnau golchadwy.