Cymorth Costau Byw - teithio a chludiant
Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer teithio ar fysus a threnau. Rydym hefyd yn cynnig teithiau am ddim ar fysus i bawb yn ystod gwyliau'r ysgol.
Mae gostyngiadau ar gael ar gyfer y canlynol:
- pobl dros 60 oed
- pobl ifanc rhwng 16 a 21 oed
- pobl anabl
- pobl anabl y mae angen cydymaith arnynt er mwyn teithio
- ffoaduriaid
Rhagor o wybodaeth a manylion ynghylch sut i wneud cais: Cardiau bws consesiynol
Teithio ar fysus am ddim i bawb
Gall pawb deithio ar fysus am ddim ar amserau penodol yn ystod gwyliau'r ysgol: Gwasanaeth bysus am ddim
Bysus First Cymru
Mae Tapio i Mewn ac Allan yn aml yn rhatach ac mae'n werth edrych ar ap bws First Cymru i gael tocynnau rhatach: https://www.firstbus.co.uk/south-west-wales/tickets/ticket-prices
Cardiau rheilffordd cenedlaethol
Os oes angen i chi deithio ar y trên mae'n werth gwirio a fydd unrhyw un o'r cardiau rheilffordd cenedlaethol yn addas ar eich cyfer ac os bydd y gostyngiad ar gost eich tocyn yn arbed mwy na'r £30 y flwyddyn i chi (neu £70 am dair blynedd), sef pris y cerdyn. Mae'r cardiau hyn ar gael i bobl 16-30 oed, pobl dros 60 oed, pobl anabl neu gyn-filwyr neu ar gyfer adegau pan fydd teuluoedd neu ddau deithiwr yn teithio gyda'i gilydd. Fel arfer gallwch arbed traean oddi ar bris eich tocyn: www.nationalrail.co.uk/times_fares/National-Railcards.aspx
Cerdyn Gostyngiadau Teithio - Canolfan Byd Gwaith
Os ydych chi'n ddi-waith neu'n ymwneud yn weithredol â'ch hyfforddwr gwaith ac yn derbyn Lwfans Ceisio Gwaith neu Gredyd Cynhwysol, o leiaf 3 mis ar ôl i chi ddechrau hawlio gallwch ofyn i'ch hyfforddwr gwaith am Gerdyn Gostyngiad Teithio'r Ganolfan Byd Gwaith sy'n arbed 50% oddi ar bris tocynnau trên dethol: https://www.nationalrail.co.uk/railcards/concessionary-travel/
Os oes angen help arnoch i fforddio'r gost o deithio i gyfweliad, hyfforddiant neu wrth ddechrau swydd, gallwch ofyn i'ch hyfforddwr gwaith am gymorth disgresiynol gyda'r costau hyn o'r gronfa cymorth hyblyg.
Teithio i'r ysbyty
Teithio i'r ysbyty a chymorth arall gyda chostau iechyd: Cymorth gyda chostau iechyd (Llywodraeth Cymru) (Yn agor ffenestr newydd)