Digwyddiadau amgylcheddol
Cynhelir digwyddiadau am ddim ac am gost isel rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr o gwmpas Abertawe a phenrhyn Gŵyr.

P'un a ydych chi'n mwynhau natur a'r awyr agored, yn dymuno archwilio'r ardal leol yn fwy neu ddysgu sgil newydd, mae amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar gael i bob oedran eu mwynhau - gan gynnwys troeon, sgyrsiau, gweithdai a gweithgareddau.
Bydd rhagor o ddigwyddiadau yn cael eu hychwanegu drwy gydol y flwyddyn. Os oes gennych chi ddigwyddiadau perthnasol yr hoffech chi eu cynnwys, e-bostiwch y Tîm Cadwraeth Natur: nature.conservation@abertawe.gov.uk.