A oes angen ychydig mwy o help arnoch?
P'un ai ydych yn chwilio am wybodaeth neu help i chi'ch hun, aelod o'r teulu neu ffrind, mae llawer o gyngor ar gael i chi.
Gofal cymdeithasol a lles i oedolion
Gweithio gyda phobl i fyw'n dda ac yn ddiogel yn ein cymuned - cyflawnwyd hyn drwy ein blaenoriaethau gwasanaeth, sef atal, hyrwyddo annibyniaeth a blaenoriaethu adnoddau.
Gofalwyr ddi-dal
Mae gofalwr di-dal yn rhywun o unrhyw oedran sy'n darparu cefnogaeth ddi-dal i deulu neu ffrindiau na fyddai'n gallu ymdopi heb yr help hwn. Gallai hyn gynnwys gofalu am berthynas, partner neu ffrind sy'n dost, yn eiddil, yn anabl neu â phroblemau iechyd meddwl neu sy'n camddefnyddio sylweddau. Ni ddylid drysu'r term gofalwr di-dal â gweithiwr gofal, neu gynorthwy-ydd gofal, sy'n cael tâl am ofalu am rywun.
Gofal cartref
Os ydych chi'n cael hi'n anodd ymdopi â'ch anghenion gofal personol, efallai y gall gwasanaethau gofal cartref eich helpu i ymdopi â bywyd bob dydd.
Larymau cymunedol (lifelines)
Mae larymau cymunedol (lifelines) yn darparu cyswllt ffôn mewn argyfwng i bobl hyn ac anabl.
Comisiynydd Pobl Hŷn
Llais a hyrwyddwr annibynnol ar gyfer pobl hŷn ar draws Cymru.
Cyngor ar Bopeth Abertawe Castell-nedd Port Talbot
Darparu cyngor di-dâl, cyfrinachol a diduedd ar ystod eang o faterion, er enghraifft: dyled, budd-daliadau, tai a chyflogaeth.
Byw gyda dementia
Gall y Gwasanaethau Cymdeithasol a grŵpiau cefnogi eraill ddarparu gwybodaeth a chymorth ymarferol sy'n gallu helpu rhywun â dementia i wneud hynny gyda dewisiadau ac annibyniaeth.
Y Llinell Arian
Llinell gymorth gyfrinachol am ddim sy'n darparu gwybodaeth, cyfeillgarwch a chyngor i bobl hŷn, sy'n agored 24 awr y dydd, bob diwrnod o'r flwyddyn.
Llinell Cyngor a Gwrando Cymunedol (C.A.L.L)
Mae'n cynnig cefnogaeth emosiynol i bobl sy'n dioddef gofid meddyliol yn ogystal â'u ffrindiau, eu gofalwyr a'u perthnasau
Ffynonellau cyngor a chefnogaeth pellach
Rydym wedi darparu rhestr o sefydliadau lleol a chenedlaethol a allai gynnig cyngor a chefnogaeth bellach i chi dros yr wythnosau nesaf.
Dewis iaith
Addaswyd diwethaf ar 08 Medi 2021