Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfle i ddweud eich dweud

Cyfle i ddweud eich dweud yn arolygon, ymgynghoriadau a fforymau'r cyngor.

Teithio Llesol: cysylltiadau rhwng Newton a'r Mwmbwls - cyfle i ddweud eich dweud

Rydym ni, mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru, yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar gynigion i helpu i wella cyfleusterau (cerdded a beicio) teithio llesol rhwng Newton a'r Mwmbwls.

Ymchwiliad Craffu i ymddygiad gwrthgymdeithasol

Y prif ffocws ar gyfer yr ymchwiliad yw gweld sut mae'r cyngor a'i bartneriaid yn mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Abertawe.

Hysbyseb o waredu rhan o fan agored - Tir sy'n ffinio â Bwlch Road, Casllwchwr

Hysbysir trwy hyn fod Dinas a Sir Abertawe, fel perchennog y parsel o dir a ddisgrifir isod sy'n cael ei ddal a'i gynnal fel tir cyhoeddus agored, yn cynnig gwaredu'r tir dan sylw i berchennog/berchnogion yr eiddo cyffiniol gyda'r bwriad o gynnwys y parsel o dir yn yr eiddo a'i ddefnyddio fel tir gardd.

Fforwm Mynediad Lleol Abertawe a phenrhyn Gŵyr

Diben y fforwm mynediad lleol yw rhoi llwyfan i gynghori a thrafod gwella a rheoli mynediad cyhoeddus i gefn gwlad yn yr ardal.

Dweud eich dweud: Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol

I sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn cael eu diweddaru'n rheolaidd, mae'n ofynnol i gynghorau adolygu eu cynlluniau o leiaf unwaith bob pedair blynedd, neu'n gynharach os yw Adroddiad Monitro Blynyddol y CDLl yn nodi hynny.

Dweud eich dweud - Cytundeb cyflawni ddrafft

Y Cytundeb Cyflawni (CC) yw'r cam allweddol cyntaf ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol Newydd Abertawe (CDLlN).