Toglo gwelededd dewislen symudol

Enwebwch adelaid neu unigolyn ar gyfer plac glas

Ydych chi'n gwybod am berson neu adeilad/safle o ddiddordeb hanesyddol ehangach sy'n haeddu cael ei anrhydeddu â phlac glas?

Mae'r cynllun placiau glas yn coffáu pobl unigryw a phwysig o fyd y celfyddydau, gwyddoniaeth, chwaraeon a dyngarwch sydd wedi gwneud cyfraniad sylweddol i'w maes ac i gymdeithas. Mae'r cynllun placiau glas yn galluogi'r ddinas i anrhydeddu'r bobl hyn a'u cyflawniadau a'u rhannu â'r byd.

Yn ogystal ag unigolion, gall y cynllun goffáu adeiladau neu safleoedd a chanddynt arwyddocâd hanesyddol sy'n werth tynnu sylw'r cyhoedd atynt - heblaw am gysylltiad personol arbennig.

Wrth baratoi eich cais, cyfeiriwch at y nodiadau arweiniol a ddarperir - bydd y rhain yn eich helpu chi i baratoi eich cais a darparwch gymaint o wybodaeth â phosib i banel ymgynghorol y plac glas er mwyn cynorthwyo â'ch cais. Mae'r nodiadau hyn hefyd yn darparu mwy o wybodaeth am gefndir y cynllun, a'r broses plac glas.

Arweiniad Enwebu ar gyfer y cynllun placiau glas

Meini prawf dethol:

Panel wedi'i gadeirio gan Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant ac sy'n cynnwys Swyddogion Cyngor Abertawe sy'n dewis. Dewisir enwebiadau yn seiliedig ar y  meini prawf canlynol:

  • Rhaid bod o leiaf 20 mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth yr enwebai
  • Rhaid bod yr enwebai o arwyddocâd cenedlaethol neu ryngwladol
  • Bydd yr enwebai wedi cyfrannu'n sylweddol at fywyd cyhoeddus, yn berson enwog yn genedlaethol a/neu'n cael ei gofio mewn hanes.
  • Mae angen tystiolaeth i ddangos y cysylltiad ag Abertawe
  • Er mwyn coffáu adeiladau neu safleoedd, mae angen tystiolaeth sy'n dangos:
    • y bu digwyddiad hanesyddol o bwys arbennig yno, neu
    • bod arwyddocâd hanesyddol arbennig i'r adeilad neu'r safle nad yw'n amlwg o'i olwg, ei ddefnydd neu unrhyw goffâd presennol
  • Mae'n rhaid i'r cynnig ddangos bod ganddo gefnogaeth gyhoeddus ar wahân i'r enwebai uniongyrchol.
  • Rhaid i leoliad y placiau fod yn ddilys, yn berthnasol ac yn hygyrch.
  • Rhaid i safleoedd ar gyfer arddangos placiau fod mewn cyflwr da.
  • Sut mae'r cynnig yn cyfrannu at yr uchelgais am gynllun amrywiol a diddorol sy'n ystyried cynrychiolaeth o ran: rhyw, categori anrhydedd ac ehangder daearyddol

Ymchwilio i'ch ymgeisydd:

Wrth enwebu, darparwch gymaint o wybodaeth â phosib i gefnogi dilysrwydd yr adeilad neu'r safle fel lle sy'n gysylltiedig â'ch enwebai. Yr hyn rydyn ni'n ei olygu drwy 'ddilys' yw naill ai fod person wedi byw yno neu fod gan y person hwnnw gysylltiad cryf  'r lle drwy ei alwedigaeth neu ei swydd/waith.

Gellir dod o hyd i wybodaeth am gyfeiriad i ddechrau mewn adroddiadau am fywyd y person. Bydd rhagor o fanylion ar gael o ffynonellau fel cofrestrau etholiadol a ffurflenni cyfrifiad. Mae llawer o'r rhain ar gael ar-lein ar safleoedd fel www.ancestry.com (Yn agor ffenestr newydd) a www.findmypast.co.uk (Yn agor ffenestr newydd) y gellir eu cyrchu am ddim yng Nghymru mewn llyfrgelloedd cyhoeddus ac archifau lleol.

Darparwch gymaint o wybodaeth ag y gallwch am y cyfeiriad, gan gynnwys dyddiadau preswylio neu gysylltiadau ac unrhyw fanylion hynod am gysylltiadau'r person ag adeilad arbennig. Er ein bod yn ymchwilio'n drylwyr i achosion ein hunain, mae'n ddefnyddiol cael cymaint o wybodaeth â phosib o'r cychwyn cyntaf.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae panel ymgynghorol y placiau glas yn cwrdd unwaith y flwyddyn i asesu ceisiadau. Unwaith y cymeradwyir enwebiad, rhaid sicrhau caniatâd perchnogion yr adeilad cyn i gytundeb cyfreithiol gael ei lunio a'i lofnodi gan y perchennog a Chyngor Abertawe. Efallai bydd angen caniatâd adeilad rhestredig hefyd. 

Pan fydd pob caniatâd yn ei le, bydd y partïon dan sylw'n cytuno ar eiriad y plac. Mae'n cymryd rhwng 4 a 6 wythnos i gynhyrchu'r plac. Bydd Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Abertawe'n trefnu seremoni dadorchuddio ffurfiol.

Close Dewis iaith