Toglo gwelededd dewislen symudol

Ffeithiau Allweddol

Abertawe mewn ffigurau.

  • Abertawe yw'r ail ddinas fwyaf yng Nghymru a'r ganolfan ranbarthol ar gyfer de-orllewin Cymru.
  • Arwynebedd tir: 379.7 cilomedr sgwâr - tua 69.5% yn wledig a 30.5% yn ddinesig. 1
  • Poblogaeth: 246,700 (Mehefin 2023) - yr ail awdurdod unedol mwyaf yng Nghymru - gyda dwysedd poblogaeth o 653 person y km sgwâr. (Cymru: 153). 2
  • Newid poblogaeth: Rhwng 2013 a 2023, cynyddodd poblogaeth amcangyfrifedig Abertawe o 7,500 neu 3.1%. 3
  • Genedigaethau a Marwolaethau: Ganed 2,100 o fabanod yn Abertawe yn 2023, a chofrestrwyd 2,739 o farwolaethau yn y flwyddyn honno. 4
  • Disgwyliad oesadeg genedigaeth yn Abertawe bellach yw 76.9 o flynyddoedd i wrywod (Cymru 77.9) a 81.5 i fenywod (Cymru 81.8). 5
  • Tai: Ym mis Mawrth 2023, roedd Abertawe'n cynnwys oddeutu 115,000 o anheddau, yr oedd gan 77,400 ohonynt berchennog preswyl (tua 67% o'r holl stoc anheddau). 6
  • Aelwydydd: Mae 105,00 o aelwydydd ag o leiaf un preswylydd arferol yn Abertawe (Cyfrifiad 2021), sy'n cynyddu 1,500 (+1.4%) ers y Cyfrifiad blaenorol yn 2011. 7
  • Mae Cyngor Abertawe yn cynnwys 32 o wardiau etholiadol, a gynrychiolir gan 75 o gynghorwyr. 8
  • Ysgolion: Mae 93 o ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod lleol yn Abertawe (Ionawr 2024) gan gynnwys 77 o ysgolion cynradd ac 14 o ysgolion uwchradd.  Mae 12 o ysgolion Cymraeg i'w cael. 9
  • Disgyblion: Mae ysgolion Abertawe'n cynnwys 34,825 o ddisgyblion (pob oed), gyda 29,535 rhwng 5 a 15 oed (Ionawr 2024). 9
  • Addysg Uwch a Phellach: Mae Abertawe'n gartref i ganolfannau campws ar gyfer Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a Choleg Gŵyr Abertawe sydd, at ei gilydd yn cefnogi bron i 30,000 o fyfyrwyr amser llawn (2022-23). 10
  • Cymwysterau: Mae gan 68.2% o breswylwyr Abertawe sydd rhwng 16 a 64 oed gymwysterau hyd at lefelau 3 a 4 FCR (2023) - 64.6% yng Nghymru. 11
  • Y Gymraeg: Yn 2011, roedd 11.2% o bobl yn Abertawe a oedd yn dair oed neu'n hŷn yn gallu siarad Cymraeg. 12
  • Ethnigrwydd: Roedd gan Abertawe boblogaeth lleiafrif ethnig (nad ydynt yn wyn) o oddeutu 20,400 yn 2021 - 8.6% o'r holl boblogaeth.12
  • Gwlad enedigol: Yn 2021, ganed 75% o boblogaeth Abertawe yng Nghymru, gydag 22,500 (9.4%) o breswylwyr wedi'u geni y tu allan i'r DU. 12
  • Allbwn economaidd: Gwerth Ychwanegol Crynswth y pen yn Abertawe yw £23,929 (2022); 0.5% yn uwch na lefel Cymru ond 27.5% yn is na chyfartaledd y DU. 13
  • Gweithgarwch economaidd: Mae 74.0% o breswylwyr oedran gweithio (16-64) Abertawe yn economaidd weithgar, gyda 115,800 yn gweithio (71.0% o'r rhai oedran gweithio) (blwyddyn yn diweddu Mehefin 2024). 14
  • Cyflogaeth: Mae 108,000 o weithwyr yn gweithio yn Abertawe, yn y sectorau gwasanaethau'n bennaf (88.9%), gyda 30.4% (32,800) wedi'u cyflogi yn y sector cyhoeddus (2023).  Amcangyfrifir bod 23,200 o bobl yn cymudo i Abertawe bob dydd (2023).15
  • Busnesau: Roedd 7,290 o fusnesau gweithredol yn Abertawe yn 2023, ac yn ystod y flwyddyn, cofnodwyd 830 o fusnesau newydd ac 780 o fusnesau a oedd wedi dod i ben. 16
  • Enillion: Mae enillion (canolrif) cyfartalog i weithwyr amser llawn yn Abertawe yn £670.60 yr wythnos a £34,682 y flwyddyn (Ebrill 2024). 17
  • Diweithdra: Mae 4,100 o bobl yn Abertawe (3.4% o'r boblogaeth 16+ oed sy'n anweithgar yn economaidd) yn ddi-waith (daeth cyfnod yr arolwg i ben ym mis Mehefin 2024).  Nifer yr hawlwyr at ddibenion gweinyddol (Medi 2024) oedd 5,650 (3.8% o breswylwyr oedran gweithio). 18
  • Amddifadedd: Mae Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019 yn nodi bod 11.5% o ardaloedd lleol Abertawe ymysg y 10% mwyaf difreintiedig yng Nghymru. 19
  • Trafnidiaeth: Mae Abertawe'n cynnwys 1,148.7 cilometr (km) o ffyrdd (2023-2024), y mae 15.3km ohonynt yn draffordd.  Mae 173,300 o gerbydau trwyddedig yn Abertawe (Mehefin 2024), gan gynnwys 132,900 o geir. 20
  • Amaethyddiaeth: Mae 20,900 hectar o dir yn cael ei ffermio yn y sir, gydag oddeutu 380 o ffermydd sy'n economaidd weithredol  (Mehefin 2020). 21
  • Cadwraeth Drefol: Ar hyn o bryd yn Abertawe mae 31 o Ardaloedd Cadwraeth, 122 o Henebion a thros 500 o Adeiladau Rhestredig. 22
  • Gwastraff ac Ailgylchu: Casglwyd neu gynhyrchwyd 104,939 tunnell o wastraff yn Abertawe yn 2023-24, y cafodd 73,925 o dunelli (70.4%) eu hailddefnyddio, ei hailgylchu neu eu compostio (cyfartaledd Cymru - 66.6%). 23
  • Prisiau Tai: Ym mis Awst 2024, y pris gwerthu tŷ cyfartalog yn Abertawe oedd £204,463 - y cyfartaledd ar gyfer Cymru yw £222,925. 24
  • Twristiaeth: Yn ôl amcangyfrifon, roedd 4.7 miliwn o bobl wedi ymweld â Bae Abertawe yn 2023, gyda chyfanswm effaith economaidd leol o £609miliwn. 25

 

Ffynonellau a dolenni:

  1.  Dosbarthiad Trefol Gwledig (2011) o Ardaloedd Cynnyrch yng Nghymru a Lloegr, Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/daearyddiaeth
  2.  Amcangyfrif canol blwyddyn 2023, SYG.  Mae mwy o ystadegau, gan gynnwys poblogaeth yn ôl oed, ar gael yn www.abertawe.gov.uk/poblogaeth
  3.  Amcangyfrif canol blwyddyn 2013-23, SYG.  Mae mwy o wybodaeth ar gael yn www.abertawe.gov.uk/poblogaeth
  4.  Tablau cryno cofrestriadau genedigaethau a marwolaethau 2023, SYG.
  5.  Disgwyliad oes ar gyfer ardaloedd lleol, 2020 i 2022, SYG.
  6.  Amcangyfrifon stoc anheddau ar gyfer Cymru, ar 31 Mawrth 2023, Ystadegau LlC.
  7.  Cyfrifiad 2021, SYG.
  8.  Mae mwy o wybodaeth ac ystadegau am wardiau Abertawe ar gael yn www.abertawe.gov.uk/proffiliauwardiau
  9.  Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (PLASC), Ionawr 2024.  Ystadegau LlC (cyhoeddwyd Gorffennaf 2024).
  10.  Ystadegau Addysg Uwch ac Addysg Bellach 2022-23, Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (AYAU) a LlC (cyhoeddwyd mis Ionawr ac Awst 2024).
  11.  Amcangyfrifon Arolwg Poblogaeth Blynyddol (APS) 2023, SYG.  Ceir mwy o wybodaeth ym Mhroffil  Economaidd Abertawe sydd ar gael yn www.abertawe.gov.uk/proffileconomaidd
  12.  Cyfrifiad 2021, SYG.  Mae ystadegau cyfrifiadau ar gael yn www.abertawe.gov.uk/cyfrifiad
  13.  Ystadegau GYC (Gwerth Ychwanegol Crynswth) Rhanbarthol 2022, SYG. 
  14.  Amcangyfrifon APB ar gyfer y cyfnod sy'n dod i ben ym mis Mehefin 2024, SYG. 
  15.  a) Amcangyfrifon gweithle'r Gofrestr Busnesau ac Arolwg Cyflogaeth (BRES) 2023, SYG.  b) Tablau Cymudo a gyhoeddwyd gan LlC gan ddefnyddio amcangyfrifon APB (2023).
  16.  Ystadegau Demograffeg Busnesau 2023, SYG.
  17.  Arolwg Blynyddol o Oriau ac Enillion (ASHE), Ebrill 2024, SYG.
  18.  Ystadegau'r Farchnad Lafur, SYG.  Sylwer: mae mwy o wybodaeth am eitemau 13 i 18 ar gael yn www.abertawe.gov.uk/proffileconomaidd
  19.  Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru (MALlC) 2019, LlC.  Mae mwy o wybodaeth a data lleol ar gael yn www.abertawe.gov.uk/mallc2019
  20.  a) Hydoedd a Chyflwr Ffyrdd 2023-24, LlC.  b) Ystadegau Trwyddedu Cerbydau 2024 (Tabl VEH0105), yr Adran Drafnidiaeth.
  21.  Arolwg Amaethyddol Blynyddol Cymru 2020, LlC.
  22.  Mae mwy o wybodaeth am adeiladau rhestredig unigol, henebion ac ardaloedd cadwraeth yn Abertawe ar gael drwy www.abertawe.gov.uk/CreuLleoeddaThreftadaeth.
  23.  WasteDataFlow ac Ystadegau Rheoli Gwastraff Dinesig Awdurdodau Lleol 2023-24, LlC.
  24.  Mynegai Prisiau Tai'r Gofrestrfa Tir, Awst 2024, SYG.  Ceir mwy o wybodaeth am brisiau a gwerthiannau tai yn www.abertawe.gov.uk/proffileconomaidd
  25.  Crynodeb o ymchwil STEAM 2023 (Scarborough Tourism Economic Activity Model).  Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Ymchwil i dwristiaeth ac ystadegau amdano

 

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano, cysylltwch â ni a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ddarparu cyngor neu eich cyfeirio at ffynonellau gwybodaeth posib.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Tachwedd 2024