Gofal cymdeithasol a lles i blant, pobl ifanc a theuluoedd
Cyngor a chefnogaeth i blant, pobl ifanc, teuluoedd, eu rhwydweithiau ac eraill sy'n eu cefnogi.
Mae ein gwaith yn ymwneud â gwneud yr hyn sy'n bwysig i wneud pethau'n well i blant, pobl ifanc a theuluoedd.
Mae pob plentyn, person ifanc a'u teuluoedd yn unigryw ac mae ganddynt wahanol gefndiroedd, cryfderau, anghenion, pryderon a dyheadau. Mae hyn yn golygu y bydd y gefnogaeth y mae ei hangen ar blentyn neu berson ifanc wrth dyfu i fyny neu pan nad yw pethau'n mynd cystal hefyd yn unigryw iddo.
Rydym wedi datblygu ymagwedd sy'n bwriadu rhoi'r gefnogaeth gywir i blant a theuluoedd ar yr adeg gywir, a gweithio gyda phlant a phobl ifanc dan 25 oed, i'w helpu i nodi'u hanghenion a'r hyn sy'n bwysig iddynt.
Ein drws blaen i'r help hwn yw'r 'Un Pwynt Cyswllt (PCU)'