Wifi, cyfrifiaduron ac argraffu yn y llyfrgell
Mae pob un o'n llyfrgelloedd yn cynnig mynediad at wifi, cyfrifiaduron a gwasanaethau argraffu i aelodau llyfrgell.
Cadwch le ar gyfrifiadur yn eich llyfrgell leol (Yn agor ffenestr newydd)
Ddim yn aelod eto? Gwnewch gais i ymuno nawr.
Wifi
Mae wifi am ddim yn yr holl lyfrgelloedd ac mae ar gael yn ystod oriau agor i aelodau Llyfrgelloedd Abertawe.
Bydd angen mewngofnodi ar eich dyfais i ddechrau (manylion ar gael yn y llyfrgell) ac yna'r cyfan sydd ei angen yw rhif eich cerdyn llyfrgell a'ch PIN.
Rheolir mynediad at wifi y llyfrgell yn ddiogel drwy'r rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus.
Argraffu, sganio a chopïo
Mae pob llyfrgell yn cynnig cyfleusterau argraffu a chopïo.
Mae'r mathau o wasanaethau sydd ar gael ym mhob llyfrgell yn amrywio ac mae manylion ar gael ar dudalennau llyfrgelloedd unigol: Llyfrgelloedd yn Abertawe
Manylion taliadau argraffu: Taliadau llyfrgell a thalu ar-lein
Argraffu neu sganio o un o gyfrifiaduron y llyfrgell
Bydd angen eich aelodaeth o'r llyfrgell i fewngofnodi ar un o'r cyfrifiaduron personol mynediad cyhoeddus er mwyn argraffu neu sganio. I osgoi cael eich siomi ar adegau prysur, gallwch gadw lle wrth gyfrifiadur cyn i chi gyrraedd y llyfrgell: Cadwch le ar gyfrifiadur yn eich llyfrgell leol (Yn agor ffenestr newydd)
Argraffu diwifr o'ch dyfais eich hun
Mae'r ap Princh yn cynnig argraffu diwifr o'ch dyfais eich hun, heb yr angen am aelodaeth llyfrgell. Gallwch lawrlwytho'r ap ar eich dyfais, dewis beth i'w argraffu a thalu'n ddiogel drwy'r ap:
- Princh - how to print with an Android phone (YouTube) (Yn agor ffenestr newydd)
- Princh - how to print with an iPhone (YouTube) (Yn agor ffenestr newydd)
- Princh - how to print from a laptop (YouTube) (Yn agor ffenestr newydd)
Polisi defnydd derbyniol
Y rhyngrwyd a'ch cyfrifoldebau chi
Nid yw Gwasanaeth Llyfrgelloedd a Gwybodaeth Abertawe yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am ansawdd, cywirdeb, dilysrwydd nac argaeledd yr wybodaeth y deuir o hyd iddi trwy'r rhyngrwyd. Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth yr ydych yn dod o hyd iddi. Nid yw'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn atebol am unrhyw golled, ddifrod neu anaf a ddioddefir, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, o ganlyniad i ddefnyddio'r cyfarpar neu drwy ddefnyddio ei gyfleusterau wifi (lle bo'n berthnasol). Atgoffir defnyddwyr mai nhw sy'n gyfrifol wrth ddefnyddio'r cyfleusterau am amddiffyn yn erbyn bygythiadau firws ac y dylid diogelu cyfrifiaduron cartref, gliniaduron a dyfeisiau symudol yn ddigonol â'r feddalwedd diogelwch diweddaraf.
Amodau defnydd
Mae'r Gwasanaeth Llyfrgelloedd yn caniatáu i holl aelodau ei lyfrgelloedd ddefnyddio ei wasanaethau cyfrifiadurol am ddim. Gellir gwahardd aelodau ein llyfrgelloedd sydd heb dalu dirwyon na ffioedd rhag defnyddio'r cyfrifiaduron nes iddynt dalu'r rhain.
Defnyddiau gwaharddedig
- cael hyd i, arddangos neu ddosbarthu unrhyw ddeunydd y gellid ystyried ei fod yn anweddus, yn bornograffig, yn sarhaus, yn hiliol neu'n ddilornus.
- trafod busnes ar-lein (nid yw hyn yn cynnwys trafodion ariannol personol)
- dosbarthu hysbysebion heb wahoddiad.
- ceisio cael mynediad i gyfrifiaduron neu rwydweithiau eraill heb ganiatâd.
- addasu gosodiad y cyfrifiaduron neu'r meddalwedd a ddefnyddir arnynt.
- defnyddio ystafelloedd sgwrsio.
- unrhyw weithgaredd anghyfreithlon.