Toglo gwelededd dewislen symudol

Ein gweledigaeth ar gyfer canol dinas Abertawe

Mae'r cyngor - drwy weithio'n agos gydag AGB Abertawe (Ardal Gwella Busnes) a'r sector preifat - am i ganol y ddinas fod mor llwyddiannus â phosib.

Rydym eisiau rhagor o bobl i fyw, gweithio a mwynhau eu hunain yno. Bydd hyn wedyn yn helpu i gynyddu'r nifer sy'n ymweld â'n busnesau yng nghanol y ddinas ynghyd â'r gwariant sydd ei angen arnynt i ffynnu, gan helpu i ddiogelu swyddi i bobl leol a denu rhagor o swyddi a buddsoddiad yn y blynyddoedd i ddod. Mae angen hyn i helpu i fynd i'r afael â heriau fel siopa ar-lein, sydd hefyd yn wynebu'r rhan fwyaf o drefi a dinasoedd eraill ar draws y DU.

Sut ydyn ni'n cyflawni hyn?

Mae rhaglen adfywio gwerth £1 biliwn bellach ar waith, gyda chynlluniau gorffenedig yn cynnwys Arena Abertawe a'r parc arfordirol yng nghanol ardal Bae Copr newydd y ddinas gwerth £135m.

Maent yn dilyn gwelliannau amgylcheddol mawr i hybu golwg a theimlad Wind Street a Ffordd y Brenin - gan gynnwys mwy o wyrddni - er budd i'n busnesau, ein pobl leol ac ymwelwyr â'r ddinas.

Mae'r gwaith o adeiladu datblygiad swyddfa newydd ar gyfer 600 o weithwyr ar hen safle clwb nos Oceana hefyd yn datblygu'n gyflym, ynghyd â gwaith adnewyddu adeilad Theatr y Palace.

Mae Gerddi Sgwâr y Castell ar eu newydd wedd hefyd yn cael eu cynllunio, ac mae'r arbenigwyr adfywio enwog, Urban Splash, yn gyfrifol am drawsnewid nifer o safleoedd allweddol. Mae'r rhain yn cynnwys safle Gogledd Abertawe Ganolog yn ardal hen Ganolfan Siopa Dewi Sant a safle'r Ganolfan Ddinesig ar y glannau.

Ydy'r cynllun yn gweithio hyd yn hyn?

Ydy. Mae ffigurau'n dangos bod Arena Abertawe wedi denu dros chwarter miliwn o ymweliadau ers iddi agor gyntaf ym mis Mawrth 2022, gan helpu i greu mwy o fasnach yng nghanol y ddinas.

Mae'r sector preifat hefyd wedi ymateb yn gynnes i'r holl adfywio parhaus yng nghanol y ddinas. Mae hyn yn arwain at fuddsoddiad digynsail. 

Mae enghreifftiau yn cynnwys Hacer Developments, sy'n arwain ar adeiladu datblygiad arloesol 'adeilad bioffilig' yn Picton Yard, a Kartay Holdings, sydd wedi buddsoddi mewn nifer o unedau yn ddiweddar ar Stryd Rhydychen ac mewn mannau eraill yng nghanol y ddinas. Mae buddsoddiad sector preifat hefyd yn trawsnewid adeilad hanesyddol, Neuadd Albert, ar Craddock Street.

Mae'r cyngor yn parhau i annog rhagor o dai fforddiadwy yng nghanol y ddinas hefyd, gydag enghreifftiau yn cynnwys Cylch Ffordd y Brenin a'r fflatiau newydd yn ardal Bae Copr.

Mae hyn oll yn golygu y rhagwelir y bydd economi Abertawe'n tyfu'n gyflymach nag unrhyw ddinas arall yng Nghymru, ac rydym yn cael ein hystyried yn un o'r deg lle gorau yn y DU i fuddsoddi.

Pam mae canol eich dinas yn bwysig

  • Mae'n sbardun allweddol i'r economïau lleol a rhanbarthol. 
  • Mae'r cannoedd o fusnesau yng nghanol y ddinas yn cyflogi miloedd o bobl leol, gan ddarparu bywoliaeth, swyddi a gyrfaoedd. Maent yn cefnogi'r ardaloedd a'r cymunedau y mae eu teuluoedd yn byw ynddynt.
  • Mae ymweld a threulio amser ac arian yn siopau canol y ddinas a busnesau eraill yn helpu i ddiogelu swyddi a chreu mwy o gyfleoedd cyflogaeth i bobl leol.
  • Mae'r busnesau hyn ar agor am y rhan fwyaf o ddiwrnodau'r flwyddyn ac maent yn cynnig croeso cynnes, arbenigedd lleol a chysylltiad dynol 1 i 1. 
  • Mae pobl leol yn gweithio yn ein siopau yng nghanol y ddinas ac maent yn llawer mwy cymdeithasol na siopa ar-lein.
  • Mae ganddi dirwedd fusnes fwyaf, mwyaf amrywiol a mwyaf bywiog y rhanbarth sy'n cynnwys cannoedd o fusnesau.
  • Maent yn amrywio o siopau bach annibynnol i siopau cenedlaethol mawr, caffis a bariau a gynhelir yn lleol, bwytai mawr, darparwyr hamdden a gweithgareddau, sinemâu, a gwasanaethau hanfodol a phroffesiynol.
  • Mae gan ganol y ddinas un o farchnadoedd dan do gorau'r DU, gyda dwsinau o stondinau yn cael eu cynnal gan bobl leol. Mae'r cynigion yn amrywio o siop fara a melysion i emwaith a cholur, ac o gardiau ac anrhegion i ffrwythau a llysiau - ynghyd â'r stondinau cocos anhygoel. 
  • Mae dadansoddiad gan AGB Abertawe (Ardal Gwella Busnes) yn dangos bod gan ganol y ddinas fwy na 160 o fusnesau lletygarwch, 211 o fanwerthwyr, 27 o leoliadau adloniant a 71 o ddarparwyr gwasanaethau proffesiynol.
  • Mae dadansoddiad hefyd yn dangos bod 100 o fusnesau newydd wedi agor yng nghanol y ddinas ers y pandemig ac erbyn Awst 2023.
  • Mae'r sector preifat yn gweithio'n galed i lenwi unedau gwag.
  • Gan weithio gyda'r busnesau, mae'r cyngor, AGB Abertawe ac eraill yn gweithio bob dydd i ddiogelu economi canol y ddinas a hybu ei bywiogrwydd, gan gynnwys y swyddi gwerthfawr y mae'n eu darparu.
  • Byddwch yn ystyriol o'r bobl a'r busnesau hynny, a'ch economi leol. Meddyliwch yn ofalus cyn gwneud sylwadau negyddol ar ganol eich dinas gan fod hyn yn rhwystro masnach busnesau presennol, a hefyd yn rhwystro'r prosesau o ddenu siopau, busnesau a buddsoddiad.

Mae canol eich dinas yn esblygu i adlewyrchu tueddiadau'r presennol a'r dyfodol

  • Mae gan bob rhan o'r Deyrnas Unedig unedau gwag. Mae'n rhan o ganol dinasoedd modern, ac nid yw Abertawe ar ei phen ei hun. Rydym ni'n byw mewn amserau cyfnewidiol a heriol yn economaidd.
  • Y dyddiau hyn, mae llawer o bobl yn siopa ar-lein rhywfaint neu'r rhan fwyaf o'r amser.
  • Er mwyn mynd i'r afael â'r newidiadau hyn ledled y DU ac i ddiwallu anghenion a dewisiadau cyfnewidiol y cyhoedd, mae busnesau presennol, arweinwyr canol y ddinas a'r rheini sydd â dawn entrepreneuraidd yn esblygu'u cynigion yn gyson.
  • Does neb eisiau unedau gwag yng nghanol ein dinas. Er nad yw'r cyngor yn gyfrifol am adeiladau nad yw'n berchen arnynt, rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i greu amgylchedd sy'n ddeniadol i fusnesau.

Mae rhai pethau y tu allan i reolaeth y cyngor

  • Nid yw'r cyngor yn gosod ardrethi busnes a rhenti ar gyfer eiddo - fe'u gosodir gan Lywodraeth Cymru a pherchnogion eiddo, yn y drefn honno.
  • Ond yn ogystal â'r prif brosiectau rydym ni naill ai wedi'u cyflawni neu y byddwn ni'n eu cyflawni cyn bo hir. Rydym ni hefyd wedi:
    • helpu perchnogion eiddo canol y ddinas i gael gafael ar gyllid hanfodol i wella golwg eu hunedau manwerthu ac addasu lloriau uchaf yn gartrefi
    • buddsoddi ym Marchnad Abertawe i'w helpu i gynnal ei statws fel calon canol y ddinas
    • cynnal a chefnogi amrywiaeth o ddigwyddiadau yng nghanol y ddinas, fel Gorymdaith flynyddol y Nadolig
    • gweithio gydag AGB Abertawe ac amrywiaeth o bartneriaid i helpu canol y ddinas i chwifio'r Faner Borffor am naw mlynedd yn olynol
    • creu cysylltiadau llawer gwell rhwng canol y ddinas a glannau o safon fyd-eang Abertawe, diolch i'r bont Bae Copr
    • parhau i gynnal lleoliadau diwylliannol gwych fel Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas, Theatr y Grand ac Oriel Gelf Glynn Vivian
    • gosod ffïoedd parcio yn y rhan fwyaf o feysydd parcio canol y ddinas ar uchafswm drwy'r dydd o £5 - gyda chyfraddau fesul awr yn dechrau ar £1 yn unig
    • parhau i weithio gydag AGB Abertawe ar gynnal tîm o geidwaid canol y ddinas sydd yno i helpu siopwyr a busnesau
    • parhau i gynnig gwely mewn lle diogel i gysgu ynddo i bob person digartref

Mae amrywiaeth o sefydliadau'n gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yng nghanol y ddinas

  • Mae'r rhan fwyaf o ganol trefi a dinasoedd y DU yn dioddef rhywfaint o ymddygiad gwrthgymdeithasol, felly nid yw Abertawe ar ei phen ei hun.
  • Yma, mae'r cyngor yn parhau i weithio gydag AGB Abertawe, Heddlu De Cymru, asiantaethau eraill a busnesau i wneud canol y ddinas yn lle diogel i ymweld ag ef. Mae'r ddinas yn chwifio'r Faner Borffor, sy'n dynodi economi nos diogel, am y nawfed flwyddyn yn olynol.
  • Mae tîm o geidwaid canol y ddinas yno i gysylltu'n uniongyrchol â'r heddlu i helpu siopwyr a busnesau i wneud yn fawr o gyfleoedd siopa a hamdden yr ardal.
  • Eleni mae menter amlasiantaeth i dargedu ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio sylweddau a throseddoldeb yn yr ardal ynghyd â llwyfan recordio a chudd-wybodaeth newydd yn cael ei dreialu gan yr heddlu a'r AGB. Bwriad hyn yw gwella cyfathrebu a rhannu gwybodaeth rhwng busnesau a heddweision, gan wella gallu swyddogion i nodi lleoliadau ac unigolion penodol.
  • Os ydych chi'n dyst i ymddygiad gwrthgymdeithasol, rhowch wybod i'r heddlu - gallant helpu.

Mae parcio ym meysydd parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol dinas Abertawe bellach yn economaidd iawn

  • Credwn fod y cynnig #Parking12345 yn werth da am arian.
  • Mae'n golygu, ar gyfer y rhan fwyaf o feysydd parcio a reolir gan y cyngor yng nghanol y ddinas, na fyddwch chi'n talu mwy na £5 am ddiwrnod llawn - a £1 yr awr yn unig am hyd at bum awr. Rhagor o wybodaeth yma: Ffïoedd newydd rhatach ym meysydd parcio canol dinas Abertawe
  • Mae cannoedd o leoedd parcio o fewn ychydig funudau i siopau ac atyniadau canol eich dinas.

Meysydd parcio canol y ddinas Meysydd parcio canol y ddinas 

Ffïoedd a chynigion parcio Ffïoedd a chynigion parcio

Mae'r cyngor yn glanhau canol y ddinas yn rheolaidd

  • Nid yw'r cyngor yn gollwng sbwriel - ond rydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i'w glirio. Mae canol y ddinas yn cael ei lanhau'n ddyddiol, gydag AGB Abertawe yn darparu gwasanaethau glanhau ychwanegol ac yn cael gwared ar gwm cnoi. Mae yna hefyd ddigon o finiau sbwriel yng nghanol y ddinas sy'n cael eu gwagio mor rheolaidd â phosib.
  • Gofynnwn i'r rheini sydd â sbwriel yng nghanol y ddinas fynd ag ef adref neu ei waredu'n gyfrifol yn un o finiau sbwriel niferus yr ardal. Mae hyn yn cynnwys cartonau cludfwyd, a sigaréts, gwm cnoi a photeli diodydd a daflwyd. Mae sbwriel yn annerbyniol i'r amgylchedd, cyd-breswylwyr Abertawe a siopau a busnesau canol y ddinas sy'n gweithio'n galed i ddarparu gwasanaeth gwych i'r cyhoedd.
  • Gellir rhoi Hysbysiadau o Gosb Benodol gan staff gorfodi a Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu am ollwng sbwriel. Y tâl cosb am ollwng sbwriel yw £100 y mae'n rhaid ei dalu o fewn 14 diwrnod. Os caiff y tâl cosb ei dalu o fewn 7 niwrnod, caiff ei ostwng i £75.
  • Os ydych chi'n ymwybodol o fannau poblogaidd ar gyfer gollwng sbwriel, rhowch wybod i ni a bydd ein timau glanhau yn ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael ag ef: Biniau, sbwriel a thipio anghyfreithlon 

Mae cynlluniau ar waith ar gyfer hen uned Debenhams Abertawe

  • Rydym wedi cymryd camau cadarnhaol iawn drwy gaffael hen siop Debenhams, a ddaeth yn wag pan aeth y busnes ledled y DU hwnnw i ddwylo'r gweinyddwyr.
  • Gan weithio gydag AGB Abertawe ac eraill, rydym bellach yn chwilio am denantiaid manwerthu ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r cyhoedd. Rhagor o wybodaeth: Dyfodol cadarnhaol ar gyfer safle siop nodedig

Mae digonedd ar gael yng Nghanolfan Siopa'r Cwadrant hefyd

  • Mae'r Cwadrant yn cael ei chynnal yn breifat a gellir gweld ei 35 siop yma: https://quadrantshopping.co.uk/shops/   
  • Ers i Debenhams gau, mae'r rhan fwyaf o frandiau harddwch o fewn Debenhams, wedi'u hadleoli i Neuadd Harddwch Boots. Mae'r brandiau harddwch sydd bellach yn bodoli o fewn Boots yn cynnwys MAC, YSL, Chanel, Christian Dior, Fenty Beauty gan Rihanna, Kylie Cosmetics, Laura Mercier, Bobbi Brown, Too Faced, Elizabeth Arden, Kat Von D, The Ordinary, Origins, Clarins, Clinique, Estée Lauder, Lancôme, a NYX, NARS mini, a llawer mwy.
  • Mae'r Cwadrant hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau am ddim i siopwyr eu mwynhau drwy gydol y flwyddyn - o sioeau deinosoriaid i sesiynau crefft, adrodd straeon a cherddoriaeth i blant. Mae'r Noson Myfyrwyr flynyddol hefyd yn denu miloedd o fyfyrwyr ar gyfer noson o siopa ac adloniant, gan helpu i wneud eu profiad o brifysgol Abertawe mor gofiadwy â phosib.

Mae'r gwaith yn datblygu'n dda ar ochr ogleddol Bae Copr, gyferbyn ag Arena Abertawe

  • Mae ein contractwr yn bwrw ymlaen â gwaith i gwblhau'r maes parcio aml-lawr newydd heb unrhyw gost i'r cyngor.
  • Mae hyn yn cynnwys gwaith ar system araenu paentwaith y dur, er nad oes pryderon am ansawdd y dur.
  • Mae ein contractwr yn rhagweld y bydd y gwaith hwn wedi'i gwblhau erbyn diwedd eleni, ac mae maes parcio aml-lawr Dewi Sant gerllaw yn parhau i fod ar agor yn y cyfamser.
  • Mae gennym gytundebau prydlesu gyda phedwar busnes yn unedau manwerthu Bae Copr yn dilyn agoriad The Green Room yn y parc arfordirol y llynedd. Mae cytundebau prydlesu yn cael eu cwblhau gyda busnesau eraill ar gyfer gweddill yr unedau ym Mae Copr. Rydym yn gobeithio y bydd yr unedau hyn yn cael eu trosglwyddo i'r cyngor yn ystod y misoedd nesaf fel y gall y tenantiaid ddechrau symud i mewn. 
  • Disgwylir i'r holl waith gorffen arall ym Mae Copr, a wneir heb unrhyw gost i'r cyngor, gael ei orffen yn fuan.
  • O ran ein dymuniad i adeiladu gwesty rhwng yr arena a'r LC, mae trafodaethau gyda datblygwr gwesty yn parhau, ac rydym yn rhagweld cyhoeddiad yn fuan.

Mae'r cyngor yn annog amrywiaeth o bobl i ganol y ddinas diolch i gyfleusterau da ar gyfer cerddwyr, beicwyr, defnyddwyr bysus a threnau, a modurwyr

  • Mae'r rhan fwyaf o deuluoedd yn dal i ddefnyddio ceir i fynd o gwmpas felly mae'n rhaid i ni ystyried hynny.
  • Rydym hefyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i annog pobl i ddefnyddio ffyrdd mwy cynaliadwy o fynd o gwmpas.
    • Mae llwybrau beicio ardderchog yn mynd i mewn i ganol y ddinas ac oddi yno, llwybrau a rennir o gwmpas strydoedd canol y ddinas, a digon o leoedd i feicwyr sicrhau eu beiciau: Beicio
    • Mae llwybrau bysus yn mynd i ganol y ddinas, gan wasanaethu pob rhan o'r ddinas a'r sir - ac rydym wedi cynnal hyrwyddiadau rheolaidd sy'n cynnig teithio ar fysus am ddim dros y blynyddoedd diwethaf.
    • Mae canol y ddinas yn cael ei wasanaethu gan ddau safle parcio a theithio cost isel boblogaidd - ar Fabian Way ac yng Nglyndŵr ger stadiwm Swansea.com.
    • Mae llawer o ardaloedd canol y ddinas yn ardaloedd di-geir i ganiatáu profiad diogel i gerddwyr wrth iddynt fynd o siop i siop.

Mae digon o fusnesau sy'n caniatáu cŵn yng nghanol y ddinas

Mae llawer o leoedd lle gallwch chi fynd â'ch ci! Mae'r rhain yn cynnwys y Cwadrant, Marchnad Abertawe, Zara, Tiger, Zinco Lounge, a Founders & Co.

Rydym yn edrych yn fanwl ar feysydd parcio a reolir gan y cyngor y tu allan i ganol y ddinas

Rydym yn bwriadu edrych yn fanwl ar ffïoedd parcio ym meysydd parcio'r arfordir a'r traeth. Mwy yn y man!

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 14 Medi 2023