Toglo gwelededd dewislen symudol

Nodiadau y marfer ar gyfer ffyrdd o ddianc os bydd tân HMO

Drysau tân

Gosodir tri cholfach rholferyn dur gwrthstaen 100mm ar bob drws tân.

Peidiwch â gosod colfachau bôn codi

  • Mae atodlen eich hysbysiad/trwydded yn nodi y dylid gosod drws tân a ffrâm. Fel arfer, bydd y rhain i safon hanner awrond gallant, mewn rhai amgylchiadau, fod yn safon un awr. Gwiriwch eich atodlen yn ofalus i gadarnhau pa safon y mae ei hangen.
  • Peidiwch byth â gosod mwy nag un drws tân a ffrâm cyn i swyddog o Dîm Tai Amlfeddiannaeth y cyngor eu harchwilio.
  • Gellir prynu'r drysau a'r fframiau hyn fel pecyn mewn gweithdai saernïaeth arbenigol neu gan werthwyr coed.
  • At ddibenion y ddogfen hon, mae drysau safonol yn mesur y dimensiynau canlynol yn unig: - 686mm o led (27") fesul 1981mm o uchder (78"), 762mm o led (30") fesul 1981mm o uchder (78") neu 838mm o led (33") fesul 1981mm o uchder (78"). Os ydych yn ystyried gosod unrhyw ddrysau wedi'u gweithgynhyrchu nad ydynt yn cyd-fynd â'r dimensiynau hyn, BYDD angen y dystiolaeth ganlynol ar yr awdurdod
    • y math o ddrws, gan gynnwys enw'r gwneuthurwr,
    • y dimensiynau i'w defnyddio a chopi o'r cyfarwyddiadau gosod. 

D.S. Dim ond ar ôl cael cadarnhad gan y swyddog arolygu y dylid dechrau'r gwaith gosod.

  • Nid oes modd lleihau na thorri drysau safonol o gwbl. Yr unig eithriad yw y gellir befelu'r ymyl blaen ar ochr y colfach i atal y drws rhag cyffwrdd â'r ffrâm. Pe baech yn cael anawsterau wrth osod drws neu set safonol, dylech gysylltu â'r swyddog arolygu cyn gwneud unrhyw benderfyniadau a allai achosi i'r drysau fethu arolygiad. Os ydych yn cael anhawster wrth gysylltu â'r swyddog arolygu, gellir cysylltu â'r Tîm Amlfeddiannaeth drwy ffonio 01792 635600 neu drwy e-bostio HPH@abertawe.gov.uk
  • Os nad yw'r agoriad yn addas i osod set drws a ffrâm safonol, mae dau ddewis arall. Gallwch naill ai defnyddio drws tân pwrpasol sy'n wahanol i'r meintiau safonol a restrir uchod neu ddefnyddio drws tân plaen solet. Os defnyddir drws tân plaen, gellir ei dorri i unrhyw faint, ond rhaid adfer yr ymyl i o leiaf 10mm o stribed pren caled o'r un trwch â'r drws tân plaen. Gellir gwneud hyn mewn gweithdy yn unig, yn hytrach nag ar y safle. Bydd angen adfer ymylon y drysau plaen hyn ar bob un o'r pedair ochr, eu gludio a'u pinio, a'u meitro ar y corneli. Wrth ddefnyddio'r drysau tân plaen hyn, gellir gosod y stribedi selio mwg chwyddedig yn y ffrâm fel arfer neu eu gosod ar ymylon y drws (gweler yr adran isod). Os defnyddir un o'r ddau ddewis arall hyn, BYDD angen gwybodaeth ar yr awdurdod, gan gynnwys y math o ddrws, enw'r gwneuthurwr, dimensiynau'r drws a chopi o'r cyfarwyddiadau gosod. Dim ond ar ôl cael cadarnhad gan y swyddog arolygu y dylid dechrau'r gwaith gosod.
  • Os yw agoriadau'r fframiau drws presennol yn anarferol o fawr, mae'n bosib gosod drws tân a ffrâm safonol y tu mewn i'r ffrâm hon. Bydd hyn wedyn yn lleihau'r gwaith addasu angenrheidiol i'r wal o gwmpas y ffrâm. Rhaid cael cytundeb gan y swyddog arolygu yn y lle cyntaf.
  • O bryd i'w gilydd, efallai y bydd modd cadw'r fframiau presennol. Bydd yn rhaid trafod hyn â'r swyddog arolygu a chytuno arno ar y safle. Yn yr achos hwn, ni chaniateir gosod drws tân safonol, ac mae'n rhaid defnyddio drws tân plaen solet.
  • Pa fath bynnag o ddrws tân a ddefnyddir, mae'n rhaid i gefn y drws fod yn wastad ac yn cyfateb i ymyl y ffrâm.
  • Dylai dyfnder y stop drws fel arfer fod yn 12.5mm. Rhaid gludio a sgriwio stopiau drysau yn eu lle 230mm rhwng mannau canolog.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu