Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Awst

Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor a chysylltiadau brys. Cynhelir yr holl gasgliadau ailgylchu ar y diwrnodau arferol.

Nodiadau y marfer ar gyfer ffyrdd o ddianc os bydd tân HMO

Sbandrel

Y sbandrel a grybwyllwyd yn atodlen eich hysbysiad/trwydded yw'r triongl rhwng postyn grisiau'r llawr gwaelod a phostyn pen grisiau'r llawr cyntaf ac mae fel arfer wedi'i adeiladu o ffrâm goed ysgafn a choed tafod a rhigol.

Efallai y bydd atodlen eich hysbysiad/trwydded yn nodi y bydd yn rhaid cau'r rhan hon o'r eiddo i ddiogelu'r prif lwybr dianc rhag tân o loriau uchaf yr eiddo. Bydd gennych yr opsiwn o osod drws tân a ffrâm ar y pared newydd, ond y perchennog fydd yr unig berson sy'n cael mynediad i'r rhan hon drwy allwedd. Ni chaiff yr ardal ei defnyddio fel storfa.

Efallai y bydd atodlen eich hysbysiad/trwydded yn gofyn bod yr holl fesuryddion nwy a thrydan yn cael eu symud. Mewn rhai achosion, gall y mesuryddion trydan aros, ond mae'n well symud yr holl fesuryddion ac unedau defnyddwyr o'r rhan hon o'r eiddo. Os yw'r mesuryddion trydan yn aros, mae'n rhaid gosod synhwyrydd tân ychwanegol yn y rhan hon o dan y grisiau. Gellir gosod yr uned defnyddwyr yn y cyntedd neu yn yr ystafell fyw gymunedol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, mae angen gorchuddio'r grisiau. Mae hyn yn golygu darparu plastrfwrdd 12.5mm â gorffeniad sgim plastr gypswm 3.2mm i gau'r grisiau a'r wynebau agored.

Edrychwch ar atodlen eich hysbysiad/trwydded ar gyfer manylion penodol eich eiddo.

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu