Toglo gwelededd dewislen symudol

Map o ardaloedd tai cyngor yn Abertawe

Map o dai cyngor yn Abertawe, gan gynnwys faint o eiddo sydd ar gael a'r mathau ohonynt.

  • Os ydych yn bwriadu cyflwyno cais am dŷ cyngor neu os ydych am symud o'ch tŷ cyngor i un arall, bydd y map hwn yn eich helpu i weld lleoliadau eiddo'r cyngor a all fod yn addas i chi.
  • Cliciwch ar bin a gallwch weld gwybodaeth am yr ardal honno, gan gynnwys cyfanswm nifer yr eiddo, y strydoedd y mae gennym eiddo arnynt a mathau'r eiddo sydd ar gael
  • Gan mai map Google ydyw, gallwch chwyddo mewn i weld pa gyfleusterau sydd hefyd ar gael yn yr ardal.
  • Gallwch ddefnyddio'r wybodaeth hon i ddewis pa ardaloedd yr hoffech chi gael eu cofrestru ar eu cyfer ar y rhestr aros pan fyddwch yn cwblhau eich cais am dŷ (efallai yr hoffech chi nodi'r ardaloedd ar bapur fel nad oes angen i chi symud rhwng tudalennau).
  • Mae'r map yn dangos lleoliadau tai'r cyngor, nid y rhai sydd ar gael i'w rhentu ar hyn o bryd
  • I gofrestru ar restr aros y cyngor, bydd angen i chi gwblhau cais am dŷ
  • Ar gyfer map o lety byw'n annibynnol: Cyfadeiladau Byw'n Annibynnol

Caiff yr ardaloedd ailgartrefu eu grwpio fesul swyddfa dai ardal:

Swyddfa Dai'r Ardal Ganolog - oren/diemwnt
Swyddfa Dai Ardal y Dwyrain - coch/cylch
Swyddfa Dai Ardal y Gogledd - glas/seren
Swyddfa Dai Ardal y Gorllewin - gwyrdd/sgwâr

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 13 Chwefror 2023