Toglo gwelededd dewislen symudol

Opsiynau tai ar gyfer nes ymlaen

Yn ddiweddarach mewn bywyd mae rhai pobl yn ystyried symud i eiddo sy'n fwy addas ar gyfer eu hanghenion a'u blaenoriaethau newidiol.

Efallai bod eich cartref yn rhy fawr bellach i ofalu amdano, neu efallai bod gormod o risiau. Gall cyrraedd siopau fod yn anodd - mae'r tyle'n rhy serth a does dim safle bws ger eich tŷ.  Efallai byddai'n well gennych fod mewn cymuned lle mae pobl o oed tebyg yn byw, neu rywle lle mae peth cefnogaeth gofal ar gael os oes angen hynny arnoch.

Un opsiwn fyddai dod o hyd i sut i addasu eich cartref mewn modd a fyddai'n eich helpu gyda'ch nam.

Tai ymddeol

Mae tai ymddeol fel arfer yn cynnwys grwp o dai neu fflatiau sydd wedi'u dylunio i ddiwallu anghenion pobl hwn a lle mae oed y prynwyr yn gyfyngedig.

Fel arfer, rheolir y cyfadeilad drwy dâl gwasanaeth blynyddol, felly does dim materion cynnal a chadw i boeni yn eu cylch. Weithiau gall fod cyfleusterau a rennir yno megis gerddi, bwyty neu gyfleusterau ffitrwydd.

Mae rhai cyfadeiladau'n cynnig amrywiaeth o opsiynau cefnogi fel y gall trigolion dalu am fwy o ofal ar y safle os yw eu hanghenion yn newid.

Byw'n annibynnol (tai lloches)

Mae llety byw'n annibynnol yn darparu eiddo sydd wedi'i ddylunio'n arbennig i bobl hyn, gyda gwasanaeth warden ar gael ar y safle.

Darperir tai o'r fath i'w rhentu (gan y cyngor a chymdeithasau tai) ac i'w prynu (fel arfer gan gwmnïau arbenigol). Gallwch gael rhagor o wybodaeth am lety byw'n annibynnol ar y dudalen ganlynol: Byw'n annibynnol (tai lloches).

Tai gofal uwchwanegol

Weithiau'n cael ei alw'n byw â chymorth, mae'r rhain yn dai - fflatiau bach fel arfer - lle darperir gofal ar y safle fel rhan o'r trefniant byw arferol.

Mae tai gofal ychwanegol ar gyfer pobl hyn nad ydynt bellach yn gallu byw ar eu pennau eu hunain yn gyfan gwbl, ond nad oes angen goruchwyliaeth feddygol, gymhleth 24 awr arnynt. Mae cynlluniau tai gofal ychwanegol yn cynnig lefel uchel o wasanaethau a chyfleusterau, prydau a gwasanaethau gofal personol.

I rai pobl, gall hwn fod yn ddewis arall ymarferol i gartref preswyl.

Byw'n annibynnol (tai lloches)

Bydd llety byw'n annibynnol yn darparu eiddo hunangynhwysol i chi i'ch galluogi i barhau i fyw'n annibynnol, ond gyda warden dynodedig y gallwch gysylltu ag ef drwy system intercom heb adael yr eiddo.

Cartrefi â chymorth

Os oes angen cefnogaeth weddol uchel arnoch er mwyn byw yn eich eiddo'ch hunan, efallai y bydd cartrefi â chymorth yn fwy addas i chi am y tro na byw ar eich pen eich hunan.

Tai wedi'u haddasu

Mae cymorth ar gael er mwyn addasu eich llety presennol, neu i ddod o hyd i lety addas newydd os ydych chi'n hŷn neu os oes gennych anabledd.

Opsiynau Tai

Rydym yn ceisio atal digartrefedd lle bo'n bosib. Gallwn wneud hyn drwy'ch helpu i aros lle'r ydych yn y tymor hir neu drwy'ch helpu i aros lle'r ydych nes i chi ddod o hyd i rywle arall i fyw.
Close Dewis iaith