Parc Pontlliw
Gyda digon o fannau agored, mae'r ardal werdd, ffrwythlon hon yn berffaith ar gyfer mynd am dro hir.
Cyfleusterau
- Ardal chwarae i blant
- Cwrt tenis
- Ardal Gêmau Amlddefnydd
- Ramp BMX a sglefyrddio
Lle Llesol Abertawe - Cyfeillion Parc Pontlliw
Bydd Cyfeillion Parc Pontlliw yn cau ar 18 Rhagfyr ac yn ailagor ar 6 Ionawr 2025
Bob dydd Llun a dydd Mercher, 10.00am - 12.30pm, yn adeilad y pafiliwn yn y parc ar waelod Heol y Parc.
Croeso cynnes ac amgylchedd diogel, lle gallwch ymlacio a mwynhau diod boeth a lluniaeth ysgafn. Mae rhoddion yn ddewisol. Man rhoi bwyd. Rhoddir cyngor ac arweiniad ar ystod o weithgareddau lleol. Gallwn ddarparu cewynnau a hancesi sychu. Rydym yn caniatáu i gŵn sy'n ymddwyn yn dda ar dennyn ddod i mewn ac rydym yn darparu tywelion i gŵn hefyd. Mewn parc hardd gyda llwybrau cerdded a blodau hardd i'w gweld.
- Mannau gwefru am ddim ar gyfer ffonau neu ddyfeisiau eraill
- Mynedfa / lleoliad hygyrch
- Toiledau / toiledau hygyrch / cyfleusterau newid cewynnau
- Mannau parcio ceir (mynediad hawdd)
- Ardal chwarae i blant / teganau i blant
- Gemau / gemau bwrdd
- Man awyr agored
- Mae lluniaeth ar gael
- te, coffi, siocled poeth, diod ffrwythau a dŵr
- tost, teisen ffrwythau, detholiad o deisennau heb glwten, bisgedi
- cawl cyflym mewn cwpan a chawl cynnes
- Dŵr yfed ar gael
- Gwasanaeth benthyca llyfrau / cyfnewid llyfrau
- Digwyddiadau â thema. Cyfleoedd gwirfoddoli yn y parc ac yn ein hwb cymunedol.
E-bost: daffodil15@outlook.com
Rhif ffôn - 07988 801856
Hygyrchedd
Gât 1: Heol y Parc. Ceir llethr 10 gradd sy'n hygyrch i bawb.
Gât 2: Heol Abertawe, yn hygyrch i bawb.
Cyfarwyddiadau
O'r M4, C47, trowch i A48 tuag at Benllergaer. Wrth y cylchfan nesaf, trowch i'r dde i Heol Pontarddulais a'i dilyn i Bontlliw. Mae mynedfa'r parc ar y dde, ar ôl mynd dan y bont.
Côd Post - SA4 9EZ