Toglo gwelededd dewislen symudol

Sut i ddelio â phroblemau â draeniau neu ddŵr yn eich cartref

Gwybodaeth ddefnyddiol ar gyfer delio â phroblemau gyda draeniau a dŵr yn eich cartref.

Datrys problemau gyda draeniau a dŵr
ProblemYr hyn y gallwch chi ei wneudPwy sy'n gallu helpu
Toiledau wedi'u blocio neu wedi'u difrodiPeidiwch â rhoi unrhyw eitemau yn y toiled ar wahân i bapur tŷ bach. Dylid rhoi gwastraff hylendid personol a chewynnau yn eich sachau du.Gofynnwch am atgyweiriad tai cyn gynted â phosib.
Os yw'r toiled wedi'i ddifrodi, bydd arolygydd yn edrych arno cyn ffonio'r plymwr
Sinc a bath wedi'u blocioGosodwch orchudd twll plwg bach i ddal unrhyw eitemau bach cyn iddynt fynd i lawr twll y plwg. Gall gwallt a sebon achosi problemau.Gwneud cais am atgyweiriad
Pibell ddŵr wedi byrstioDiffoddwch y stopfalf i atal y cyflenwad dŵr.
Diffoddwch y system gwres canolog.
Diffoddwch y trydan wrth y prif gyflenwad.
Diffoddwch unrhyw wresogyddion dŵr.
Agorwch yr holl dapiau i bob sinc a bath i ddraenio'r dŵr o'r pibellau.
Atgyweiriadau brys
Gyli gwastraff cegin wedi blocioOs bydd gormod o ddail, pridd neu unrhyw wastraff tebyg o gwmpas y gyli, dylech gael gwared arno.
Ceisiwch atal blocio'r draen trwy sicrhau nad ydych chi'n rhoi olew, braster a gwastraff bwyd i lawr sinc y gegin.
Gwneud cais am atgyweiriad
Siambr archwilio wedi blocio neu'n gorlifoCeisiwch atal ei flocio trwy beidio â rhoi unrhyw eitemau ar wahân i bapur tŷ bach yn y toiled.
Ceisiwch osgoi fflysio'r toiled neu agor y tapiau nes y cynhelir arolygiad.
Atgyweiriadau brys
Draen neu gyli dŵr glaw wedi blocioOs bydd llawer o ddail pridd neu unrhyw wastraff tebyg o gwmpas y gyli, dylech gael gwared arno.
Gosodwch orchudd ar waelod y bibell i gau ardal y gyli.
Gwneud cais am atgyweiriad
Llifogydd ar y ffyrdd neu balmentyddOs bydd llifogydd ar y ffordd neu'r palmant, efallai bod gylïau wedi'u blocioDweud am gylïau wedi'u rhwystro neu ffyrdd neu lwybrau sydd wedi gorlifo

 

Close Dewis iaith