Toglo gwelededd dewislen symudol

Strategaeth newid yn yr hinsawdd a natur 2022-2030

Mae ymrwymiad Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn cael ei rannu'n ffrydiau gwaith a ddiffinnir yn glir, ochr yn ochr â'i ymrwymiad i adferiad natur.

1. Cyflwyniad

Newid yn yr hinsawdd yw'r newid tymor hir o dymheredd a phatrymau tywydd nodweddiadol a achosir i raddau helaeth gan weithgarwch dynol, fel llosgi tanwydd ffosil fel nwy naturiol, olew, a glo. Mae llosgi'r deunyddiau hyn yn rhyddhau'r hyn a elwir yn nwyon tŷ gwydr i'r atmosffer. mae iechyd a lles dynol yn agored i newid o'r fath. Disgwylir i'r newid hwn achosi tywydd ansefydlog - gwres a thân, sychder a llifogydd, cynnydd mewn clefydau a gludir gan ddŵr, ansawdd aer gwael, bygythiadau i fywyd gwyllt a cholli ffynonellau bwyd.

Mae'r llun isod yn dangos sut mae'r tymheredd ledled Cymru eisoes yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn, gan osod tuedd glir tuag at hinsawdd boethach a fydd yn arwain at ganlyniadau sylweddol.

Stribedi Cynhesu Cymru - 1884 -2020 (Yr Athro Ed Hawkins MBE, Prifysgol Reading) #ShowYourStripes.

Image taken from ShowYourStripes.info

Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i weithredu ar unwaith. Bydd targed 2030 y sector cyhoeddus, o flaen targed 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru gyfan, yn rhoi'r cyfle gorau i ni o gadw cynhesu byd-eang yn is na 1.5°C.

Dyma'r pwynt tyngedfennol pan fydd effeithiau'r hinsawdd rydym eisoes yn eu profi'n mynd o fod yn ddrwg i fod o bosib yn drychinebus. Byddwn yn gweld systemau naturiol yn croesi pwyntiau perygl, gan sbarduno newidiadau parhaol fel stormydd eith afol, tywydd poeth, colli cynefinoedd naturiol a rhywogaethau ar raddfa eang.

Cydnabyddir hefyd fod ein lles ni a lles cenedlaethau'r dyfodol yng Nghymru dan bwysau sylweddol o ran ecsbloetiaeth, colli cynefinoedd, llygredd, newid yn yr hinsawdd yn ogystal â rhywogaethau anfrodorol ymledol.

2. Felly beth mae Cyngor Abertawe yn ei wneud amdano?

Deddfwriaeth, rheoleiddio a pholisi

Mae amrywiaeth o ddeddfwriaeth a pholisi sydd wedi cael cyhoeddustrwydd da yn helpu i sbarduno'r newid hwn:

Yn fyd-eang

Cytundeb rhyngwladol Paris 2015 sy'n ceisio cadw'r cynnydd mewn tymereddau byd-eang i ymhell islaw 2 radd Celsius.

Mae'r Panel Rhynglywodraethol ar y Newid yn yr Hinsawdd (IPPC) yn eu hadroddiad Newid yn yr Hinsawdd 2021, yn dod i'r casgliad canlynol:

  • mae amser o hyd i gyfyngu ar effeithiau gwaethaf newid yn yr hinsawdd
  • bydd angen i'r byd gyrraedd allyriadau CO2 sero net erbyn 2050 er mwyn sefydlogi'r hinsawdd
  • mae gweithgareddau dynol eisoes wedi achosi tua 1.1oC o gynhesu
  • mae hinsawdd y blaned yn cynhesu'n gynt nag unrhyw beth a brofwyd o'r blaen
  • mae pob rhan o'n planed eisoes yn gweld newidiadau lluosog a chynyddol yn ei systemau hinsawdd
  • mae cynhesu byd-eang yn debygol iawn o gyrraedd 1.5oC erbyn 2040
  • mae newid yn yr hinsawdd yn dwysáu'r cylch dŵr sy'n effeithio ar batrymau glaw
  • bydd lefel y môr yn parhau i gynyddu drwy gydol yr 21ain ganrif mewn ardaloedd arfordirol
  • bydd cynhesu pellach yn cynyddu'r effeithiau ar ranbarthau rhewllyd
  • mae'r cefnfor yn cynhesu ac yn asideiddio.

Yn genedlaethol

Yn 2019, diwygiodd Llywodraeth y DU Ddeddf Newid yn yr Hinsawdd 2008 drwy gynyddu'r targed ar gyfer lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr yn y DU i o leiaf 100% yn is na lefelau 1990 erbyn 2050. Yr enw arall ar hwn yw'r targed Sero Net.

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol Llywodraeth Cymru 2015 yn gofyn am atebolrwydd o ran effeithiau penderfniadau tymor hir.

Mae Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn cefnogi dod o hyd i ffyrdd o sicrhau ecosystemau iach, cadarn a chynhyrchiol ar gyfer y dyfodol wrth barhau i wynebu'r heriau o greu swyddi, tai ac isadeiledd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hymrwymiad cyfreithiol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, ond mae'n gwthio i 'gyflawni hyn yn gynt'. Mae'n cydnabod y bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio arnom i gyd, ond y gwirionedd pur yw ein cymunedau mwyaf agored i niwed fydd yn dioddef fwyaf. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod yn rhaid i'r pontio hwn tuag at Gymru Net Sero fod yn deg ac yn gyfiawn er mwyn dyfodol gwyrdd a glân sy'n cynnwys swyddi o ansawdd da, heb adael unrhyw gymunedau ar ôl.

Bydd Abertawe'n ymdrechu i gyd-fynd â 'Cymru Sero Net - Cyllideb Garbon 2 (2021-25)', gan groesawu ymagwedd Tîm Cymru.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu fframwaith deddfwriaethol blaengar i annog gwelliannau amgylcheddol, gan gynnwys ar gyfer paratoi Cynlluniau Adfer Natur yn genedlaethol ac yn lleol. mae'r cynlluniau hyn sy'n cael eu paratoi ar hyn o bryd ac yn cael eu hadolygu'n barhaus, yn bwriadu mynd i'r afael ag achosion sylfaenol colli bioamrywiaeth drwy roi natur wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau a chynyddu cadernid ein systemau naturiol (ecosystemau). Llywodraeth Cymru oedd un o seneddau cyntaf y byd i ddatgan Argyfwng Natur ym mis Mehefin 2021.

Yn rhanbarthol

Fel rhan o'r agenda ranbarthol mae'r 4 awdurdod lleol - Sir Gâr, Sir Benfro, Castellnedd Port Talbot ac Abertaew wedi bwrw ymlaen â strategaeth ynni ranbarthol newydd. Mae rhagor o waith hefyd yn mynd rhagddo fel rhan o raglen waith newydd y Cyd-bwyllgorau Corfforedig.

Yn lleol

Yn dilyn yr Hysbysiad o Gynnig ar Argyfwng Newid yn yr Hinsawdd a gyflwynwyd i'r cyngor ar 27 Mehefin 2019, mae'r Awdurdod yn ailddatgan ei ymrwymiad i:

  • Alw ar lywodraethau'r DU a Chymru i roi'r pwerau a'r adnoddau angenrheidiol i ni i sicrhau bod Cyngor Abertawe'n dod yn sero net erbyn 2030.
  • Rhoi cyhoeddustrwydd i'r argyfwng hinsawdd a hyrwyddo mwy o ymwybyddiaeth o wirionedd newid yn yr hinsawdd ymhlith y boblogaeth leol sy'n anelu at darged sirol gyfan o sero net erbyn 2050.
  • Gweithio gydag arbenigwyr perthnasol yn y meysydd ymchwil a datblygu i:
    • Adolygu'n strategaethau a'n cynlluniau gweithredu cyfredol ar gyfer mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
    • Nodi unrhyw newidiadau polisi neu gamau gweithredu pellach y gallem eu cyflawni, o fewn cympas ein pwerau a'n hadnoddau, i ateb her argyfwng hinsawdd.
    • Ceisio cymorth partneriaid lleol a chyrff ymchwil eraill i esbonio'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo a'r cyflawniadau a wnaed eisoes i'r gymuned, yn ogystal â thargedau ar gyfer y dyfodol.
    • Diweeddariad ar waith pellach a wnaed gan y cyngor yn y maes hwn yn flynyddol drwy adran Adroddiad Adolygu Perfformiad Blynyddol y Cyngor ar yr amcan corfforaethol - Cynnal a gwella adnoddau naturiol a bioamrywiaeth Abertawe.
  • Cynhaliaodd y Cyngor arolwg dinasyddion ym mis Mawrth 2021, a chafwyd ymateb rhagorol, ond y neges allweddol a dderbyniwyd yw 'Ewch yn Gyflymach, Ewch Ymhellach'.

3. Adfer natur

Datganodd Cyngor Abertawe Argyfwng Natur ym mis Tachwedd 2021. Ar hyn o bryd, mae Cynllyn Gweithredu Adfer Natur Abertawe'n cael ei baratoi mewn cydweithrediad â Phartneriaeth Natur Abertawe, a'i huchelgais graidd fydd gwrthdroi'r dirywiad presennol ym myd natur yn Ninas a Sir Abertawe a chynyddu cadernid ecosystemau. Y nod yw bod Abertawe yn natur bositif erbyn 2030, h.y. bod y dirywiad presennol ym myd natur yn dechrau gwthdroi. Erbyn 2050 y gobaith yw bod natur yn ffynu yn Abertawe, bod natur mewn adfeiriad, yn cael ei gwerthfawrogi, ei hadfer, ei rhoeli'n gynliadwy, a'i defnyddio'n ddoeth.

4. Y weledigaeth

Mae ymrwymiad Cyngor Abertawe i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd yn cael ei rannu'n ffrydiau gwaith a ddiffinnir yn glir, ochr yn ochr â'i ymrwymiad i adferiad natur. Bydd cynigion adfer natur yn cael eu nodi mewn cynllun gweithredu ar wahân sy'n cyd-fynd â'r strategaeth hon.

Bydd y cyngor yn arwain drwy esiampl ac yn ganolbwynt ar gyfer ymatb i weithredu ar yr hinsawdd a natur ar draws y ddinas a'r sir gyfan.

Bydd busnes y cyngor yn ymdrechu i gyrraedd carbon sero net erbyn 2030, gan sefydlu prosesau monitro allyriadau a datblygu cynllun gweithredu cadarn er mwyn cyrraedd y targed.

Gan weithio gyda phartneriaid, bydd y cyngor yn galw ar Ddinas a Sir Abertawe yn ei chyfanrwydd, ei phrif gyflogwyr, ei dinasyddion, ei grwpiau cymunedol a'i busnesau i gyfrannu at sicrhau carbon sero net erbyn 2050. Bydd angen arweinyddiaeth ar y cyd ac uchelgais a rennir.

5. Llywodraethu

Er mwyn galluogi'r cyngor i barhau i wneud cynnydd, un o'r camau gweithredu allweddol o'r Hysbysiad o Gynnig oedd adolygu'r fframwaith polisi presennol a sut y gallai hyn gyfrannu at gyflawni ymateb carbon sero net ac argyfwng hinsawdd.

Felly bu'n rhaid adolygu dros 100 o bolisïau'r cyngor sy'n cyfrannu at yr agenda hon a'u mireinio i 8 thema allweddol fel yr amlinellir isod:

  • Strategaeth Ynni
  • Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd
  • Cynllun Bioamrywiaeth
  • Cynllun Datblygu Lleol
  • Strategaeth Caffael
  • Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy
  • Strategaeth Gwastraff
  • Strategaeth Tai.

Mae'r polisïau hyn yn gorgyffwrdd i fwydo'n gyntaf i'r targed tymor byr craidd o ddod yn garbon sero net ar gyfer allyriadau'r cyngor erbyn 2030, a'r nod tymor hwy o gyflawni nod tebyg ar gyfer y ddinas gyfan erbyn 2050. Mae'r polisïau hyn wedyn yn cael eu cynnwys yn y bôn yng ngofynion hollgynhwysfawr y Cynllun Corfforaethol, y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

6. Y daith hyd yn hyn

Mae Cyngor Abertawe wedi cyflawni llawer dros nifer o flynyddoedd i liniaru effeithiau Newid yn yr Hinswdd fel:

  • Mae Cyngor Abertawe'n caffael ei ynni gan ddefnyddio Cytundebau Fframwaith Gwasanaethau Masnachol y Goron, drwy'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol (NPS), ar gyfer y ei gyflenwadau ynni. Daw'r holl drydan a gaffaelir drwy fframwaith NPS o ffynonellau ynni adnewyddadwy 100%; Daeth 41% o Grymru (Ebrill 20 - Mawrth 210); Nwy - Sicrhawyd Total Gas and Power (TGP) fel cyflenwr nwy newydd (o Ebrill 21), roedd diddordeb cofrestredig mewn prynu 'Nwy Gwyrdd' - yn dibynnu ar ddichonoldeb ac effaith y gost.
  • Rhaglen Carbon Isel RE:FIT - Mae Cyngor Abertawe yn cymryd rhan yn Rhaglen Carbon Isel RE:FIT a gefnogir gan Lywodraeth Cymru er mwyn rhoi cyfleoedd arbed effeithlonrwydd ynni ar waith mewn adeiladau annomestig. Sicrhawyd benthyciad di-log o £1.3 miliwn gan Raglen Ariannu Llywodraeth Cymru (Salix) i gyflawni prosiect Cam 1 RE:FIT Cymru (Effeithlonrwydd Ynni) sy'n cynnwys dros 18 o adeiladau yr amcangyfrifir y byddant yn arbed tua 400 tCO2e bob blwyddyn. Bydd mesur yr arbedion ynni a gyflawnir gan y Mesurau Arbed Ynni (MAYau) yn cael eu dilysu gan ddefnyddio'r broses Mesur a Gwirio (MaG).
  • Prosiect Ôl-osod Lleihau Carbon (Cam 2): Gweithio tuag at ddatblygu achos busnes i weithredu Mesurau Arbed Ynni ar gyfer Gwasanaethau Addysg - Ysgolion. 
  • Mae Cyngor Abertawe, gyda chymorth Gwasanaethau Ynni Llywodraeth Cymru, yn symud ymlaen tuag at ddatblygu fferm Solar Ffotofoltâig 3MW wedi'i gosod ar y ddaear mewn safle tirlenwi gwastraff wedi'i orchuddio. Rhagwelir y bydd 101,302,731kWh o ynni adnewyddadwy yn cael ei gynhyrchu dros oes yr asedau (35 mlynedd) sy'n cyfateb i 28,454 t/CO2. Gellid adennill rhan o'r gost gwariant cyfalaf hon gan y byddai'n creu refeniw i'r awdurdod, ar ffurf naill ai Cytundebau Pryniant Pŵer (PPA) neu rwydwaith gwifren preifat. Mae cyfle posib i ehangu'r safle Solar Ffotofoltâig yn y dyfodol wrth i'r tir gwastraff ychwanegol presennol gael ei gapio.
  • Canolfan Sector Cyhoeddus: Mae'r Cabinet yn ystyried symud o'r Ganolfan Ddinesig i ganolfan sector cyhoeddus newydd yng nghanol y ddinas fel rhan o Gam 2 Canol Bae Abertawe, y prosiect £1bn i adfywio ardal Dewi Sant yng nghanol y ddinas. Mae hwn yn gyfle i'r awdurdod ddangos ei ymrwymiad i gyflawni'i ddyheadau di-garbon net erbyn 2030 gan ymgorffori technolegau adnewyddadwy yn y manylebau dylunio.
  • Datblygu gwaith tuag at Forlyn Llanw Bae Abertawe blaenllaw, yr amcangyfrifir y bydd yn cynhyrchu 504,854 MWh o drydan, sy'n cyfateb i arbedion allyriadau carbon o 94,913 mT CO2e.

6.1 Ynni Cymunedol

Mae ynni cymunedol yn cwmpasu agweddau ar weithredu ar y cyd i leihau, prynu, rheoli a chynhyrchu ynni. Mae gan brosiectau ynni cymunedol bwyslais ar ymgysylltu lleol, arweinyddiaeth a rheolaeth leol a'r gymuned leol yn elwa ar y cyd o'r canlyniadau.

6.2 Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer 

Ers y datblygiad cyntaf yn Colliers Way, mae tîm datblygu Rhagor o Gartrefi, mewn partneriaeth â'r Gwasanaethau Adeiladau Corfforaethol (ACC) wedi datblygu Safon Abertawe sydd wedi ymgorffori cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS) oherwydd cyllid Y Rhaglen Tai Arloesol (RhTA) Llywodraeth Cymru (LlC), gan alluogi Cyngor Abertawe i adeiladu cartrefi enghreifftiol, gan gyfuno'r tchnolegau adnewyddadwy arloesol diweddaraf fel solar ffotofoltaig, batris Tesla, uned awyru fecanyddol sy'n adfer gwres (MVHR) a phwmp gwres o'r ddaear (GSHP).

Gydag ymagwedd 'adeiladwaith yn gyntaf' tuag at roi Safon Abertawe ar waith, mae Cyngor Abertawe wedi llwyddo i adeiladu cartrefi sy'n hynod effeithlon o ran ynni; gan gyflawni sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni A ac sydd bron yn hunan-effeithlon wrth gynhyrchu eu hynni eu hunain i leihau'r galw am ynni a mynd i'r afael â thlodi tanwydd drwy gynhyrchu tua 60% - 80% o'r ynni a ddefnyddir.

Mae eiddio Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn cael eu monitro ar y cyd ag Ysgol Pensaernîaeth Cymru (WSA) ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y tîm ymchwil yn gweithio mewn cydweithrediad â diwydiant, y llywodraeth, y byd academaidd a'r cyhoedd ar brosiectau'r amgylchedd adeiledig ac yn gwerthuso cyflenwad ynni adnewyddadwy, storio ynni a thechnolegau lleihau'r galw am ynni i greu amgylchedd carbon isel fforddiadwy y gellir ei atgynhyrchu.

Mae'r datblygiadau Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer bellach wedi'u cwblhau yn natblygiad Parc yr Helyg yng Ngellifedw (Medi 2020) a Cham 2 yn Colliers Way, datblygiad Penplas (Ebrill 2021). Mae disgwyl i ddatblygiad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer Hill View Crescent/Beacons View Road gael ei gwblhau erbyn dechrau 2022. Mae disgwyl i'r datblygiad Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer safonol diweddaraf ddechrau yn West Cross.

Yn ogystal, mae Cyngor Abertawe wedi ôl-osod sawl byngalo safon Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Ffordd Ellen, Craig-cefn-parc y maent hefyd yn cael eu monitro gan Ysgol Pensaernïaeth Cymru.

6.3 System Gwresogi Ardal

Dangosodd yr astudiaeth ymgynghorol ddiweddaraf o 2018 fod cyfle i Gyngor Abertawe sicrhau rhwydwaith System Gwresogi Ardal dichonadwy yng nghanol y ddinas, ond ni fyddai hyn heb gost na risg. Mae'r opsiynau ar gyfer darparu yn cynnwys model sy'n eiddo i Gyngor Abertawe ac sy'n cael ei weithredu drwy Gyfrwng at Ddibenion Arbennig (SPV), neu bartneriaeth menter ar y cyd â'r sector preifat i leihau'r risg (a'r enillion).Rhagdybiwyd y byddai rhai adeiladau yng nghanol y ddinas yn cysylltu â'r rhwydwaith ac y gallai'r costau adeiladu o £11.5m (ac eithrio chwyddiant a ffioedd ond gan gynnwys arian wrth gefn o 30%) ddenu elw o 8.2% dros gyfnod o 20 mlynedd. Mae'r risgiau'n ymwneud â galw ynni is na'r disgwyl, taliadau/tariffau gwres is, refeniw ychwanegol is a chostau cyfalaf a gweithredu uwch, a byddai pob un o'r rhain yn effeithio'n negyddol ar y gyfradd enillion fewnol. Gan mai'r risg fwyaf o blith y risgiau hyn yw galw, dylid nodi bod 55% o'r galw am ynni wedi dod o dri o'n safleoedd datblygu (Cam 1 Bae Copr, yr Hwylbont, a'r Ganolfan Ddinesig). Hyd yma dim ond Bae Copr sydd wedi'i ddatblygu, nid yw'r ddau arall wedi'u datblygu eto.

Nid oedd amserlenni cynnig rhwydwaith y System Gwresogi Ardal a datblygiad Bae Copr yn cyd-fynd â'i gilydd yn ddigon i'w cynnwys yng nghynllun Bae Copr. Rhoddwyd ystyriaeth i osod pibellwaith ar draws Oystermouth Road yn ystod cam adeiladu Bae Copr y gellid ei ddefnyddio yn y dyfodol ar gyfer pibellau rhwydwaith ardal. Yn anffodus, oherwydd natur adeiladwaith y ffordd, lleoliad y gwasanaethau tanddaearol presennol a'r cymhlethdodau ychwanegol oherwydd maint y ffosydd a materion logistaidd gyda chau'r briffordd ac ystyriaethau sŵn, nid oedd unrhyw fudd o osod y pibellwaith yn ystod gwaith adeiladu Bae Copr. Fodd bynnag, nid yw hynny'n atal y datblygiad rhag cysylltu â rhwydwaith gwres yn y dyfodol,. Gallai'r atebion gwresogi a osodwyd ym Mae Copr gysylltu â rhwydwaith gwres o'r fath pe bai un yn cael ei sefydlu.

6.4 Cynlluniau solar ffotofoltäig - Cynllun Ynni a Menter Gymunedol Abertawe (SCEES) a Chwmni Cydweithredol EGNI / AWEL

Mae'r cynlluniau hyn yn archwilio sut mae pobl leol yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Abertawe'n economaidd yn gallu elwa o brosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol. Maent wedi gosod systemau solar ffotofoltäig ar nifer o ysgolion yn Abertawe, ac amcangyfrifir bod cyfanswm y trydan adnewyddadwy a gynhyrchir yn 946,211 kWh y flwyddyn (gan dybio bod ysgolion yn defnyddio 85% o ynni solar ffotofoltäig, mae hyn yn cyfateb i 804,279kWh y flwyddyn ar gyfraddau trydan corfforaethol (£ 0.13/kWh), sef arbedion ariannol amcangyfrifedig o £104,000).

Fel rhan o gynnig solar ffotofoltäig cwmni cydweithredol EGNI i Gyngor Abertawe, maent wedi partneru â'r elusen 'Energy Sparks' i ddarparu rhaglenni delweddu data addysgol ac ynni i sawl ysgol yn Abertawe. Gan weithio ar y cyd â Gwasanaethau Addysg a Chlybiau ECO-ysgolion, bydd Energy Sparks yn cynnig mynediad i'w meddalwedd dadansoddi ynni ar-lein i fonitro data mesuryddion clyfar yr ysgolion i nodi arbedion ynni ac ariannol, ynghyd â gostyngiadau allyriadau carbon. Bydd y feddalwedd hefyd yn dangos y genhedlaeth ddata solar ffotofoltäig o system ffotofoltäig cwmni cydweithredol Egni. Mae'r rhaglen yn cynnwys rhestr helaeth o weithgareddau ynni adeiledig a chynlluniau gwersi wedi'u categoreiddio yn ôl lefel addysg (cyfnod allweddol); pwnc (Gwyddoniaeth) a phwnc (Newid yn yr Hinsawdd)

6.5. Bargen Ddinesig Abertawe

Mae Bargen Ddinesig Bae Abertawe yn fuddsoddiad o £1.3bn mewn 9 prosiect pwysig ar draws Dinas-ranbarth Bae Abertawe - sy'n cynnwys Sir Gâr, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro ac Abertawe ynghyd â Byrddau Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Hywel Dda, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a phartneriaid yn y sector preifat. Ariennir y Fargen Ddinesig, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes prosiectau, gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru, y sector cyhoeddus a'r sector preifat. Dros y 15 mlynedd nesaf, bydd y Fargen Ddinas yn rhoi hwb o £1.8bn i'r economi ranbarthol ac yn cynhyrchu bron 10,000 o swyddi newydd o ansawdd uchel. Mae arena newydd Abertawe yn rhan o gynllun trawsnewid Cam Un Abertawe Ganolog gwerth £135m sy'n cynnwys bron 1,000 o leoedd parcio. Bydd croen allanol yr arena'n cael ei orchuddio gan ddegau ar filoedd o oleuadau LED. Disgwylir iddi agor yn 2021/22.

6.6. Yn ogystal, mae Cyngor Abertawe wedi cydweithredu â Llywodraeth Cymru a phartneriaid Dinas-ranbarth Bae Abertawe i 'ddrafftio' cynllun Strategaeth Ynni Ranbarthol ar gyfer De-orllewin Cymru a gaiff ei gwblhau erbyn diwedd 2021.

6.7 Hyrwyddo ymgyrchoedd a rhaglenni Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gynyddu effeithlonrwydd ynni tenantiaid preifat a pherchnogion tai, lleihau tlodi tanwydd a lleihau allyriadau.

6.8 Cafodd y Morlyn Llanw Eden Las ei lansio'n ffurfiol yn Hydref 2021, ynghyd â chynlluniau ynni adnewyddadwy eraill sy'n eiddo i'r gymuned, fel SCEES, i ddarparu ynni glân a bod o fudd i ysgolion lleol ac adeiladau cymunedol. Amcangyfrifir y gall y morlyn yn unig gynhyrchu 504,854 MWh o drydan, sy'n cyfateb i arbedion allyriadau carbon o 94,913 mT CO2e.

6.9 Gweithio gydag eraill yn genedlaethol i annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu isadeiledd gwefru ceir trydan. 

6.10 Bod yn arweinwyr arfer da yng Nghymru drwy gael polisïau ac ymagweddau Datblygu Cynaliadwyr o'r cyfnod cyn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

6.11 Adeiladu'r tai cyngor cyntaf ers cenhedlaeth yma yn Abertawe at safon hynod ynni effeithlon Safon Abertawe a fydd yn galluogi i'r holl elfennau gael eu sicrhau'n lleol a lleihau allyriadau drwy storio ynni solar mewn batris a defnyddio pympiau o'r ddaear.

6.12 Bod yn arloesol wrth adeiladu prosiectau blaenllaw fel Ysgol Pentrehafod, arddangos lleihau gwastraff a chynaladwyedd.

6.13 Ennill buddsoddiad ar gyfer technoleg werdd arloesol, fel "Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer" fel rhan o Fargen Ddinesig y Dinas-ranbarth.

6.14 Sicrhau cyllideb ar gyfer cynnydd anferth mewn llwybrau Teithio Llesol (cerdded a beicio) drwy'r sir a chefnogi cynllun beicio cymunedol Prifysgol Abertawe.

6.15 Gweithredu gweithio ystwyth fel y gall ein gweithlu leihau teithio diangen.

6.16 Developing local procurement practices to reduce carbon footprint.

6.17 O ran addysg, mae Abertawe wedi ymuno â rhaglenni Eco-Ysgolion rhyngwladol yn ddiweddar sy'n annog ysgolion i hyrwyddo ailgylchu a lleihau'r defnydd o ynni a dŵr.

6.18 Annog disgyblion Cyfnod Sylfaen i ddysgu yn yr awyr agored gan sicrhau parch at natur, bioamrywiaeth ac ecosystemau.

6.19 Yng Nghyfnod Allweddol 4, datblygu partneriaethau â'n prifysgolion i sefydlu gweithdai STEM gan gynnwys effaith newid yn yr hinsawdd.

6.20 Cynnwys gofalu am yr amgylchedd naturiol yn y Cynllun Corfforaethol yn ddiweddar fel blaenoriaeth newydd, gan gydnabod cyfraniad hynod bwysig ein Tîm Cadwraeth Natur drwy'r gwaith helaeth a wneir ganddynt.

6.21 Gweithio gyda Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Abertawe i wella gwasanaethau lleol. Y pedwar aelod statudol o'r Bwrdd yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe, Cyfoeth Naturiol Cymru, y Gwasanaeth Tân ac Achub a'r cyngor a fydd yn parhau i weithio ar y cyd i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol lleol fel y nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. O ran hyn bydd y ffocws ar Gymru Werddach.

6.22 Mae 21,053 o oleuadau stryd wedi'u huwchraddio i rai LED, ynghyd â gosod system reoli ganolog CityTouch a gomisiynwyd i reoli allbwn golau stryd o amgylch ffordd gylchol Abertawe (arbedion ariannol a charbon).

6.23 Gosodwyd mannau gwefru cerbydau trydan ym meysydd parcio'r cyngor. Mae cyfanswm o 16 man gwefru deuol wedi'u gosod, sy'n gwasanaethu 32 o gilfachau gwefru ceir trydan. Ac eithrio'r ddau safle Parcio a Theithio, mae'r mannau gwefru'n gallu darparu gwefru 'cyflym' 22kW. Mae safleoedd Parcio a Theithio'n cynnwys mannau gwefru 7-22kW (mae hyn yn dibynnu ar faint o gerbydau sy'n cael eu gwefru ar yr un pryd). Mae pob man gwefru yn darparu 100% o drydan adnewyddadwy i ddefnyddwyr. Gall defnyddwyr ddefnyddio'r mannau gwefru drwy ddefnyddio ap neu drwy ffonio llinell gwasanaeth cwsmeriaid (ddwyieithog) sydd ar gael 24/7. 

6.24 Teithio llesol. Mae hyd y rhwydwaith cyfan wedi cynyddu 25% yn ystod y tair blynedd diwethaf, gyda thros £12 miliwn wedi'i fuddsoddi mewn isadeiledd teithio llesol. O'r 72,000 o aelwydydd yn Abertawe, mae 60% bellach yn byw o fewn 500m i lwybr beicio penodol oddi ar y ffordd.

7.0 Cyngor Abertawe Carbon Sero Net erbyn 2030

Mae Cyngor Abertawe yn monitro'i allyriadau ac yn rhoi adroddiad blynyddol amdano i Lywodraeth Cymru. Mae'n cymryd pob cam posib i gyflawni sero net fel y dangosir yn y cynllun gweithredu:

Cyngor Abertawe Carbon Sero Net erbyn 2030
Adeiladau ac YnniY cerbydlu ac Offer SymudolDefnydd Tir
  • Datgarboneiddio ein hystâd gyhoeddus drwy adolygu ein strategaeth rheoli asedau.
  • Lleihau'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio ar draws adeiladau ac ystâd y cyngor.
  • Annog newid ymddygiad gweithwyr drwy hyfforddiant a gwella prosesau.
  • Datgarboneiddio goleuadau stryd drwy ddefnyddio mwy o oleuadau LED.
  • Sicrhau bod pob adeilad newydd yn cael ei adeiladu i'r safonau cynaladwyedd uchaf posib.
  • Newid cerbydlu masnachol ysgafn y cyngor i gerbydau heb allyriadau erbyn 2025, a newid cerbydau eraill erbyn 2050 yn unol â disgwyliad Llywodraeth Cymru.
  • Sefydlu isadeiledd gwerfru cerbydau ar gyfer y cerbydlu sy'n cefnogi'r newid hwn.
  • Manteisio i'r eithaf ar y defnydd o'r cerbydlu a'i effeithlonrwydd.
  • Sefydlu systemau data integredig ar gyfer mesur nwyon tŷ gwydr.
  • Adolygu a chymeradwyo'r polisïau, y gweithdrefnau a'r arferion gwaith ategol priodol.
  • Datgarboneiddio'r Cerbydlu Llwyd.
  • Datgarboneiddio peiriannau ac offer symudol.
  • Polisi'r CDLl wedi'i adolygu i ddiogelu priddoedd, tir a chynefinoedd sy'n llawn carbon.
  • Cynyddu isadeiledd gwyrdd ardal ganolog ddaearyddol i 26%.
  • Ardaloedd plannu coed wedi'u mapio ar draws y sir. Miloedd o goed newydd wedi'u plannu.
  • 30% o safleoedd gwarchodedig (gwarchodfeydd natur lleol, etc.) yn cael eu rheoli'n gadarnhaol ar gyfer bioamrywiaeth.
GwastraffFfyrdd newydd o weithioCadwyn gyflenwi
  • Annog gwerthoedd economi gylchol yng Nghyngor Abertawe - i leihau ac atal - arbed, ailddefnyddio, ailgylchu.
  • Lleihau plastigion untro gweithredol lle bynnag y bo modd.
  • Lleihau gwastraff gweithredol e.e. bwyd, papur.
  • Annog ailgylchu ac atgyweirio gweithredol.
  • Lleihau gwastraff adeiladu.
  • Datblygu prosesau monitro data allyriadau.
  • Lleihau milltiroedd cymudo.
  • Cyflawni polisi gweithio ystwyth.
  • Datblygu cynllun teithio llesol i staff.
  • Gweithredu Siarter Teithio Iach yng Nghyngor Abertawe.
  • Datblygu Strategaeth Gwefru Cerbyndau Trydan.
  • Ymrwymo i Garbon Sero Net yn ein cadwyn gyflenwi erbyn 2050.
  • Drwy flaengynllunio ac arloesi, datblygu manylebau newydd ar gyfer ein conractau sy'n darparu Carbon Sero Net.
  • Mapio a monitro ein cynnydd, gyda blaenoriaethu a gosod targedau priodol.

 

Fel mae'r strwythur llywodraethu'n awgrymu, mae 8 maes hanfodol o'r awdurdod yn gweithio ar eu cynlluniau gweithredu er mwyn cyflawni targedau 2030 a 2050.

i. Strategaeth Ynni

Mae Cyngor Abertawe'n cydnabod ac yn deall pwysigrwydd rheoli ynni a charbon yn effeithiol a goblygiadau a risgiau newid yn yr hinsawdd, costau ynni cynyddol a chadw ffynonellau ynni cyfyngedig. Mae cadw'n hamgylchedd naturiol ar lefel ranbarthol a chenedlaethol a diogelu lles ein cymunedau ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn un o nodau hanfodol yr Awdurdod.

Datblygwyd y cynllun Strategol Rheoli Ynni a Charbon o fewn y cyd-destun hwn. Mae'r Cynllun Rheoli Ynni a Charbon yn darparu ymagwedd gydlynol a fydd yn nodi ac yn dadansoddi allyriadau ynni a charbon o ddarparu gwasanaethau gweithredol yr awdurdod a bydd yn:

  • Darparu rhaglen hollgynhwysfawr a fydd yn cysoni ac yn integreiddio'r holl ddeddfwriaethau a pholisïau sy'n ymwneud ag ynni, rheoli carbon a newid yn yr hinsawdd.
  • Diffinio'n glir uchelgais strategol a bwriad Cyngor Abertawe ar gyfer mynd i'r afael â rheoli ynni a charbon.
  • Mesur allyriadau carbon sylfaenol yr awdurdod o'i weithgareddau eiddo gwasanaeth.
  • Nodi a gwerthuso prosiectau arbed ynni tuag at leihau costau ynni. 
  • Nodi a gwerthuso prosiectau arbed ynni tuag at leihau costau ynni.
  • Addasadwy i ofynion adrodd Carbon Sero Net newydd Llywodraeth Cymru.
  • Addasu ffordd carbon isel / technoleg adnewyddadwy o weithio, gan leihau'r ddibyniaeth ar gyflenwadau ynni confensiynol.

ii. Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd

Mae'r strategaeth hon, a fabwysiadwyd ym mis Chwefror 2021, yn ystyried sut y gellir cynyddu isadeiledd gwyrdd yn ardal ganolog Abertawe er mwyn ei addasu'n well i newid yn yr hinsawdd ac yn well i bobl a bywyd gwyllt. Mae isadeiledd gwyrdd yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio'r holl fannau gwyrdd, pridd, llystyfiant a dŵr (yn amrywio o barciau i erddi to) sy'n darparu'r gwasanaethau ecosystem sy'n gwneud ein dinasoedd yn lleoedd y mae modd byw ynddynt. 

Mae'r strategaeth hefyd yn nodi'r weledigaeth i ganol Abertawe fod yn wyrddach o lawer, gan greu mannau gwyrdd a defnyddio cyfuniad o nodweddion ar lefel y stryd megis coed stryd a gerddi glaw yn ogystal â llystyfiant ar adeiladau, gan gynnwys toeau a waliau gwyrdd. Y bwriad yw dyblu maint yr isadeiledd gwyrdd (ac eithrio dŵr agored) o fewn 10 mlynedd.

Y ffocws yw creu rhwydwaith isadeiledd gwyrdd, sy'n canolbwyntio ar Wythïen Werdd a fydd yn cysylltu Gorsaf Abertawe yn y gogledd, â'r traeth a'r marina yn y de a'r ardal ehangach, drwy fannau gwyrdd gwell sy'n bodoli eisoes gan gynnwys mynwentydd eglwysi a Sgwâr y Castell. Bydd isadeiledd gwyrdd yn cael ei gynllunio a'i ddylunio i fod yn amlweithredol gydag ymagwedd bartneriaeth yn rhan o hyn, gan ddefnyddio atebion arloesol, gan gynnwys Canllawiau Cynllunio Atodol ar gyfer isadeiledd gwyrdd ac offeryn Ffactor Lle Gwyrdd (GSF). Mae Cyngor Abertawe wedi ymrwymo i ddefnyddo'r offeryn Ffactor Lle Gwyrdd a ddyluniwyd ar gyfer Ardal Ganolog Abertawe, fel ffordd o fesur maint ac ymarferoldeb mannau gwyrdd mewn datblygiad.

Mae gwaith bellach yn mynd rhagddo ar ddatblygu Strategaeth Isadeiledd Gwyrdd sirol.

iii. Cynllun Bioamrywiaeth Lleol

Mae hyrwyddo Amgylchedd Naturiol Abertawe yn strategaeth ac yn gynllun gweithredu ar gyfer diogelu, rheoli, gwella a hyrwyddo amgylchedd naturiol a bioamrywiaeth eithriadol Abertawe. Mae'n amlinellu nifer o gamau strategol sy'n ofynnol ar gyfer gwarchod yr adnodd bioamrywiaeth ehangach ynghyd â chyfres o gamau gweithredu manwl ar gyfer diogelu cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth.

Mae tair rhan allweddol i'r Strategaeth a'r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth Leol (LBAP):

Rhan 1 - Strategaeth

Mae'r rhan hon yn darparu cefndir i'r broses o gynllunio camau bioamrywiaeth ac yn nodi materion allweddol sy'n effeithio ar fioamrywiaeth yn Abertawe a blaenoriaethau ar gyfer gwaith yn y dyfodol. Mae'n cynnig nifer o gamau eang i gyflawni'r blaenoriaethau hyn, ac yn amlinellu gweithdrefnau ar gyfer mesur cynnydd.

Rhan 2 - Archwilio

Mae'r rhan hon yn rhoi trosolwg o adnodd bioamrywiaeth Abertawe ac mae'n cynnwys gwybodaeth am gynefinoedd a rhywogaethau gwarchodedig sy'n bresennol yn y sir, ynghyd â chynigion drafft ar gyfer adnabod rhwydwaith o Safleoedd o Bwysigrwydd Cadwraeth Natur anstatudol neu ddarpar SBCNau.

Rhan 3 - Cynlluniau gweithredu cynefinoedd a rhywogaethau

Mae'r rhan hon yn darparu cynlluniau gweithredu manwl ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau â blaenoriaeth yn y sir yn unol â Chanllawiau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cynulliad Cymru. Ar yr adeg argraffu, mae 23 o Gynlluniau Gweithredu ar gyfer Cynefinoedd (HAP) a 98 o Gynlluniau Gweithredu ar gyfer Rhywogaethau (SAP) wedi'u cynnwys. Mae cynlluniau i ychwanegu HAP a SAP ychwanegol maes o law.

Bydd y Cynllun Bioamrywiaeth Lleol yn cael ei ddisodli gan y Cynllun Adfer Natur Lleol ar ôl iddo gael ei fabwysiadu. Bydd Cynllun Gweithredu Adran 6 y cyngor ar gyfer 2023-2025 yn rhan o'r Cynllun Adfer Natur Lleol. Wrth gydymffurfio ag Adran 6 (Dyletswydd Bioamrywiaeth) dan ddarpariaethau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, mae'n ofynnol i'r cyngor baratoi a chyflwyno adroddiad i Lywodraeth Cymru bob 3 blynedd, (Adroddiad Monitro Adran 6) sy'n amlinellu'r hyn a wnaed i gydymffurfio â'r Ddyletswydd Bioamrywiaeth. Mae disgwyl i adroddiad diweddaraf y cyngor gael ei gyflwyno ym mis Rhagfyr 2022.

Yn ogystal, mabwysiadwyd Canllawiau Cynllunio Atodol 'Bioamrywiaeth a Datblygu' (CCA) ym mis Chwefror 2021. Mae'r CCA yn canolbwyntio'n benodol ar sut y bydd y cyngor yn dilyn 'ymagwedd fesul cam' at weithredu'r ddyletswydd bioamrywiaeth drwy ei broses gwneud penderfyniadau cynllunio ei hun. Bydd yn integreiddio mwy o rwymedigaethau ynghylch bioamrywiaeth gyda rhai datblygiadau mawr yn cael eu cymeradwyo yn amodol ar gytundebau Adran 106 yn darparu cyfraniadau ariannol tuag at fesurau lliniaru ymarferol ar / oddi ar y safle a / neu fesurau digolledu yn erbyn colli bioamrywiaeth ac i gefnogi cytundebau cynnal a chadw.

iv. Cynllun Datblygu Lleol

Mae Cynllun 2010-2025 yn darparu fframwaith cynllunio clir sy'n mynd i'r afael â heriau allweddol sy'n wynebu'r Sir, ac yn darparu sicrwydd a'r sail ar gyfer penderfyniadau cynllunio effeithiol. Bydd y polisïau a'r cynigion ynddo yn galluogi cyflwyno datblygu cynaliadwy, ac yn sicrhau bod y datblygiad cywir yn y man cywir.

Yn sail i'r Cynllun hwn ceir sylfaen dystiolaeth helaeth a chyfoes sydd, ar y cyd â thrafodaeth eang gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid yr ymgymerwyd â hi wrth baratoi'r Cynllun, wedi nodi cyfleoedd allweddol, gofynion defnydd tir, a materion i'r Sir dros gyfnod y Cynllun.

Mabwysiadwyd CCA Coed, Gwrychoedd a Choetiroedd ym mis Hydref 2021. Mae'r ddogfen hon yn darparu arweiniad ar sut y dylid rhoi polisïau perthnasol y CDLl ar waith ar gyfer ceisiadau cynllunio mewn perthynas â'r holl goed, gwrychoedd a choetiroedd sydd eisoes yn bodoli, rhai cadwedig neu sydd newydd eu plannu ar safleoedd datblygu. Mae'r gofyniad am gadw a gwella bioamrywiaeth hefyd wedi'i gynnwys yn y CCAau canlynol a fabwysiadwyd yn 2021: 

  • Canllaw Dylunio AoHNE Gŵyr
  • Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Preswyl
  • Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Mewnlenwi a Thir Cefn
  • Canllawiau Creu Lleoedd ar gyfer Datblygiadau Deiliaid Tai

Mae pob un ar gael i'w weld.

v. Strategaeth caffael

Mae gweithgarwch caffael Cyngor Abertawe'n seiliedig ar fanteisio i'r eithaf ar y buddion economaidd, cymdeithasol a diwylliannol y gellir eu cael o brynu ynni. Gellir ystyried gwerth gorau fel y cyfuniad gorau posib o gostau oes gyfan o ran cynhyrchu arbedion a chanlyniadau o ansawdd da i'r sefydliad a hefyd o ran budd i gymdeithas a'r economi.

Mae gweithgarwch caffael yn ydrechu i gyflawni nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol drwy ymagwedd gyfannol at ymdrin â phrosesau caffael a chan gynnwys, lle bo'n berthnasol, ddarpariaethau penodol yn y dogfennau caffael. Mae ymrwymiad i geisio sichau bod uchelgeisiau lleihau carbon sy'n sail i'r egwyddor datblygu cynaliadwy yn cael euhintegreiddio o fewn arferion caffael fel y bo'n briodol. 

vi. Strategaeth Trafnidiaeth Gynaliadwy

Mae llawer iawn o waith cadarnhaol wedi'i wneud yn y maes hwn hyd yn hyn gyda'r holl weithgarwch yn dod yn rhan o'r strategaeth hollgynhwysfawr hon. Mae hyn yn cynnwys sut mae'r cyngor yn ymdrin â'i gerbydlu, y cerbydlu llwyd (milltirdd personol gweithwyr), ei allyriadau o oleuadau stryd, hyrwyddo teithio llesol yn barhaus a datblygu system cludiant cyhoeddus gynaliadwy leol a rhanbarthol.

Mae rhai manylion yn cynnwys:

  • Parhau i gynllunio ar gyfer y rhwydwaith teithio llesol a'i wella. Adnewyddu'r mapiau Teithio Llesol presennol ac ymgynghori ar lwybrau newydd posib i'w datblygu, drwy Fap Rhwydwiath Teithio Lleso newydd yn 2021. 
  • Cynyddu lefelau teithio llesol drwy hyrwyddo, ymgysylltu ac annog teithio llesol ymhlith y cyhoedd, busnesau, cymunedau a sefydliadau addysgol, drwy ymgyrch newid ymddygiad, Llwybrau Bae Abertawe. 
  • Cyflwyno rhagor o isadeiledd gwefru cebydau trydan.
  • Parhau i ddarparu gostyngiad o 5% o flwyddyn i flwyddyn yn allyriadau cerbydlu'r cyngor drwy ei strategaeth cerbydlu gwyrdd.
  • Bydd datblygu strategaeth cerbyd allyriadau isel iawn yn cefnogi gostyngiadau pellach mewn allyriadau. Bydd taredau'n cynyddu'n raddol dros amser hyd at 10% y flwyddyn i gydfynd â datblygiadau technolegol yn y blynyddoedd nesaf.
  • Ceisio ymgorffori'r gostyngiadau ym milltiredd y cerbydlu llwyd a gyflawnodd 50% ac 1 miliwn o filltiroedd yn llai yn 2020/21 hyd yma.
  • Metro De-Orllewin Cymru - Parhau i ddatblygu achosion busnes am fuddsoddiad mewn prosiectau teithio, bysiau a threnau llesol ar draws y rhanbarth. 
  • Ymchwilio i ddewisiadau cludiant cyhoeddus allyriadau isel eraill drwy weithio gyda phartneriaid fel Trafnidiaeth Cymru a First Cymru i gadarnhau sut y gellid lleihau allyriadau cerbydau yn y dyfodol. 

vii. Strategaeth Gwastraff

Mae strategaeth bresennol y cyngor yn cydfynd â thargedau ailgylchu Llywodraeth Cymru sef lefelau ailgylchu o 64% erbyn 19/20 a llwyddodd Abertawe i gyflawni hyn. Bydd y targed hwn yn cynyddu i 70% yn 24/25 ac mae'r cyngor yn adolygu'i opsiynau i gyflawni'r lefelau cynyddol hyn.

Yn y cyfamser, fel rhan o'r cynllun newid yn yr hinsawdd cyffredinol, bydd yn datblygu Strategaeth Gwastraff newydd y bydd yn ceisio sicrhau ei bod yn cyd-fynd â chynlluniau hollgynhwysfawr llywodraeth Cymru dros y 12 - 18 mis nesaf.

viii. Strategaeth Tai (Datgarboneiddio)

Yn dilyn cyhoeddi'r adroddiad Cartrefi Gwell, Cymru Well, Byd Gwell (BHBWBW), aeth Llywodraeth Cymru ati i sefydlu gweithgor ar gyfer Ysgol Pensaernïaeth Cymru (YPC) a landlordiaid cymdeithasol dethol i ddatblygu targedau datgarboneiddio ymhellach a pharatoi canllawiau ar gyfer landlordiaid cymdeithasol ar ddatarboneiddio'u stoc dai.

Mae swyddogion y Gwasanaeth Tai wedi bod yn rhan o'r gwaith i ddatblygu'r ddogfen astudio ac felly maent yn cael eu cynnwys mewn cyfarfodydd diweddaru rheolaidd gyda Thîm Datgarboneiddio Llywodraeth Cymru ac academyddion o YPC am y datblygiadau diweddaraf.

Mae Llywodraeth Cmru o'r farn y gellir cyflawni rhaglen ddagarboneiddio ôl-osod fel estyniad i Raglen Ansawdd Tai bresennol Cymru sydd i'w chwblhau erbyn diwedd 2020. Bydd y rhaglen SATC ddiwygiedig a fydd yn cychwyn ym mis Ebrill 2021 yn gosod targed i gyrraedd TPY A/SAP 92 i 231,000 o eiddo cymdeithasol erbyn 2030, sef bron 17% o'r holl stoc dai yng Nghymru.

Y cam nesaf i Abertawe fydd datblygu Strategaeth Datgarboneiddio hirdymor ochr yn ochr â'r gwaith rhagorol sydd eisoes yn cael ei wneud. Mae enghreifftiau'n cynnwys y canlynol:

Mae Cartrefi Newydd 'Safon Abertawe' yn cael eu datblygu ar hyn o bryd fel Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer ym Mharc yr Helyg, Gellifedw, Colliers Way, Datblygiad Penplas 1 a 2 a Hillview Crescent, Y Clâs. Ni fydd gan y cartrefi hyn gyflenwad nwy traddodiadol, ond byddant yn cynhyrchu ac yn storio ynni ac yna'i ryddhau i greu eu trydan eu hunain.

Cartrefi fel Gorsafoedd Pŵer (HAPS): Mae'r Cyngor wedi ôl-osod a thrawsnewid 6 byngalo sy'n Gartrefi fel Gorsafoedd Pŵer yn Ffordd Ellen, Craig-cefn-parc sy'n cynnwys inswleiddio waliau allanol, pympiau gwres o'r ddaear, systemau adfer gwres drwy awyru mecanyddol, toeau solar PV a storfeydd bartis Tesla.

8. Carbon Sero Net Ledled y Ddinas a'r Sir erbyn 2050 

Bydd holl weithgarwch Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a ffyrdd o weithio, blaenoriaethau'r Cynllun Corfforaethol a chamau gweithredu'r Cynllun Cydraddoldeb Strategol yn sail i'r gwaith hwn.

  1. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 - Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gosod dyletswydd ar y Cyngor i gynnal datblygiad cynaliadwy gan wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol. Mae'n nodi pum ffordd o weithio'r egwyddor datblygu cynaliadwy a'r saith nod llesiant cenedlaethol.
  2. Cynllun Hawliau Dynol a Chydraddoldeb Strategol - Mae hwn yn nodi sut mae'r cyngor yn sicrhau ei fod yn gwneud pob ymdrech i barchu hawliau plant, hyrwyddo byw'n iach, helpu i fynd i'r afael â thlodi a chwarae ei ran wrth drin pobl a chymunedau'n decach, gydag urddas a pharch. Mae'n hybu cyfleoedd cyfartal i bawb, gan wneud gwahaniaaeth gwirioneddol i fywydau'r rheini sy'n byw ac yn gweithio yn Abertawe.
  3. Cynllun gwella corfforaethol - Mae hwn yn manylu ar sut y bydd y cyngor yn gwella lles yn ymarferol. Mae'n nodi blaenoriaethau ar gyfer gweithredu mewn chwe amcan lles a'r camau i'w cyflawni yn unol â'r egwyddor datblygu gynaliadwy.

Mae Cyngor Abertawe yn cymryd yr holl gamau gweithredu posib, gan weithio ochr yn ochr â llofnodwyr y Siarter Hinsawdd, BGC, dinasyddion, ysgolion, busnesau, grwpiau cymundol a phartneriaid amgylcheddol i helpu i gyflawni uchelgais Llywodraeth Cymru o gael Cymru Sero Net erbyn 2050.

Llywodraeth Cymru o gael Cymru Sero Net erbyn 2050
Cynhyrchu Trydan a GwresCludiantAdeiladau Preswyl
  • Cwblahu cam cyntaf y prosiect Eden Las
  • Datblygu Parciau Ynni, er enghraifft Fferm Solar Tir John
  • Cefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Rhanbarthol
  • Cefnogi cyflwyno Cynllun Ynni Ardal Leol
  • System cludiant cyhoeddus integredig a fforddiadwyr
  • Rhwydweithiau teithio llesol diogel ar draws y sir i gydnabod hybiau gwaith a hamdden.
  • Mwy o bwyntiau gwefru cerbyndau trydan
  • Preswylwyr yn ymwybodol o gyngor a chyllid ar gyfer gwelliannau yn y cartref i dorri allyriadau carbon ac yn gallu cael mynediad atynt
  • Mwy o gartrefi wedi'u hadeiladu i Safon Abertawe.
  • Datgarboneiddio'r stoc dai.
  • Creu canlfan ymwybyddiaeth Ynni.
  • Anelu at sicrhau bod 30% o adeiladau'r cyngor (amhreswyl) yn cynnwys nodweddion bywyd gwyllt.
Diwydiant a BusnesAmaeathyddolGwastraff a'r Economi Gylcohol
  • Ymgysylltu ar draws y sir gan ddefnyddio brandio 'Swansea Project Zero' gyda rhwydwaith cefnogaeth cryf sy'n ennyn balcher ac yn creu màs critigol o fusnesau sy'n mynd ati i dorri allyriadau carbon a chymryd rhan yn yr economi gylchol.
  • Mwy o gyfleoedd i gynhyrchu a gwerthu bwyd iach a lleol.
  • Cyrraedd targedau ailgylchu Llywodraeth Cymru.
  • Hyrwyddo'r hierarchaeth wastraff ac atal, lleihau, neu ailddefnyddio deunyddiau lle bynnag y bo'n ymarferol.
  • Parhau i fonitro technolegau ac ymgysylltu â phartneriaid i ailgylchu ystod ehangach o fathau o ddeunydd gwastraff.
  • Hyrwyddo Sir Abertawe Ddi-blastig.
Addysg ac YmgysylltuCyfoethogi ein Hadnoddau NaturiolDefnydd Tir, Newid Defnydd Tir a Choedwigaeth
  • Ymgysylltu ledled y sir gan ddefnyddio brandio 'Swansea Zero Project' i ennyn balchder a chreu màs critigol.
  • Pob ysgol yn mynd ati i leihau ei charbon ac arbed ynni drwy newid ymddygiad a mentrau addysgol.
  • Cydweithio â Grwpiau Ieuenctid i sicrhau bod 'llais ieuenctid' yn cael ei glywed.
  • Partneriaid Prosiectau Amgylcheddol yn rhedeg prosiectau'n llwyddiannus ar ran Cyngor Abertawe ac yn ymgysylltu'n weithredol â dinasyddion a grwpiau cymunedol i gynyddu cadernid hinsawdd cymunedol a lleihau allyriadau carbon cymunedol.
  • Pob aelod o staff Cyngor Abertawe i gael hyfforddiant ar newid yn yr hinsawdd ac adfer natur fel rhan o'i gyfnod sefydlu gyda hyfforddiant penodol ar gael ar gyfer y swydd / maes gwasanaeth.
  • Cyflawni Cynllun Gweithredu Adfer Natur Ardal Leol.
  • Cyflawni Cynllun Bioamrywiaeth / Adran 6.
  • Cyflawni strategaeth isadeiledd gwyrdd ledled y sir.
  • Mwy o dir ar gael ar gyfer Amaethyddiaeth â Chymorth a'r defnydd o randiroedd.
  • Mwy o berllannau cymunedol.

Rhaid i bob gweithgaredd gyd-fynd i greu Strategaeth Newid yn yr Hinsawdd a Natur tymor hir a dangos yr ymrwymiad y gofynnwyd amdano yn yr Hysbysiad o Gynnig.

Mae llywodraethu'n cyfrif am y Gyfarwyddeb Ranbarthol, Gymreig, Genedlaethol ac Ewropeaidd ochr yn ochr â'r polisïau a'r strategaethau ychwanegol sy'n eistedd ar lefel y cyngor a fydd yn cefnogi cyflawni'r strategaethau.

Mae'r ymagwedd hon yn cyd-fynd ag addewid y cyngor i 'Weithredu mewn Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd' yn ei Gynllun Corfforaethol 2020-23, gan anelu at niwtralrwydd carbon erbyn 2030.

9. Cyfathrebu ac ymgysylltu enhangach

Caiff hyn ei sefydlu drwy amrywiaeth o lwybrau:

  • Siarter Abertawe: Mae Newid yn yr Hinsawdd a Gweithredu dros Natur yn sail i'r llwybry i Abertawe Sero Net.
  • Y nod yn y pen draw yw cyflawni Dinas a Sir Abertawe Sero Net 2050 (pob allyriad).
  • Un garreg filltir allweddol fydd Cyngor Abertawe Serio Net 2030 (o ran allyriadau cwmpas sefydliadol).
  • Mae busnesau, dinasyddion, y cyngor, y gymuned, partneriaid, llywodraeth, ieuenctid a'r sector gwirfoddol i gyd yn chwarae eu rhan. 'Mae'n fusnes i bawb.'

Bydd ymrwymiad parhaus i ymgysylltu â phobl, grwpiau a busnesau lleol a'u helpu i fod yn fwy craff a pharatoi'n well ar gyfer effeithiau newid yn yr hinsawdd ac adferiad byd natur. Bydd hyn yn cael ei wella drwy'r Siarter Hinsawdd a Natur a wal addewid arlein. 

Mae Cyngor Abertawe'n cydnabod bod yn rhaid iddo arwain drwy esiampl a defnyddio'i ddylanwad i gysylltu â phosib. Mae'r Arweinydd ac Aelodau'r Cabinet wedi llofnodi'r siarter, a bydd fersiwn fwy cyffredinol yn cael ei defnyddio ar gyfer dinasyddion a'r sector cyhoeddus, busnesau, elusennau, ysgolion, grwpiau etc., ochr yn ochr â'r wal addewid symlach fel dulliau i geisio cefnogaeth ehangach ar draws y ddinas a'r sir gyfan.

Bydd cynnwys partneriaid yn hollbwysig i lwyddiant, a bydd yn helpu i gefnogi uchelgais Cyngor Abertawe i arwain drwy esiampl. Bydd strategaethau cytunedig yn darparu strwythur a llywodraethu i sicrau cyflawni.

Wrth wrando ar grwpiau cymunedol a gweithredu ar yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud, bydd syniadau grwpiau ysgol yn helpu i lunio'r strategaeth. 

Bydd Cyngor Abertawe'n ymrwymo i wneud newidiadau tymor hir gwreiddiedig o ran ymddygiad drwy hyfforddiant a chefnogaeth, nid yn unig o fewn ei awdurdod ei hun ond hefyd ar draws y ddinas a'r sir, er lles pob dinesydd. Rydym am i bawb lunio gweledigaeth Abertawe ar gyfer dod yn garbon sero net.

Os byddwn ni i gyd yn gwneud newidiadau bach i'r ffordd yr ydym yn symud, yn siopa, yn bwyta, yn meddwl ac yn byw, gallwn wneud newidiadau ar raddfa enfawr.

Mae angen i fusnesau a chartrefi newid er mwyn lleihau allyriadau ac adfer byd natur. Rhaid i ni ddefnyddio mwy o ffynonellau ynni adnewyddadwy fel gwynt, solar a geothermol. Mae'n rhaid i ni hefyd newid sut rydym yn defnyddio ynni, drwy leihau faint o bŵer rydym yn ei ddefnyddio. Mae angen i ni fod yn fwy ystyriol o ffynonellau bwyd, y natur sydd o'n cwmpas, ei hadferiad a sut mae angen i'n cymunedau addasu ar gyfer y dyfodol.

Ni all Cyngor Abertawe gyflawni Abertawe carbon sero net ar ei ben ei hun. Mae angen i bawb yn Abertawe weithredu nawr ac ystyried yr hyn y gallant ei wneud i leihau eu heffaith ar y blaned. Mae angen i ni i gyd weithredu gartref, yn y gweithle, ac ar draws y sir gyfan.

Mae'r cyngor mewn sefyllfa dda i weithio gydag eraill. Gallwn wneud yn fawr o botensial cyfunol Abertawe a chreu atebion gyda'n gilydd. Bydd angen buddsoddiadau mawr. Bydd yn rhaid i ni wneud newidiadau i systemau sydd mewn bod o ran sut rydym yn defnyddio ac yn rhyngweithio ag ynni. Mae'n rhaid i ni newid sut rydym yn byw ein bywydau. Bydd yn rhaid i ni ailddiffinio sut rydym yn rheoli'n hamgylchedd ac yn rhyngweithio ag ef.

Yn anad dim, er mwyn ateb yr her hon, mae angen arweinyddiaeth gyfunol ac uchelgais ar y cyd.

 

Close Dewis iaith