Rwyf wedi derbyn PCN (Hysbysiad o Dâl Cosb) - beth ddylwn i ei wneud nesaf?
Os ydych wedi cael PCN mae hyn oherwydd nad ydych wedi ufuddhau i gyfyngiad parcio. Bydd yr union reswm ar y PCN, ynghyd â rhif unigryw y bydd ei angen arnoch pan fyddwch yn talu neu'n apelio.
Y peth gwaethaf y gallwch ei wneud yw anwybyddu PCN - NI FYDD yn diflannu a bydd yn costio mwy i chi.
- Terfynau amser pwysig
- Opsiwn 1 - talu'r PCN
- Opsiwn 2 - Herio'r PCN
- Rheswm am y PCN
- Cael cyngor annibynnol
Terfynau amser pwysig
- Os nad ydych yn talu neu'n herio'n anffurfiol o fewn 14 diwrnod byddwch yn dod yn atebol am ffi lawn y PCN (£70 neu £50), yn hytrach na chael gostyngiad o 50%.
- Os nad ydych yn talu'r ffi lawn (£70 neu £50) o fewn 28 niwrnod o dderbyn y PCN, anfonir hysbysiad i'r perchennog at y ceidwad cofrestredig a gofrestrir gyda'r DVLA.
- Ar ôl 28 niwrnod o'r diwrnod y byddwch yn derbyn yr hysbysiad i'r perchennog, os nad ydych wedi talu neu wneud sylwadau ffurfiol yna anfonir tystysgrif tâl atoch a bydd y tâl cosb yn cynyddu 50% arall (£105 neu £75). Os ydych yn derbyn tystysgrif tâl mae'n rhaid i chi dalu'r tâl o fewn 14 diwrnod. Nid oes hawl herio ar y cam hwn.
- Os nad ydych yn talu'r tâl o hyd, gellir ei gofrestru fel dyled yn y Llys Sirol ac eir ati i gasglu'r ddyled gan ddefnyddio beilïod. Bydd y beilïod yn codi tâl arnoch am hyn.
Opsiwn 1 - talu'r PCN
Talu PCN / dirwy barcio Talu PCN / dirwy barcio
Byddwch yn gymwys am ostyngiad o 50% os derbynnir y tâl ar gyfer y PCN o fewn 14 diwrnod o'r dyddiad cyflwyno. Wedi i chi dalu'r PCN, rydych wedi derbyn atebolrwydd am y tâl cosb ac ni allwch herio'r PCN mwyach.
Bydd eich PCN yn dangos p'un a ydych yn gorfod talu £50 neu £70. Bydd hyn yn dibynnu ar ddifrifoldeb y tramgwydd:
Tramgwyddau mwy difrifol = £70 (wedi'i ostwng i £35 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod)
Ceir hyn fel arfer pan ystyrier nad ydyw gyrrwr y cerbyd wedi cymryd unrhyw gamau i barcio'n gywir. Er enghraifft, lle mae'r cerbyd wedi'i barcio ar linellau melyn, mewn cilfan i'r anabl heb y drwydded sy'n ofynnol neu mewn safle bws.
Tramgwyddau llai difrifol = £50 (wedi'i ostwng i £25 os caiff ei dalu o fewn 14 diwrnod)
Ceir hyn pan fydd gyrrwr y cerbyd wedi gwneud ymgais i barcio'n gywir. Er enghraifft, lle mae'n arddangos tocyn talu a pharcio sydd wedi dod i ben am y dyddiad dan sylw.
Mae'r taliadau wedi'u pennu gan yr Adran Drafnidiaeth ac fe'u nodir gan y côd tramgwydd sy'n berthnasol i'r tâl cosb a roddwyd.Nid oes disgresiwn gan swyddogion gorfodi sifil wrth roi hysbysiad o gosb benodol i ddweud ai'r tâl uwch neu is fydd yn berthnasol.
Opsiwn 2 - Herio'r PCN
Os ydych chi'n meddwl eich bod wedi derbyn dirwy ar gam neu os oes gennych reswm da yr hoffech ddweud wrthym amdano, gallwch herio dirwy barcio. Cymerwch gip ar y canllaw i PCNau am resymau derbyniol i'w herio: Canllaw i PCNau
Os byddwch yn penderfynu herio dirwy parcio, yna ni ddylech ei thalu nes eich bod yn gwybod canlyniad eich apêl.
Er mwyn herio dirwy parcio, bydd angen:
- y rhif PCN (er enghraifft WJ12345678)
- rhif cofrestru'r cerbyd
Her anffurfiol
Gallwch herio dirwy parcio unrhyw bryd hyd at 28 niwrnod ar ôl y dyddiad y cyflwynwyd y ddirwy. Fodd bynnag, os byddwch yn herio'ch dirwy o fewn 14 diwrnod o'i derbyn, dim ond y swm gostyngedig y byddwch yn ei dalu, hyd yn oed os bydd eich her yn aflwyddiannus.
Cyflwyno her anffurfiol Herio PCN
Sylwadau ffurfiol
Gallwch wneud sylwadau ffurfiol os:
- gwrthodwyd eich her anffurfiol a hoffech apelio yn erbyn y penderfyniad hwn, neu
- nad ydych wedi talu'r PCN ar ôl 28 niwrnod ac rydych yn derbyn 'hysbysiad i'r perchennog'
- bydd gennych 28 niwrnod pellach o'r dyddiad ar yr 'hysbysiad i'r perchennog' i wneud sylwadau ffurfiol
- bydd arnoch angen y côd gwe a argraffwyd ar eich llythyr 'hysbysiad i'r perchennog', eich cyfeirnod WJ a rhif cofrestru'ch cerbyd
Nid oes angen i chi gyflwyno her anffurfiol er mwyn gwneud sylwadau ffurfiol.
Gwneud sylwadau ffurfiol Herio PCN
Os gwrthodir eich sylwadau ffurfiol, byddwn yn eich hysbysu am hyn drwy lythyr. Bydd y llythyr hwn hefyd yn dweud wrthych sut y gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn. Bydd yr apêl yn cael ei thrin gan y Tribiwnlys Cosbau Traffig (Yn agor ffenestr newydd) a bydd eu penderfyniad yn derfynol.
Ffyrdd eraill o herio'ch dirwy
Drwy'r post
Ysgrifennwch atom yn: Gwasanaethau Parcio, Blwch Post 588, Abertawe SA1 9GD
Bydd angen i chi ddyfynnu'r rhif o'ch dirwy, a fydd yn dechrau gyda WJ. Bydd angen i chi hefyd nodi'n glir y rhesymau pam eich bod am herio'r ddirwy.
Os oes angen help arnoch gyda hyn, gallwch ffonio 01792 636000.
Ni allwch herio dirwy barcio dros y ffôn neu yn bersonol. Rhaid gwneud hyn yn ysgrifenedig.
Rheswm am y PCN
Mae côd tramgwydd yn ymddangos ar y PCN a roddwyd ar eich cerbyd. Mae'r côd hwn yn dweud wrth y gyrrwr neu'r perchennog pam y cyflwynwyd y tocyn:
Canllaw i PCNau Canllaw i PCNau
Cael cyngor annibynnol
Os ydych chi eisiau cyngor annibynnol ar sut i ddelio â'ch PCN, ewch i: Cyd-bwyllgor Rheoliadau Parcio a Thraffig y Tu Allan i Lundain (PATROL) (Yn agor ffenestr newydd)