Toglo gwelededd dewislen symudol

Trefniadaeth Ysgolion - Cynlluniau'r dyfodol ar gyfer Cyfleusterau Addysgu Arbennig yn Abertawe

Mae Cyngor Abertawe yn ymgynghori ar y cynnig trefniadaeth ysgolion canlynol.

Adolygiad o Addysgu Arbenigol ar draws Abertawe i sicrhau bod disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol na ellir eu diwallu mewn ysgolion prif ffrwd, ac y mae angen Cyfleuster Addysgu Arbenigol arnynt, yn gallu cael mynediad at gefnogaeth leol a hyblyg i ddiwallu eu hanghenion. 

Yn benodol, bydd hyn yn cynnwys y canlynol:

  1. Ailddynodi 25 o Gyfleusterau Addysgu Arbenigol
  2. Yn newid arbenigeddau 3 CAA
  3. Agor 5 Cyfleuster Addysgu Arbenigol newydd ac ehangu 4 pellach
  4. Cau 5 Cyfleuster Addysgu Arbenigol

Bydd y cynigion hyn yn effeithio ar dderbyniadau disgyblion y dyfodol yn unig - bydd lleoliadau presennol disgyblion yn aros fel y maent.

Mae'r cyfnod ymgynghori ar gyfer y cynnig hwn yn dechrau ar 5 Medi 2024 ac yn dod i ben ar 17 Hydref 2024.

Cliciwch ar y dolenni perthnasol isod i ddarllen y dogfennau ymgynghori a'r wybodaeth gysylltiedig.

Dyma ddolen i'r ffurflen ymgynghori ar-lein.

Byddwn yn diweddaru'r dudalen hon gyda gwybodaeth a datblygiadau drwy gydol y broses.

Dogfen ymgynghori

Rydym yn ymgynghori ar Adolygu'r Addysgu Arbennig ar draws Abertawe i sicrhau bod disgyblion sydd ag anghenion dysgu ychwanegol na ellir eu diwallu yn y brif ffrwd, ac y mae arnynt angen Cyfleuster Addysgu Arbennig yn gallu cael mynediad at gymorth lleol a hyblyg i ddiwallu eu hanghenion.

Ffurflen ymateb

Hoffai Cyngor Abertawe wybod eich barn am y cynnig i adolygu'r Ddarpariaeth Addysgu Arbenigol ar draws Abertawe i sicrhau y gall disgyblion gael mynediad at gefnogaeth leol a hyblyg i ddiwallu eu hanghenion.

Papur ymgynghori â disgyblion

Beth yw dy farn? Os wyt ti'n cael trafferth wrth ddeall y ddogfen hon, gofynna i dy athro am gymorth.

Ffurflen ymateb disgyblion

Hoffen ni gael barn disgyblion am wneud newidiadau i'r ysgolion addysgu arbenigol yn Abertawe.

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 05 Medi 2024