Trefnu parti stryd
Gall cynnal parti stryd fod yn gyfle i ffrindiau a chymdogion ddod ynghyd a dathlu achlysur arbennig gan gynnwys pen-blwyddi a digwyddiadau nodedig.
Mae'r wybodaeth isod yn darparu arweiniad defnyddiol i'ch helpu i gynnal parti stryd llwyddiannus a diogel.
Ble dylwn i ddechrau?
Meddyliwch am yr hyn yr hoffech ei gyflawni - a ydych am ddathlu digwyddiad penodol? Ystyriwch rannu'ch syniad â chymdogion i weld a oes diddordeb gan eraill mewn cymryd rhan. Os oes diddordeb, gall fod yn fuddiol i chi siarad am syniadau a sut i'w rhoi ar waith. Gall y digwyddiad fod mor syml neu gymhleth ag yr hoffech iddo fod.
Gall rhai pethau y mae angen i chi eu hystyried gynnwys:
- Beth yw diben y parti? Beth hoffech chi ei gyflawni e.e. cael hwyl, gwneud ffrindiau, rhannu profiad?
- Pryd ydych chi'n mynd i'w gynnal? Ydy'r dyddiad yn gwrthdaro â digwyddiadau eraill?
- Ble caiff ei gynnal?
- Pwy fydd yn derbyn gwahoddiad?
- A fydd gennych thema ar gyfer y parti?
- Oes angen unrhyw gyfarpar arnoch?
- Pa gymorth fydd ei angen a phwy fydd yn gwneud beth?
- Pa gostau a gynhwysir a phwy fydd yn talu?
- Sut ydych chi'n mynd i hysbysu pobl am y parti?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng parti stryd ac unrhyw ddigwyddiad arall?
Partïon stryd | Digwyddiadau cyhoeddus eraill |
---|---|
I breswylwyr/gymdogion yn unig | Gall unrhyw un fod yn bresennol |
Cyhoeddusrwydd i breswylwyr yn unig | Cyhoeddusrwydd allanol (megis papurau newydd) |
Ar ffordd neu stryd breswyl dawel | Mewn adeiladau, parciau etc |
Hunandrefnedig | Trefnwyr proffesiynol/medrus |
Fe'ch cynghorir i gael yswiriant | Bydd angen yswiriant |
Bydd angen asesiad risg | Bydd angen asesiad risg |
Nid oes angen trwyddedau fel arfer oni bai bod alcohol yn cael ei werthu | Bydd angen trwydded fel arfer |
Mae'r wefan Gov.uk yn darparu cyngor ar drefnu digwyddiadau gwirfoddol a chymunedol (Yn agor ffenestr newydd) a threfnu parti stryd (Yn agor ffenestr newydd).
Pethau i feddwl amdanynt
A fydd angen cau ffordd?
Bydd, bydd yn rhaid i chi gyflwyno cais i Gyngor Abertawe am gau ffordd.
Bydd yn rhaid i chi gwblhau ffurflen gais ar gyfer cau ffordd a darparu cynllun lleoliad a map dargyfeiriol (os yw'n berthnasol) o leiaf 6 wythnoscyn y dyddiad gofynnol. Bydd tîm Gwaith Stryd y cyngor yn eich hysbysu am unrhyw daliadau y gellir eu codi o ganlyniad i'ch cais.
Bydd yn rhaid i chi hefyd drefnu i osod arwyddion a rhwystrau cau ffordd addas, a bydd yn rhaid i Gyngor Abertawe gytuno ar unrhyw lwybrau amgen (os yn berthnasol) ymlaen llaw. Cofiwch nad yw arwyddion na rhwystrau ar gael gan yr heddlu na Chyngor Abertawe. Gallwch eu llogi ar eich traul eich hun neu wneud eich rhai eich hun.
Ceir mwy o wybodaeth ar y wefan Street Party (Yn agor ffenestr newydd).
Os hoffech gael mwy o gymorth wrth gau ffyrdd, cysylltwch â'r Is-adran Gwaith Stryd
Oes angen yswiriant arnaf?
Fel trefnydd y digwyddiad, eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod gennych yswiriant digonol ar gyfer y digwyddiad. Fe'ch cynghorir i gael yswiriant atebolrwydd cyhoeddus fel trefnydd parti stryd. Fel trefnydd, y chi sy'n atebol am unrhyw ddifrod/ddamweiniau o ganlyniad i'ch gweithredoedd yn ystod gwaith gosod y digwyddiad, y digwyddiad a gwaith dad-osod.
Oes angen trwydded alcohol arnaf?
Bydd angen trwydded os caiff alcohol ei werthu'n unig. Bydd yn rhaid i drefnwyr digwyddiadau sy'n bwriadu gwerthu alcohol gyflwyno cais 10 niwrnod cyn y digwyddiad am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro, sy'n costio £21. Gallwch gyflwyno cais am hysbysiad o ddigwyddiad dros dro ar lein.
Hoffwn chwarae cerddoriaeth - oes angen trwydded arnaf?
Nid oes angen trwydded arnoch ar gyfer cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth a recordiwyd ymlaen llaw, os:
- Nid oes angen trwydded arnoch ar gyfer cerddoriaeth fyw neu gerddoriaeth a recordiwyd ymlaen llaw, os
- nid yw'r gerddoriaeth wedi'i hysbysebu ymlaen llaw i ddenu pobl neu i wneud arian
Mae'n dda i chi gofio na ddylai cerddoriaeth fod yn rhy uchel ac mae'n rhaid iddi gael ei diffodd cyn 11.00pm.
Os hoffech gael mwy o gymorth gyda thrwyddedau, cysylltwch â'r Is-adran Gwaith Stryd.
Os oes angen trwydded, hysbysiad o ddigwyddiad dros dro neu unrhyw wybodaeth bellach arnoch chi mewn perthynas â thrwyddedu, ceir gwybodaeth ar ein tudalennau trwyddedu
Oes angen hawlen neu drwydded arnaf i weini bwyd?
Nac oes - fel parti preifat, nid oes angen trwydded arnoch o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 i werthu bwyd (oni bai eich bod am werthu bwyd poeth ar ôl 11.00pm). Mae 'dod â bwyd a rhannu' neu 'ginio cymunedol' yn ffyrdd gwych o gael pawb i helpu gyda'r arlwyo - mae'n rhannu'r baich ac yn cynyddu amrywiaeth y bwyd sydd ar gael. Gallwch chi ofyn i'ch cymdogion bobi teisennau, gwneud brechdanau neu ddod â bwyd i'w rannu â'i gilydd. Mae hon hefyd yn ffordd dda o ddod â grwpiau gwahanol o bobl ynghyd.
Pan fyddwch yn cynllunio parti sy'n cynnwys gweini neu rannu bwyd, gwnewch yn siŵr bod pawb sy'n dod â bwyd yn ymwybodol o'r canllawiau Alergeddau ac Anoddefiadau Bwyd (Yn agor ffenestr newydd).
Iechyd a Diogelwch
Mae pob person am i'w ddigwyddiad fod yn ddiogel ac yn llwyddiannus. Cynllunio ymlaen llaw yw'r elfen allweddol ac, fel rhan o hyn, bydd angen i chi gynnal asesiad risg fel y gallwch fod yn hyderus y bydd y diwrnod yn llwyddiannus. Mae angen asesiad risg ar Gyngor Abertawe i gau ffordd gyhoeddus.
Mae cynnal asesiad risg yn ffordd o wirio pa beryglon sy'n fwyaf tebygol o ddigwydd, pwy allai gael ei niweidio a pha gamau ymarferol y gellir eu cymryd i leihau'r niwed hwnnw.
Rydym yn cynnal tombola/raffl - oes angen caniatâd arnom?
Os gwerthir y tocynnau ar gyfer y tombola/raffl ar y diwrnod yn unig ac nid yw'r gwobrau'n werth mwy na £500 gyda'i gilydd, yna bydd wedi'i eithrio rhag rheoliadau gamblo. Mae'n rhaid i unrhyw elw o'r tombola/raffl fynd i achos da megis elusen neu hyd yn oed gael ei ddefnyddio i dalu am gost eich parti. Fel arall, os hoffech godi peth arian ar gyfer eich eglwys neu'ch elusen leol, gallwch ofyn i bobl am roddion.
Cyfathrebu
Mae cyfathrebu da'n hanfodol ar gyfer sicrhau digwyddiad llwyddiannus. Mae'n syniad da i chi hysbysu pawb ar eich stryd am eich parti hyd yn oed os nad ydynt am gymryd rhan neu ddod iddo. Gall gwybodaeth bwysig y dylech ei rhannu gynnwys:
- Dyddiad y parti
- Amserau agor a chau
- Amserau cau ffyrdd
- Unrhyw gerddoriaeth
Os oes unrhyw fusnesau ar eich stryd, rhowch wybod iddynt cyn gynted â phosib oherwydd efallai y byddant am gymryd rhan ond bydd hyn hefyd yn helpu i leihau unrhyw darfu ar eu gweithredu dyddiol.
Mae cylchlythyr, cyfarfod anffurfiol neu sgwrs syml i gyd yn ffurfiau derbyniol o gyfathrebu a pho fwyaf o wybodaeth y rhoddwch ymlaen llaw, gorau y bydd.
Gan ddibynnu ar leoliad eich stryd, efallai y byddwch am hysbysu'r gwasanaethau brys, eich aelod ward lleol ac unrhyw fusnesau gerllaw am y parti.
Gwastraff a glanhau
Cofiwch y bydd yn rhaid i chi lanhau ar ôl y digwyddiad a bydd yn rhaid i chi neilltuo biniau a sachau ailgylchu a gwastraff at y diben hwn. Cymerwch gipolwg ar ein Casgliadau ymyl y ffordd a gwnewch yn siŵr eich bod yn gofyn i bobl wahanu eu gwastraff wrth iddynt ei waredu. Gallwch waredu'ch gwastraff drwy ddefnyddio'r gwasanaeth casglu ymyl y ffordd ond cofiwch gadw at y terfyn o 3 sach ddu ar gyfer pob aelwyd.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am waredu unrhyw wastraff/sbwriel a gesglir. Ffefrir ailgylchu neu ailddefnyddio bob amser yn hytrach na sbwriel, felly ystyriwch sut rydych yn bwriadu gweini diodydd a bwyd a'r hyn y byddwch yn gofyn i bobl ddod â hwy (a mynd â hwy adref).