Toglo gwelededd dewislen symudol

Cynllun Datblygu Lleol Abertawe 2023-2038 (CDLl2)

Mae gwaith wedi dechrau i baratoi cynllun datblygu newydd ar gyfer Abertawe. Pan gaiff ei fabwysiadu, bydd CDLl2 yn disodli'r Cynllun Datblygu Lleol presennol a bydd yn darparu'r glasbrint cynllunio newydd ar gyfer datblygu yn y dyfodol ar draws Abertawe hyd at 2038.

LDP2 logo
Bydd y cynllun newydd yn nodi sut a ble y dylai datblygiad ddod ymlaen i gyd-fynd ag uchelgeisiau twf a nodwyd. Ei nod fydd sicrhau bod y datblygiad cywir yn digwydd yn y lle cywir ar yr adeg gywir, er budd cymunedau a'r economi leol, a bod amddiffyniad digonol yn cael ei roi i'n hamgylchedd naturiol.

Bydd y cynllun yn nodi nifer y cartrefi a'r swyddi newydd y mae angen i ni gynllunio ar eu cyfer, a bydd yn nodi'r lleoliadau yn Abertawe lle bydd safleoedd tai a chyflogaeth newydd. Bydd hefyd yn darparu fframwaith i sicrhau tai fforddiadwy a seilwaith newydd drwy'r broses ddatblygu, gan gynnwys ysgolion newydd, mannau chwarae, llwybrau beicio a hyd yn oed seilwaith gwyrdd.

Ar ôl ei gwblhau a chytuno arno, bydd pob cais cynllunio ar gyfer datblygiad arfaethedig yn Abertawe yn y dyfodol yn cael ei benderfynu ar sail yr hyn sydd yn CDLl2.

Y newyddion diweddaraf

Cam cynnar pwysig yn y gwaith o baratoi CDLl2 yw penderfynu ar y materion allweddol, y weledigaeth gyffredinol a'r prif amcanion sy'n darparu'r sylfaen ar gyfer Strategaeth y Cynllun ac yn y pen draw ein polisïau lleol penodol.  Ochr yn ochr â hyn, mae angen i ni hefyd ystyried gwahanol senarios o ran maint a math y twf y dylai Abertawe gynllunio ar ei gyfer, yn seiliedig ar y dystiolaeth sydd ar gael am bethau fel newidiadau yn y boblogaeth yn y dyfodol a sut bydd economi'r dyfodol yn edrych. Mae hyn yn cynnwys syniadau ynghylch sut y gellid lledaenu twf yn y dyfodol ar draws y sir a lle y dylid canolbwyntio datblygiad.

Ewch i'n porth ymgynghori i gofrestru'ch manylion er mwyn cael gwybod am ddiweddariadau i CDLl2 yn y dyfodol ac er mwyn i ni ymgynghori â chi fel rhan o ymgynghoriadau yn y dyfodol.

Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol

I sicrhau bod Cynlluniau Datblygu Lleol (CDLlau) yn gyfredol, mae'n ofynnol i gynghorau adolygu eu cynlluniau o leiaf unwaith bob pedair blynedd.

Cytundeb cyflawni ddrafft

Y Cytundeb Cyflawni (CC) yw'r cam allweddol cyntaf ar gyfer paratoi Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl2)

Safleoedd ymgeisiol

Mae safle ymgeisiol yn ardal o dir wedi'i diffinio a gyflwynir i'r cyngor gan barti â diddordeb i'w gynnwys o bosib yn y Cynllun Datblygu Lleol Abertawe (CDLl2).

Gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gyfer twf

Bydd nodi'r materion, y cyfleoedd a'r heriau allweddol sy'n wynebu Abertawe, a diffinio gweledigaeth, amcanion ac opsiynau ar gyfer twf yn gosod yr agenda strategol ar gyfer CDLl2.

Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd

Caiff y CDLl2 ei lywio gan yr Arfarniad Cynaladwyedd Integredig a'r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC) i sicrhau yr asesir effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol y CDLl2.

Cysylltwch â thîm y CDLl

Enw
Creu Lleoedd a Strategol Cynllunio
Rhif ffôn
07814105625