Toglo gwelededd dewislen symudol

Cyfrifiad 2021: canlyniadau cyntaf

Cyhoeddwyd canlyniadau'r cyfrifiad cyntaf ar gyfer ardaloedd awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) ar 28 Mehefin 2022.

Nododd Cyfrifiad 2021 mai poblogaeth breswyl arferol Abertawe oedd 238,500; tua 500 neu 0.2 y cant yn llai na chyfanswm Cyfrifiad 2011.

Roedd dros un o bob pump (22 y cant, 52,600) o drigolion Abertawe o dan 20 oed, gyda thua 21% (48,900) yn 65 oed a throsodd.

Mae nodyn briffio (PDF) [1003KB] cryno sy'n manylu ar ganlyniadau Cyfrifiad 2021 cyntaf Abertawe ar gael ar y dudalen hon.  Mae nodyn briffio atodol hefyd ar gael (PDF) [855KB], sy'n cynnwys gwybodaeth o'r canlyniadau cyntaf ar aelwydydd; dwysedd poblogaeth; elfennau'r amcangyfrifon; cyfraddau ymateb; ymatebion ar-lein; a dolenni i adroddiadau cychwynnol y SYG.  Bydd rhagor o wybodaeth a dadansoddiadau yn dilyn wrth i ddata ychwanegol gael ei gyhoeddi.

Mae gwybodaeth gefndir am Gyfrifiad 2021, gan gynnwys dolenni i wefan Cyfrifiad SYG, ar gael yma

Ni chyhoeddwyd ystadegau ar gyfer ardaloedd bach (islaw lefel awdurdod lleol) ac ar nodweddion poblogaeth penodol pan ryddhawyd Cyfrifiad 2021 gyntaf.   Fodd bynnag, mae ystadegau ar gyfer ardaloedd bach gan gynnwys wardiau a daearyddiaethau ystadegol bellach ar gael yn awr ac mae data ar gyfer ardaloedd yn Abertawe wedi'u cynnwys yn y tudalennau canlynol:

  • Poblogaeth fesul oedran
  • Dwysedd poblogaeth
  • Aelwydydd (gyda phreswylwyr) Preswylwyr arferol sy'n byw mewn cartrefi a sefydliadau cymunedol; Maint cyfartalog aelwyd.

Ers hynny, mae'r SYG wedi cyhoeddi data Crynodeb Pwnc hefyd o Gyfrifiad 2021 ar ystod o nodweddion poblogaeth ac aelwydydd.

Caiff rhagor o wybodaeth a dadansoddiadau data o Gyfrifiad 2021 eu hychwanegu at y tudalennau hyn cyn gynted â phosib.

Os oes gennych fwy o ymholiadau ynghylch ystadegau poblogaeth Abertawe, cysylltwch â ni.