Toglo gwelededd dewislen symudol

Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe

Mae Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe'n dod â rhanddeiliaid sefydliadol allweddol ynghyd yn Abertawe i gydlynu adnoddau a datblygu mentrau sy'n cefnogi'r agenda trechu tlodi.

Mae'r fforwm yn ystyried materion cyfredol, tueddiadau a chyfleoedd, mae'n gwella rhwydweithio, gweithio mewn partneriaeth a sut caiff adnoddau eu clustnodi i gefnogi gwell canlyniadau i bobl Abertawe.

Mae blaenoriaethau Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe yn unioni'n fras â gweledigaeth Cyngor Abertawe o geisio cyflawni Abertawe lle:

  • Nid yw tlodi incwm yn rhwystr i fod yn llwyddiannus yn yr ysgol, cael bywyd iach a bywiog, datblygu sgiliau a chymwysterau a chael swydd foddhaus.
  • Eir i'r afael â thlodi gwasanaethau drwy glustnodi adnoddau lle gallant gael yr effaith fwyaf, gyda phenderfyniadau ar hynny'n cael eu gwneud ar y cyd â defnyddwyr gwasanaethau.
  • Mae ein holl breswylwyr yn mwynhau cyfranogi ac mae ganddynt y cyfle a'r adnoddau i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a hamdden ac wrth wneud penderfyniadau.
  • Mae preswylwyr yn mwyafu eu hincwm ac yn gwneud y mwyaf o'r arian sydd ganddynt. 
  • Mae preswylwyr yn osgoi talu'r 'Premiwm Tlodi', sef y costau ychwanegol y mae'n rhaid i bobl ar incwm isel eu talu am hanfodion megis tanwydd a chludiant.
  • Caiff Rhwystrau i Gyflogaeth megis trafnidiaeth a gofal plant eu diddymu.

Mae'r fforwm yn cwrdd bob chwarter a chaiff ei gadeirio gan Wasanaeth Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.

Mae aelodau'n cynrychioli ystod eang o sefydliadau o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector.

Gall sefydliadau a hoffai ymuno â Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe e-bostio: tacklingpoverty@swansea.gov.uk i gael gwybod mwy.

Close Dewis iaith