Toglo gwelededd dewislen symudol

Gweithio mewn partneriaeth i helpu i drechu tlodi yn Abertawe

Ar hyn o bryd mae tri fforwm yn Abertawe sy'n helpu i fynd i'r afael â materion ynghylch tlodi yn yr ardal.

  1. Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe (FfPTA)
  2. Fforwm Cynhwysiant Ariannol (FfCA)
  3. Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe (RhTBA)

Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe (FfPTA)

Diben Fforwm Partneriaeth Tlodi Abertawe yw dod â sefydliadau a gwasanaethau yn Abertawe ynghyd i gymryd ymagwedd gyfunol at gamau gweithredu lleol i fynd i'r afael â thlodi yn ein dinas.

Mae'r fforwm yn canolbwyntio ar gydweithio a chefnogaeth, gan ddarparu man i rwydweithio a rhannu arferion da; negeseuon allweddol, adnoddau, gwybodaeth am hyfforddiant a digwyddiadau sydd ar ddod; nodi bylchau / rhwystrau; tueddiadau lleol; a datblygu / llywio cyfleoedd newydd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chydweithio.

Clustnodir amser yn ystod pob cyfarfod ar gyfer diweddariadau gan bartneriaid. Mae'r fforwm ar agor i gynrychiolwyr pob sefydliad cyhoeddus a thrydydd sector, a gwasanaethau a chanddynt ymrwymiad a rennir i drechu tlodi yn Abertawe ac sydd eisoes yn ymwneud â hyn. Mae FfPTA yn cwrdd bob chwarter, ar-lein drwy Microsoft Teams a chaiff ei gydlynu a'i hwyluso gan Dîm Datblygu Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod a chynrychioli'ch sefydliad neu wasanaeth yn y cyfarfodydd hyn, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Trechu Tlodi. E-bost: tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Fforwm Cynhwysiant Ariannol (FfCA)

Diben y Fforwm Cynhwysiant Ariannol yw hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth i gynyddu cynhwysiant, gallu a lles ariannol; gyda'r nod o leihau effaith tlodi yn Abertawe.

Mae'r fforwm yn canolbwyntio ar gydweithio a chefnogaeth, gan ddarparu man i rwydweithio a rhannu arferion da; negeseuon allweddol, adnoddau, gwybodaeth am hyfforddiant a digwyddiadau sydd ar ddod - gyda ffocws ar gynhwysiant ariannol a lles ariannol; nodi bylchau / rhwystrau; tueddiadau lleol; a datblygu / llywio cyfleoedd newydd ar gyfer gweithio mewn partneriaeth a chydweithio.

Clustnodir amser yn ystod pob cyfarfod ar gyfer diweddariadau gan bartneriaid. Mae'r fforwm ar agor i gynrychiolwyr pob sefydliad a gwasanaeth yn Abertawe sy'n darparu cefnogaeth, neu sy'n rhanddeiliad yn y gwaith, i wella a hyrwyddo cynhwysiant, gallu a lles ariannol. Mae'r FfCA yn cwrdd bob chwarter, ar-lein drwy Microsoft Teams a chaiff ei gydlynu a'i hwyluso gan Dîm Datblygu Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod a chynrychioli'ch sefydliad neu wasanaeth yn y cyfarfodydd hyn, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Trechu Tlodi. E-bost: tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe (RhTBA)

Diben Rhwydwaith Tlodi Bwyd Abertawe (RhTBA) yw dod â sefydliadau a gwasanaethau yn Abertawe sy'n ymwneud yn uniongyrchol â darparu bwyd i bobl sy'n profi tlodi bwyd neu ansicrwydd bwyd yn Abertawe at ei gilydd.

Ffocws y rhwydwaith yw cydweithio a chefnogaeth, a darparu man ar gyfer: rhwydweithio; rhannu arfer da; rhannu gwybodaeth ac adnoddau; cefnogi atgyfeiriadau a sicrhau bod pobl yn gwybod sut ac ym mhle i gael mynediad at gymorth bwyd; cydlynu gwasanaethau a llenwi bylchau mewn darpariaeth, nodi tueddiadau lleol a chyfleoedd newydd, cysylltu â chefnogaeth ehangach a chefnogi gwirfoddolwyr.

Mae'r rhwydwaith ar agor i holl gynrychiolwyr y canlynol, er enghraifft: banciau bwyd; pantrïau cymunedol; nwyddau groser cymunedol; mannau rhannu bwyd / sefydliadau sy'n darparu bwyd poeth, ynghyd â chysylltiadau allweddol o sefydliadau sy'n darparu cefnogaeth argyfwng ehangach.

Mae RhTBA yn cwrdd bob deufis, ar-lein drwy Microsoft Teams a chaiff ei gydlynu a'i hwyluso gan Dîm Datblygu Trechu Tlodi Cyngor Abertawe.

Os oes gennych ddiddordeb mewn dod a chynrychioli'ch sefydliad neu wasanaeth yn y cyfarfodydd hyn, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Trechu Tlodi. E-bost: tacklingpoverty@abertawe.gov.uk

Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu
Addaswyd diwethaf ar 20 Awst 2024