Toglo gwelededd dewislen symudol

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Gwybodaeth am wyliau'r banc - Nadolig a'r Flwyddyn Newydd Gwybodaeth am wyliau'r banc ar gyfer ein gwasanaethau, gan gynnwys amserau agor, casgliadau ailgylchu a chysylltiadau brys.

Strategaeth Hygyrchedd 2024-2027

Strategaeth Hygyrchedd - Atodiad 2

 

Bywydau Llawn: Mynediad Cyfartal Adroddiad dilynol ar hygyrchedd i ddefnyddwyr cadair olwyn mewn ysgolion yng Nghymru (Comisiynydd Plant Cymru 2018) (https://www.childcomwales.org.uk/wp-content/uploads/2018/03/Full-Lives-Equal-Access.pdf)

Canfu'r adroddiad hwn fod y mwyafrif o awdurdodau lleol wedi adrodd rhywfaint o gynnydd ers yr adroddiad gwreiddiol yn 2014. Fodd bynnag, mae'r adroddiad yn nodi bod lle i ddatblygu ymhellach, yn enwedig y canlynol y dylid eu hystyried gan awdurdodau lleol:

  • Dylai pob awdurdod lleol gyhoeddi eu strategaethau hygyrchedd ar eu gwefannau, a dylai cynlluniau hygyrchedd ysgolion fod ar gael ar-lein hefyd.
  • Mae angen i staff mewn awdurdodau lleol wybod bod y dogfennau hyn yn bodoli a gallu darparu'r fersiynau diweddaraf i deuluoedd sy'n holi amdanynt. Byddai codi ymwybyddiaeth a hyfforddiant yn cynorthwyo gyda hyn, a byddem hefyd yn argymell bod adeiladau ac adrannau addysg awdurdodau lleol yn berchen ar y dogfennau hyn ar y cyd, er mwyn rhannu gwybodaeth glir a chyfredol â theuluoedd.
  • Mae ymgynghori â phlant a phobl ifanc a'u teuluoedd yn ddyletswydd o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 ac mae'n rhaid iddo fod yn rhan o'r strategaethau a chynlluniau er mwyn gwneud y rhain yn ystyrlon a chynnal hawliau plant ledled Cymru. Dylai pob awdurdod lleol ac ysgol felly ymgynghori â phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd wrth baratoi eu strategaeth neu gynllun.
  • Dylai Awdurdodau Lleol ddefnyddio Dull Gweithredu seiliedig ar Hawliau Plant yn eu holl waith sy'n ymwneud â hygyrchedd i blant a phobl ifanc, i alluogi disgyblion a'u teuluoedd i wneud dewisiadau gwybodus ac i gynorthwyo mwy o ddisgyblion ag anableddau i fynychu'r ysgol o'u dewis, gyda'u ffrindiau.
Close Dewis iaith

Rhannu'r dudalen hon

Eicon Facebook Eicon Twitter Eicon e-bost

Argraffu

Eicon argraffu